Buddugoliaeth yn Sbaen i syrffiwr Pen Llŷn

  • Cyhoeddwyd
Llywelyn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Llywelyn Williams ei goes yn dilyn damwain ffordd yn 2011

Mae'r syrffiwr Llywelyn Williams wedi dychwelyd i Gymru gyda buddugoliaeth arall i'w enw ar ôl dod i'r brig yng nghystadleuaeth Pantin Classics yn Sbaen.

"Mi aeth o yn wych," meddai'r syrffiwr 26 oed o Fwlchtocyn, Pen Llŷn wrth Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

Daw'r fuddugoliaeth ar gefn cyfnod llwyddiannus a phrysur iawn iddo. Ym mis Mehefin fe ddaeth yn ail yn Hawaii ac ar ddechrau mis Gorffennaf fe drefnodd gystadleuaeth syrffio addasedig rhyngwladol cyntaf Cymru ym Mharc Antur Eryri yn Nolgarrog.

Wrth drafod Hawaii, meddai wrth Aled Hughes: "O'n i'n curo tan y 30 eiliad olaf - nes i golli o 2.3 pwynt."

"Mae'n wych yna, mae 'na gymaint o draethau a thonnau gwahanol o gwmpas yr ynys. Mae o yn mindblowing i ddeud y gwir."

Ffynhonnell y llun, Sion Bryn Evans
Disgrifiad o’r llun,

Llywelyn ar y traeth ym Mhorth Ceiriad, ger Abersoch

Roedd y gystadleuaeth honno yn rhan o Daith Byd sydd wedi dechrau am y tro cyntaf eleni a'r gobaith ydi gweld mwy o'r byd wrth syrffio.

"Hawaii oedd y cynta a'r stop nesa ydi'r US Open ym mis Medi wedyn maen nhw eisiau mynd a fo i Japan ac Awstralia flwyddyn nesa a gwneud o fel World Tour."

Ffynhonnell y llun, Sion Bryn Evans
Disgrifiad o’r llun,

Llywelyn Williams

'Rhoi yn ôl'

Mae Llywelyn wedi dod yn bell ers colli ei goes mewn damwain 11 mlynedd yn ôl.

Ar y diwrnod hwnnw yn 2011 roedd yn teithio ar ei ffordd adref i Abersoch o ochrau Llanbedrog ar ei sgrialfwrdd (skateboard) pan gafodd ei daro gan gar.

Ers hynny mae'r syrffiwr amryddawn wedi cyrraedd y podiwm 26 gwaith mewn 28 o gystadlaethau ar draws y byd.

Ei amcan rŵan ydi cynnal mwy o ddiwrnodau fel yr un diweddar ym Mharc Antur Eryri ac annog mwy o bobl anabl i geisio syrffio yng ngogledd Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Llywelyn Williams ei goes yn dilyn damwain ffordd yn 2011

"Wnaeth o agor fy llygad. Yr help ges i gan fy nheulu, fy ffrindia, y gymuned a'r bobl dwi di gyfarfod... mae'n deimlad braf i roi o yn ôl i bobl sydd eisiau help i gael y pwsh i fynd allan i'r môr," meddai.

Ond mae ganddo freuddwyd arall ar y gweill hefyd, sef cyrraedd Gemau Paralympaidd 2028.

"Erbyn 2028 'da ni'n gobeithio y byddan ni yn y Paralympics. Mae o wedi cael ei symud ymlaen gan fod 'na gymaint o gystadlaethau anableddau gwahanol maen nhw'n trio cau o lawr i naw division ar y funud i wneud yn siŵr fod pawb o'r un safon."

Pynciau cysylltiedig