Rhai rhieni 'dan bwysau i brynu ffonau clyfar' i'w defnyddio yn yr ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni fel Celeste Lewis mewn cyfyng gyngor am roi ffonau clyfar i'w plant.
O fewn wythnosau i ddechrau ysgol uwchradd, daeth merch Ms Lewis o Gaerdydd adre' yn ei dagrau am nad oedd ganddi declyn o'r fath i'w ddefnyddio yn y dosbarth.
Ym mis Chwefror eleni fe gyhoeddodd llywodraeth Rishi Sunak ganllaw cadarn i wahardd ffonau symudol mewn ysgolion yn Lloegr.
Ond does yna ddim cysondeb o'r fath yng Nghymru, lle mae addysg wedi ei ddatganoli.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gweinidog addysg yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod polisïau yn eu lle i leihau effeithiau negyddol ar les plant tra'n annog dysgu.
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd20 Medi 2019
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2024
Mae rhai ysgolion eisoes wedi penderfynu gwahardd ffonau symudol ond mae eraill - fel yr un lle mae merch Ms Lewis yn ddisgybl - yn hyrwyddo eu defnydd mewn gwersi fel adnodd pwysig.
Yn ôl Ms Lewis, mae rhieni fel hi dan bwysau i brynu ffonau clyfar.
"Erbyn blwyddyn 6 byddwn i'n dweud bod gan bob plentyn arall yn ei dosbarth ffôn," meddai.
"Wnes i feddwl fawr ddim ynglŷn â sut fyddai ffonau clyfar yn cael eu defnyddio yn ysgol uwchradd Ava, Whitchurch High.
"Dewisais beidio prynu un oherwydd pryderon ynglŷn â sut gallai hyn effeithio ar ei hiechyd meddwl a'i lles.
"Yn naïf nes i gymryd na fyddai ffonau clyfar yn cael eu defnyddio."
'Defnydd priodol o ffonau symudol'
Dywedodd llefarydd ar ran Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, ble mae Ava yn ddisgybl, eu bod yn ceisio "paratoi myfyrwyr ar gyfer eu bywyd y tu hwnt i’r ysgol", a bod hynny'n cynnwys "defnydd priodol o ffonau symudol a dyfeisiau trydanol".
"Rydym wedi datblygu polisi defnydd derbyniol ar gyfer ffonau symudol a dyfeisiau trydanol," meddai.
"Rydym yn adolygu ein polisi yn rheolaidd ac yn addysgu myfyrwyr ar ddefnydd derbyniol a phriodol."
Yn ôl Ava, meddai ei mam, mae plant yn cael eu hannog i ddefnyddio ffonau mewn rhai gwersi, er enghraifft i chwilio am leoliad drwy Google Earth.
Mae Ms Lewis yn barod i gydnabod bod yr ysgol wedi bod yn gefnogol ar ôl iddi gysylltu â nhw, gan gynnig teclyn clyfar mewn gwersi i Ava.
Ond dyw ei mam ddim am ei gweld dan anfantais.
"Mae mor anodd i bob rhiant yng Nghymru, achos ni'n styc. Does neb yn gw'bod beth yw'r answer.
"Mae pob plentyn am gael ffôn clyfar achos mae pawb arall yn cael un.
"Does neb yn gw'bod beth i'w wneud. Mae fel 'rock and a hard place."
"Rwy'n teimlo'n euog nawr fel rhiant," meddai'r fam i ddau, sydd bellach wedi penderfynu rhoi ffôn i i'w phlentyn, ond nid un clyfar.
Un sy'n rhannu'r un pryderon ydy Owen Williams, arbenigwr ar gyfryngau cymdeithasol, sydd hefyd yn dad i ddau o blant ac yn gadeirydd llywodraethwyr ar ysgol gynradd.
"Nage ffôns yw'r dyfeisiadau yma mwyach. Fyddi di ddim yn ffeindio plentyn yn 'neud galwad ffôn o ddyfais fel hyn.
"Dyfais digidol - dyfais ymgysylltu yw e nawr. Mae'n borth i'r byd - unrhyw beth."
Mae'n dweud bod plant yn aml yn gallu codi unrhyw gyfyngiadau sy'n cael eu gosod ar ddyfeisiadau, gan ddod wyneb yn wyneb â byd tywyll yn rhy hawdd, megis pornograffi a gwaeth.
Galw am ddeddfu
Yn ôl Mr Williams mae yna genhedlaeth o rieni sy' ddim yn llwyr ymwybodol o'r hyn maen nhw'n rhoi i'w plant pan maen nhw'n prynu ffôn clyfar iddyn nhw, ac mae o blaid deddfu i'w rheoli.
"Oes, mae angen deddfu ar gyfer rheoli [ffonau] plant. Mae angen deddfu ynglŷn â sut mae gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol yn ymddwyn.
"'Se ni'n gyfrifol, â pholisi cenedlaethol, bydden i ddim yn caniatáu dyfeisiadau personol plant mewn ysgol.
"'Da ni ddim â'r control. Ni'n meddwl fod e'n rhy saff."
Roedd Gwenda, sy'n fam i dri o blant yn eu harddegau, wedi dewis rhoi ffôn i'w phlant wrth iddyn nhw adael yr ysgol gynradd, a hynny er mwyn gwybod lle oedden nhw.
"Mae'n rhaid rhoi rheolau o gwmpas defnyddio'r ffôn," meddai.
"Yn gyffredinol doedd e ddim yn brofiad ofnadwy. Mae pethau da yn dod mas o ddefnyddio ffôn."
Pianos yn lle ffonau?
Ar ôl gwahardd ffonau ar ddechrau'r flwyddyn academaidd eleni, mae un ysgol ym Mhowys yn cynnig ffordd arall i ddifyrru'r disgyblion yn ystod amser egwyl a chinio.
Gosododd ysgol gydol oes Llanfyllin sawl piano ar eu safle er mwyn i'w disgyblion allu troi at yr allweddellau am nad oes ganddyn nhw eu ffonau.
Yn ôl eu hathrawes gerdd Catrin Jones mae hyn wedi taro nodyn adeiladol drwy gymuned yr ysgol.
"Oedden ni'n teimlo fel ysgol bod ffonau clyfar yn cael effaith negyddol ar y plant hynny yw hefo cyfathrebu, hefo canolbwyntio," meddai.
"Mae'r plant rŵan wedi cael cyfle i ddefnyddio sgiliau cyfathrebu.
"Ti'n gweld amser cinio cymaint o wahaniaeth rhwng y plant - oedden nhw ar eu ffonau symudol, pennau lawr.
"Ni'n rhoi anfantais i'r plant os dy'n ni ddim yn rhoi'r cyfle iddyn nhw ymarfer y sgiliau yma."
Mae cael gwared â ffonau clyfar, medd Ms Jones, wedi taro'r nodyn cywir - a'r ysgol gyfan wedi elwa.
"Mae ymddygiad wedi gwella, sgiliau cyfathrebu a sgiliau canolbwyntio plant. Sgiliau oedd angen newid, rili. Mae o 'di bod yn ffantastig."
Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yr Ysgrifennydd Addysg yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod ganddyn nhw bolisïau ar waith sy'n lleihau'r effaith mae ffonau'n cael ar les a hyrwyddo dysgu.