Arweinydd Plaid Cymru yn cyhoeddi gweledigaeth i helpu'r GIG
- Cyhoeddwyd
Byddai arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn penodi gweinidog iechyd y cyhoedd pe bai’n dod yn brif weinidog yn dilyn yr etholiad nesaf i Senedd Cymru.
Byddai’r cam yn rhan o gynllun ei blaid i gefnogi’r gwasanaeth iechyd drwy fuddsoddi mewn “mesurau iechyd ataliol”.
Daeth y cyhoeddiad cyn cynhadledd hydref Plaid Cymru, sydd wedi dechrau yng Nghaerdydd ddydd Gwener.
Fe sicrhaodd y blaid ei chanlyniad gorau erioed mewn etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf, wrth iddi ennill pedair sedd.
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2023
Yn ystod ei araith yn Stadiwm Principality yn ddiweddarach, mae dywedodd ap Iorwerth wrth aelodau ei blaid y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn “torri’r cylch o feddwl tymor byr sy’n gadael Cymru i lawr”.
“Ers gormod o amser, rheoli poen pobl fu blaenoriaeth Llafur ond rwyf am gadw pobl yn iach a gallaf gyhoeddi yn ystod 100 diwrnod cyntaf llywodraeth Plaid Cymru y byddwn yn cyflwyno cyllideb newydd – yn seiliedig ar egwyddorion o Gymru iachach, gyfoethocach – gydag addewid y bydd gwariant ar fesurau iechyd ataliol yn cynyddu bob blwyddyn.
“Dim mwy o blastr i guddio problemau, dim mwy o feio'r unigolyn, dim mwy o wrthod bod yn atebol.”
'Creu bywydau iachach'
Mae'n dweud y byddai penodi gweinidog dros iechyd y cyhoedd yn “sicrhau cenhadaeth wirioneddol genedlaethol o greu bywydau iachach sydd yn ei dro yn sicrhau arbedion sylweddol”.
Mae hefyd yn ymrwymo i “glirio’r ôl-groniadau o waith cynnal a chadw brys” ar ysbytai Cymru erbyn 2030.
Yn gynharach yr wythnos hon cafodd digwyddiad o argyfwng ei gofnodi’n Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi iddi ddod i'r amlwg bod difrod mawr i do'r adeilad.
“Mae'n rhaid i ni gael ystâd gwasanaeth iechyd sy'n addas at y diben,” oedd neges Rhun ap Iorwerth.
Dydy Plaid Cymru erioed wedi ennill etholiad i’r Senedd ers dechrau datganoli ym 1999, gyda Llafur wedi arwain y llywodraeth yma ers 25 mlynedd.
Ond mae’r blaid wedi gweithio gyda Llafur mewn llywodraeth fel partner mewn clymblaid ac, yn fwy diweddar, yn rhan o gytundeb cydweithio.
Daeth Rhun ap Iorwerth â’r cytundeb hwnnw – oedd i fod i bara tan fis Rhagfyr – i ben yn gynnar ym mis Mai.
Heb fwyafrif o’r seddi yn y Senedd bydd angen i Lafur ddod i gytundeb gydag o leiaf un o’r gwrthbleidiau eto er mwyn pasio’i chyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Yn siarad ar drothwy’r gynhadledd dywedodd ap Iorwerth wrth newyddiadurwyr nad oedd ei blaid yn “chwilio am gytundeb cyllideb”.
“Mae’r bêl yng nghwrt Llafur,” meddai.
Golygon yn troi at 2026
Mae gan Blaid Cymru ei golygon nawr ar etholiad 2026, pan y bydd hi’n gobeithio manteisio ar newidiadau i’r drefn bleidleisio.
Mae nifer y seddi ym Mae Caerdydd yn cynyddu hefyd o 60 i 96.
Mae arolygon barn yn awgrymu bod y blaid mewn sefyllfa gref i herio Llafur.
Fodd bynnag, mae’n parhau’n debygol y bydd angen cytundeb o ryw fath rhwng dwy neu fwy o bleidiau i ffurfio llywodraeth yn dilyn yr etholiad.
Dywedodd ap Iorwerth nad oedd yn “gweld sefyllfa” ble byddai ei blaid yn gweithio gyda’r Ceidwadwyr neu Reform UK.