Pryder fod cyngor yn cyfleu 'negeseuon negyddol' am addysg Gymraeg

Cafodd cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Craffu Addysg ei gynnal yn Neuadd y Sir fore Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi ysgrifennu at arweinydd cyngor sir i fynegi pryder am benderfyniad sydd â'r perygl o "gyfleu negeseuon negyddol" am addysg cyfrwng Cymraeg.
Cafodd gwelliant ei basio gan gabinet Cyngor Sir Penfro ar 28 Ebrill yn galw ar swyddogion i gael "gwell dealltwriaeth o'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg".
Roedd y gwelliant ar gais y dirprwy arweinydd, Paul Miller, a ddywedodd nad oedd rhai rhieni yn "poeni dim" bod eu plant yn cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ond yn hytrach yn dewis yr ysgol am ei bod hi'n ysgol "dda".
Mewn llythyr at arweinydd y cyngor, Jon Harvey, sydd wedi dod i sylw BBC Cymru, mae Efa Gruffydd Jones yn dweud ei bod hi'n "pryderu am y gwelliant am sawl rheswm".
- Cyhoeddwyd6 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd23 awr yn ôl
Cafodd cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Craffu Addysg ei alw yn Neuadd y Sir fore Mercher gan gynghorwyr annibynnol oedd wedi cael eu gwylltio gan sylwadau'r cynghorydd Miller.
Pleidleisiodd aelodau'r pwyllgor o saith pleidlais i bump i anfon y penderfyniad gwreiddiol yn ôl at y cabinet i'w ail ystyried.
Fe all y cabinet benderfynu newid eu penderfyniad gwreiddiol neu gadw at y gwelliant gafodd ei basio.
Yn ôl arweinydd y grŵp annibynnol, y cynghorydd Huw Murphy, roedd sylwadau Paul Miller wedi peri "loes a rhwystredigaeth" ac mae wedi galw am ymddiheuriad gan yr arweinydd, Jon Harvey.
Roedd yn honni nad oedd y gwelliant gan y cabinet yn "cyd-fynd gyda'r fframwaith polisi a chyllid" ac y dylai gael ei ddiddymu.

Roedd sylwadau Paul Miller wedi peri "loes a rhwystredigaeth," yn ôl Huw Murphy
Yn ystod trafodaeth danllyd yn y siambr, fe ddywedodd y cynghorydd Miller ei fod yn dal i gefnogi geiriad y gwelliant.
Cyhuddodd y cynghorydd Murphy o geisio creu "ffrae o ddim byd" ac y dylai "deimlo cywilydd".
Fe ddaw'r ddadl ddiwrnod yn unig ar ôl i'r Senedd gefnogi Mesur y Gymraeg ac Addysg, sy'n gobeithio cynyddu nifer y disgyblion sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg i 30% erbyn 2030/31 a 40% erbyn 2050.
Mae tua 23% yn cael addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.
'Negeseuon negyddol i rieni'
Mewn llythyr at arweinydd y cyngor sir, mae Efa Gruffudd Jones yn dweud bod y gwelliant gafodd ei basio gan y cabinet yn "debygol o fod yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru, o lesteirio cynnydd yn erbyn targedau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Sir" ac yn debygol o "gyfleu negeseuon negyddol i rieni" sydd yn ystyried addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae hi'n cwestiynu pam y dewisodd yr aelodau ganolbwyntio ar rieni sy'n dewis addysg Gymraeg yn unig.
"Rwyf yn derbyn y tebygolrwydd bod nifer o resymau dros ddewis ysgol cyfrwng Cymraeg ac mae hyn yn wir am ysgolion cyfrwng Saesneg yn ogystal," meddai.
"Mae'n rhaid symud i ffwrdd o'r meddylfryd mai'r Saesneg yw iaith ddiofyn yn yr amgylchiadau hyn."

Mae Ysgol Caer Elen yn "enghraifft gadarnhaol" o'r hyn sydd angen ei efelychu yn ehangach, meddai Efa Gruffudd Jones
Mae Ms Gruffudd Jones hefyd wedi cwestiynu a yw'r gwelliant yn gyson gyda pholisïau Llywodraeth Cymru a pholisi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Sir.
Mae hi'n dweud bod newidiadau deddfwriaethol yn golygu bod yna "symud i ffwrdd" wedi bod o fesur y galw am addysg Gymraeg.
Mae yna ddyletswydd bellach ar awdurdodau lleol, meddai, i "fynd ati yn rhagweithiol i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a thrwy hynny annog mwy o rieni i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant".
Ychwanegodd fod Ysgol Caer Elen yn "enghraifft gadarnhaol" o'r hyn sydd angen ei efelychu yn ehangach.
Mae hi hefyd yn gofyn "pa negeseuon fyddai'n cael eu cyfle i rieni pe byddai'r cyngor yn mynd ati i gwestiynu pam fod rhieni wedi dewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant" ac yn dweud fod yna berygl y gallai hynny "gyfleu negeseuon negyddol".
Mae'n "amlwg", meddai, fod yna alw am addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Benfro a "byddai'n drueni petai llwyddiant y sir yn sefydlu Ysgol Caer Elen ac yn creu'r galw am addysg Gymraeg yn cael ei danseilio".
Siaradwr Cymraeg i'r cabinet?
Mewn datganiad yn ddiweddarach, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg: "Wedi gwylio trafodaeth y pwyllgor yn Sir Benfro heddiw, nid wyf eto wedi fy narbwyllo o'r rhesymeg sydd yn gefndir i'r cynnig.
"Mewn gohebiaeth â swyddogion y Cyngor cyn y cyfarfod heddiw, fe wnes i nodi'n glir fy mhryderon a'u hannog i ystyried yn ofalus yr hyn sydd yn cael ei gynnig gan na allaf weld ei fod yn gyson â chyfeiriad polisi cenedlaethol a lleol, ac y gallai fod yn niweidiol i'r Gymraeg."
Ar ddiwedd y cyfarfod, fe alwodd y Cynghorydd Murphy ar yr arweinydd, Jon Harvey, i benodi siaradwr Cymraeg i'r cabinet, am nad oes neb yn rhugl yn yr iaith yn perthyn i'r weinyddiaeth bresennol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Fel pob awdurdod lleol, mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd statudol i wella sut mae'n cynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â'i gynllun strategol ar gyfer addysg Gymraeg, er mwyn helpu i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Cafodd Sir Benfro y twf canrannol mwyaf o ran addysg yn y Gymraeg ymysg holl siroedd Cymru rhwng 2023 a 2024."