Arweinydd Gwynedd yn gwrthod ymddiheuro i ddioddefwyr Foden
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi gwrthod ymddiheuro i ddioddefwyr y pedoffeil Neil Foden ar ôl i ragor o honiadau am gam-drin plant ddod i’r amlwg am y cyn-brifathro.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Dyfrig Siencyn nad oedd yn cefnogi galwad aelodau blaenllaw ei blaid am ymchwiliad cyhoeddus, gan ddweud “fod angen ymdrin â hwn yn fuan ac yn sydyn, dwi’n meddwl mai’r Adolygiad Amddiffyn Plant ydy’r ffordd orau i wneud hynny".
“Mae ymchwiliad cyhoeddus am gymryd blynyddoedd," meddai.
"Ond os oes ‘na ymchwiliad cyhoeddus, os oes ‘na benderfyniad i gael un, fyddwn ni’n croesawu fo.”
Ymddiheuriad 'os bydd bai ar y cyngor'
Mae’n cydnabod fod cwestiynau i’w hateb, gan ddweud ei fod yn “hyderus y bydd y cwestiynau yna’n cael eu hateb drwy drefn yr Adolygiad Amddiffyn Plant ac mi fyddwn ni erbyn fory (dydd Gwener) wedi cyflwyno’r holl dystiolaeth.”
“Mae ‘na gytundeb llwyr, does ‘na ddim gwahaniaeth barn ynglŷn â’r angen i ganfod beth aeth o’i le," meddai.
"Ac os oes ‘na rywbeth wedi mynd o’i le ar ein prosesau ni, gweithredu arnyn nhw, ac os oes yna unrhyw un o swyddogion y cyngor, fyddwn ni yn delio â hynny yn y ffordd arferol.
"Does dim amheuaeth am yr angen i fynd i wraidd y broblem yma ac fel dwi wedi dweud ar sawl achlysur, mi fyddwn ni’n troi pob carreg posib i ganfod atebion."
Aeth ati i ddweud: “Os bydd unrhyw fai ar y cyngor, yna bydd lle i ymddiheuro.”
Wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C yn gynharach, fe wnaeth cyn-arweinydd y cyngor, Alun Ffred Jones, alw ar yr awdurdod lleol i ymddiheuro.
Dywedodd ei fod "yn meddwl yn sicr fod gan y cyngor sir fel awdurdod addysg le i ymddiheuro am gamgymeriadau sydd yn amlwg wedi digwydd".
“Mae yna gamgymeriadau wedi digwydd ar ran y cyngor ac mi fyddwn yn sicr yn meddwl byddai'n ddoeth ymddiheuro ar ran hynny ac mae yna bobl eraill yn nes at yr hyn oedd yn digwydd ac y byddwn i am glywed wrthyn nhw hefyd,” meddai.
Mae rhaglen Newyddion S4C wedi siarad gyda nifer sy’n gysylltiedig â’r cyngor sy’n codi amheuon am y modd mae’r awdurdod lleol a’r arweinyddiaeth wedi ymateb i’r sefyllfa.
Maen nhw hefyd am weld ymddiheuriad gan y cyngor i’r dioddefwyr.
- Cyhoeddwyd10 Hydref
- Cyhoeddwyd9 Hydref
- Cyhoeddwyd8 Hydref
Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts yn dweud bod "dyletswydd ac angen" ar Gyngor Gwynedd i gynnal ymchwiliad annibynnol o'u prosesau diogelu plant ar fyrder er mwyn adfer hyder y cyhoedd.
Wrth ymateb, dywedodd Dyfrig Siencyn fod “adroddiadau annibynnol wedi digwydd ac mi fyddwn ni yn edrych yn eitha' buan yn ein cyfarfodydd cabinet am yr angen am unrhyw fath o ymchwiliad i unrhyw brosesau yn ein tyb ni sydd angen edrych arnyn nhw".
Mi wrthododd Liz Saville Roberts gefnogi arweinyddiaeth Cyngor Gwynedd, gan ddweud ei bod yn "gresynu" bod Foden wedi cyflawni'r fath droseddau.
Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd am gam-drin pedwar o blant rhwng 2019 a 2023.
Fe ddatgelodd rhaglen Wales Investigates honiadau pellach am Foden a’i bod yn bosib fod y pedoffeil wedi cam-drin am dros 40 mlynedd.
Clywodd Wales Investigates hefyd bod o leiaf 12 o ddioddefwyr Foden yn dwyn achosion cyfreithiol sifil yn erbyn Cyngor Gwynedd - fel y cyngor oedd yn ei gyflogi.
Pe bai'r hawlio am iawndal yn llwyddiannus, mae'r gyfreithwraig sy'n eu cynrychioli yn dweud y gall gostio miliynau o bunnoedd i'r cyngor.
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd15 Mai
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
Yn ystod achos Foden daeth i’r amlwg bod uwch aelod o staff wedi codi pryderon am agosrwydd Foden at rai merched yn eu harddegau yn 2019 - gan rybuddio ei fod yn creu risg o fod yn destun cyhuddiadau.
Cafodd y pryder ei basio at Gyngor Gwynedd, ond cafodd penderfyniad ei wneud i beidio cynnal ymchwiliad ffurfiol.
Yn ystod yr achos llys dywedodd Garem Jackson, cyn-bennaeth Addysg Cyngor Gwynedd, ei fod wedi gadael i uwch swyddog diogelu wybod ond fod y swyddog wedi dweud nad oedd angen ymchwilio gan nad oedd honiadau swyddogol wedi eu gwneud.
Mae BBC Cymru ar ddeall bod pedwar o weithwyr y cyngor yn rhan o’r penderfyniad i beidio cynnal ymchwiliad. Mae tri yn dal i gael eu cyflogi yno.
Mae Mr Jackson wedi dweud fod diogelu yn "flaenoriaeth allweddol" a’i fod yn arfer trafod gyda’r swyddog priodol a dilyn eu cyngor nhw os oedd pryderon yn cael eu codi.
Ar hyn o bryd mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant i weld pa wersi sydd i’w dysgu.
Ond mae nifer yn poeni fod adolygiad o’r fath yn gyfyng ac mae yna alwadau pellach am ymchwiliad cyhoeddus ac adolygiad annibynnol o brosesau Cyngor Gwynedd.
Mae grŵp cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd, arweinydd y blaid Rhun ap Iorwerth, yr aelodau o’r Senedd Sian Gwenllian a Mabon ap Gwynfor a’r Aelod Seneddol Liz Saville Roberts yn cefnogi’r galwadau hynny.