Disgwyl grant £500m ar gyfer ffwrnais drydan ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i weinidogion yn San Steffan gyhoeddi grant gwerth £500m tuag at gost ffwrnais drydan newydd ar safle cwmni dur Tata ym Mhort Talbot.
Yn ôl ffynonellau undebol, mae'r cytundeb yn dod gyda sicrwydd am fuddsoddiad pellach, gan gynnwys y posibilrwydd o ddatblygu dur ar gyfer tyrbinau gwynt morol.
Roedd y llywodraeth geidwadol ddiwethaf wedi cytuno mewn egwyddor i roi grant o £500m tuag at y gost o £1.25bn i adeiladu'r ffwrnes drydan - fydd yn cael ei ddefnyddio i losgi dur sgrap.
Roedd y blaid Lafur wedi addo cadw at y cytundeb yn ystod yr ymgyrch etholiadol, a'r disgwyl yw eu bod am gadarnhau'r cynlluniau yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.
Mae cwmni dur Tata wedi dechrau'r broses o gau ei ffwrneisi dur ym Mhort Talbot, gyda disgwyl i'r ail o ddwy ffwrnes gau cyn diwedd mis Medi.
Y disgwyl yw y bydd tua 2,500 o weithwyr yn colli eu swyddi, gyda 300 yn rhagor i golli eu swyddi wedi hynny.
Tra bod Llafur wedi addo cadw at addewid y llywodraeth Geidwadol o £500m, maen nhw hefyd wedi addo £2.5bn pellach tuag at ddyfodol y diwydiant dur ym Mhrydain.
Mae gweinidogion hefyd wedi bod yn trafod ag undebau a chwmni Tata ynglŷn â chadw gwaith cynhyrchu dur yn ne Cymru yn y dyfodol.
Daw ar ôl i'r undebau a chwmni Tata gytuno ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth.
Mae’n cynnwys ymrwymiad gan y cwmni i ystyried buddsoddiadau yn y dyfodol mewn technoleg plât dur newydd, ac i gefnogi ei safleoedd Cymreig eraill yn llawn mewn ardaloedd fel Llanwern, Trostre a Shotton.
- Cyhoeddwyd3 Mai
- Cyhoeddwyd2 Chwefror
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2023
Bydd cyflenwadau trydan rhatach yn “allweddol” ar gyfer dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru, yn ôl pennaeth y corff sy’n cynrychioli'r diwydiant.
Yn ôl Gareth Stace, cyfarwyddwr cyffredinol UK Steel, mae angen cymorthdaliadau gan Lywodraeth y DU i sicrhau trydan ar gael i gwmnïau fel Tata am "bris cystadleuol".
“Wrth i’r sector dur yn y DU symud i ffwrneisi cwbl drydanol, ac felly’n defnyddio llawer iawn o drydan, mae cael trydan am bris cystadleuol yn hanfodol i lwyddiant yn y dyfodol,” meddai.
Dywedodd y dylai'r llywodraeth ddefnyddio peth o'i chronfa gwerth £2.5bn i leihau costau trydan i gynhyrchwyr dur.
“Dydyn ni ddim yn gofyn am [y trydan] rhataf yn y byd, ond rydym am i’n prisiau trydan fod yn debyg i’r hyn sydd ar gael yn Ffrainc a’r Almaen, lle mae ein prif gystadleuwyr,” ychwanegodd Mr Stace.
Mae UK Steel hefyd eisiau i'r llywodraeth brynu mwy o ddur o'r DU ar gyfer prosiectau mawr, ac i leihau’r defnydd o ddur sydd wedi'i fewnforio.
Mae’r corff hefyd eisiau rhagor o ymrwymiadau ynghylch buddsoddiadau yn y dyfodol, er enghraifft mewn cyfleusterau dur newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Busnes a Masnach ei bod “eisoes yn dod â chostau ynni ar gyfer diwydiannau pwysig fel dur yn y DU yn agosach at economïau mawr eraill” trwy gynllun arbennig, tra bod sefydlu’r corff Great British Energy yn golygu bod "y llywodraeth hon yn cyflymu'r newid tuag at bŵer glân rhatach” sydd wedi’i chynhyrchu ym Mhrydain.
“Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag undebau llafur a busnesau i sicrhau trawsnewidiad dur gwyrdd sy’n iawn i’r gweithlu ac sy’n diogelu dyfodol y diwydiant dur ym Mhrydain,” meddai’r llefarydd.
Mae Tata Steel, undebau llafur a gwleidyddion Llafur i gyd wedi galw am gefnogaeth y llywodraeth i adeiladu’r dechnoleg fyddai’n caniatáu cynhyrchu plât dur ar gyfer tyrbinau gwynt yn ne Cymru.
Dywedodd Gareth Stace: “Er mwyn i ni allu cyflenwi’r sector ynni gwynt yn y dyfodol, mae’n debyg bod angen melin plât trwm yn y DU.
“Nawr, fe fydd hynny’n costio ychydig gannoedd o filiynau o bunnoedd, ond rydyn ni eisiau ei wneud yn iawn.
“Felly mae angen i ni eistedd i lawr gyda’r llywodraeth, a gweithio allan y ffordd orau o wario’r buddsoddiad hwnnw.”
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod Llafur wedi sylweddoli mai'r cytundeb gorau ar y bwrdd oedd hwnnw yr oedd y llywodraeth Geidwadol wedi ei lunio yn wreiddiol.