'Cael fy nghymell i weithio yn Gaza a'r Lan Orllewinol'
- Cyhoeddwyd
Ar y diwrnod y daeth cadoediad Llain Gaza i rym, dywed heddychwraig o Gymru sydd wedi treulio cyfnodau yn Gaza ac ar y Lan Orllewinol ei bod "wir yn gobeithio y bydd y cadoediad yn para ac mai'r cam cyntaf yw hynny".
Mae'r Grynwraig, Jane Harries, o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi treulio cyfnodau helaeth yn y Dwyrain Canol gyda grwpiau eciwmenaidd sy'n cadw golwg ar y sefyllfa yno ac yn sicrhau bod Israeliaid a Phalesteiniaid fel ei gilydd yn medru edrych ymlaen at ddyfodol heb drais.
Wrth ymateb i'r digwyddiadau diweddaraf dywedodd: "Mae angen trafodaethau heddwch go iawn lle mae anghenion a hawliau y ddwy ochr yn cael eu hystyried o ddifrif.
"Cam wrth gam, wrth gwrs, ond mae angen rhywbeth tebyg i'r broses a ddigwyddodd yn Ne Affrica.
"Mae cadoediad yn gam ymlaen ond ddim yn datrys y sefyllfa. Mae angen rhywbeth mwy dwfn."
Wrth siarad am ei phrofiadau gyda Cymru Fyw, mae Jane Harries yn pwysleisio nad gweithredu fel gwleidydd oedd hi ond mynd i ardaloedd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol gyda heddychwyr eraill er mwyn sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu parchu.
"Y peth na'th 'neud i fi fynd yno yn y lle cyntaf oedd dod i adnabod menywod oedd yn perthyn i fudiadau heddwch o'r ddwy ochr," meddai.
"[R]oedd y Palestiniaid a menywod a oedd yn perthyn i fudiadau heddwch yn Israel yn dweud bod yn rhaid i chi ddod i edrych ar y sefyllfa drosoch eich hunan.
"Mae yna golledion ar y ddwy ochr, wrth gwrs, gyda dinasyddion diniwed yn dioddef ond wrth fynd i'r lan orllewinol be mae rhywun yn ei weld yw bod y Palestiniaid yno yn byw o dan drefn filitaraidd a bod y fyddin yn rheoli pob agwedd ar eu bywyd nhw.
"Mae'n anodd teithio o un man i'r llall heb gael eich stopio ar y checkpoints. Does dim cyfartaledd o gwbl."
"Pan o'n i'n byw yno - y tro cyntaf am dri mis - un o'r problemau oedd bod ffermwyr mewn ardal wledig ger Nablus ddim yn rhydd i fynd i gasglu olifau neu i edrych ar ôl y caeau gan fod y tir ochr arall y ffens neu'r wal - roedden nhw ond yn cael mynd ar amser penodol," ychwanegodd.
"Ro'dd y pentrefwyr wedi cael eu hamgylchynu gan settlers sy'n gallu bod yn hynod ymosodol ac roedden ni yna i amddiffyn y pentrefwyr.
"Dwi'n cofio bod un tro yn Nyffryn Iorddonen ac roedd y fyddin wedi mynd â'r tanciau dŵr oedd fod i'r bobl leol - yn wahanol i'r settlers roedd y bobl oedd yn byw yno go iawn yn gorfod prynu dŵr ond roedd y tymheredd yn 40 ac roedden nhw'n sychedig.
"Petai tân yn cael ei gynnau ar eu tiroedd roedden ni'n mynd yno.
"Roeddwn i yn lygaid a chlustiau yn wir i bobl oedd ddim yn cael siarad drostyn nhw eu hunain - a'r hyn oedd yn bwysig ein bod ni'n adrodd am hyn wedi dod nôl adref gan adael gwleidyddion ac eraill i wybod achos chi ddim yn clywed am y pethau hyn ar y newyddion."
'Fel Prydeiniwr chi'n teimlo'n rhannol gyfrifol'
Dywed Jane sy'n wraig ac yn fam i dri o blant ei bod yn teimlo'n angerddol am y gwaith a'i bod wedi bod yn mynd i'r lan orllewinol yn gyson rhwng 2005 a 2016.
"Yr anghyfiawnder sydd wedi fy nghymell i wneud y gwaith, ac fel Prydeiniwr chi'n teimlo bo chi'n rhannol gyfrifol am y sefyllfa yn y lle cyntaf oherwydd Balfour, ac yn y blaen."
Mae Jane Harries yn pwysleisio mai bwriad y timau y bu hi'n rhan ohonyn nhw oedd cydweithio rhwng y ddwy ochr.
"Un peth gwych ddigwyddodd yw bod sefydliad B'Tselem sef grŵp hawliau dynol Israelaidd wedi rhoi camerâu i'r Palesteiniaid fel bod tystiolaeth o'r hyn oedd yn digwydd - roedd hynna'n rhywbeth dewr iawn i'w wneud ond yn wych."
Ychwanega ei bod wedi bod yn hynod anodd gwylio'r hyn sydd wedi digwydd dros y misoedd diwethaf ond "ein bod chwaith ddim yn cael y manylion i gyd".
"Dwi mewn cysylltiad cyson gyda ffrindiau yng Nghaersalem ac mae gen i un ffrind hefyd a arferai fyw yn Ninas Gaza - mae e wedi colli ei dŷ ac wedi cael profiadau erchyll.
"Y gwir yw ni ddim yn mynd i ddatrys y broblem drwy drais. Yr unig beth sy'n mynd i weithio yw rhyw fath o drafodaethau go iawn dros amser."
Roedd Jane Harries yn ymateb i'r cadoediad yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg sydd i'w glywed ar BBC Sounds