Senedd yn cymeradwyo Bil y Gymraeg ac Addysg 'hanesyddol'

DisgyblionFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 23% o ddysgwyr yn cael addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd

  • Cyhoeddwyd

Mae Senedd Cymru wedi cymeradwyo Bil y Gymraeg ac Addysg, sy'n "ceisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol fel defnyddiwr iaith Gymraeg annibynnol".

Roedd 50 aelod o blaid, neb wedi ymatal a neb yn erbyn pasio testun terfynol y bil.

Y cam olaf cyn ei droi'n gyfraith fydd Cydsyniad Brenhinol.

Mae'r bil, dan ofal yr Ysgrifennydd Cyllid a'r Gymraeg Mark Drakeford, yn nodi tri chategori iaith ar gyfer ysgolion, gan gynnwys isafswm o addysg Gymraeg sydd i'w ddarparu gan ysgolion (sy'n cynnwys addysgu'r Gymraeg fel pwnc yn ogystal ag addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg).

Y tri yw "Prif Iaith – Cymraeg" (80%), "Dwy Iaith" (50%) , a "Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg" (10%).

Dywedodd Mr Drakeford bod y bil yn un "hanesyddol a fydd yn rhoi cyfleoedd newydd i bob plentyn ddod yn siaradwr Cymraeg annibynnol a hyderus".

Yn ôl y Ceidwadwr Tom Giffard: "Os yw pobl eisiau addysg Gymraeg mae'n bwysig bod y ddarpariaeth ar gael... mae'n bwysig ein bod yn cyrraedd y targed o filiwn yn siarad Cymraeg".

Dywedodd Cefin Campbell ar ran Plaid Cymru bod "heddiw yn ddiwrnod arwyddocaol yn ein hanes fel cenedl".

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod y "llywodraeth a'r Senedd wedi colli cyfle unwaith mewn cenhedlaeth", gan alw am "addysg Gymraeg i bawb".

cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid CymruFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bil ei gyhoeddi yn wreiddiol fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ond daeth y cytundeb i ben cyn unrhyw waith penodol ar lunio'r bil

Dywedodd Mark Drakeford y bydd y bil "yn agor drysau i'n disgyblion, yn cynnig cyfleoedd swyddi newydd, yn rhoi mynediad i ddiwylliant cyfoethog y Gymraeg, ac yn eu galluogi i fwynhau defnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd".

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Cefin Campbell AS: "Mae Plaid Cymru yn credu'n gryf mai addysg gyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg yw'r ffordd fwyaf effeithiol o greu siaradwyr Cymraeg hyderus a rhugl.

"Er nad yw'r bil yn berffaith, mae'n sicr mewn lle gwell erbyn hyn oherwydd gwaith Plaid Cymru yn ei chryfhau yn ystod y broses ddeddfwriaethol."

Ychwanegodd y Ceidwadwr Tom Giffard, "beth ry' ni'n gwneud heddiw, dwi'n credu, yw sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cyfle i gael addysg Gymraeg pan maen nhw'n dewis gwneud hynny yn ein hysgolion ni ar draws Cymru."

Cymdeithas yr Iaith yn 'siomedig'

Dywedodd Toni Schiavone ar ran Cymdeithas yr Iaith eu bod yn "gwbl glir mai'r nod yw addysg Gymraeg i bawb, ac rydyn ni'n siomedig nad yw'n gwleidyddion wedi dilyn y trywydd yma".

Mae tua 23% o ddysgwyr yn cael addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.

Uchelgais strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yw cynyddu cyfran y grwpiau blwyddyn sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg i 30% erbyn 2030/31 a 40% erbyn 2050.

Bydd y bil hefyd yn sicrhau bod camau yn cael eu cymryd i ddarparu addysg drochi ddwys yn y Gymraeg ledled Cymru, er mwyn "helpu dysgwyr o bob oed i ddatblygu eu sgiliau".

Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle, "mae ein dull trochi hwyr yn y Gymraeg yn unigryw".

"Mae'r bil hwn yn adeiladu ar y gwaith ardderchog sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael dysgu'r Gymraeg, ei defnyddio ac elwa ohoni," meddai.

Dywed y llywodraeth eu bod yn cefnogi ysgolion i wireddu'r uchelgais hon drwy "barhau â chynlluniau grant i gynyddu nifer yr athrawon a'r cynorthwywyr sy'n siarad Cymraeg, a chynnig gwersi Cymraeg am ddim i holl staff ysgolion".

Bydd y bil hefyd sefydlu Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol i "gynllunio datblygiad y gweithlu addysg a darparu hyfforddiant ar eu cyfer er mwyn gwella dysgu Cymraeg mewn ysgolion".

Bydd hefyd yn sefydlu dull safonol i bobl o bob oed ddisgrifio eu gallu yn y Gymraeg yn seiliedig ar safonau rhyngwladol (Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd).

Cyn y bleidlais ar gyfnod 4 y bil, dywedodd Llywydd y Senedd Elin Jones, "cyn i ni fwrw ymlaen â'r trafodion yma, dwi'n credu ei fod e'n bwysig i ni nodi a chydnabod fod trafodion cyfnod 3 yr wythnos ddiwethaf wedi cael eu cynnal yn y Gymraeg yn unig, ac mae hwnna siŵr o fod - neu bownd o fod - y tro cyntaf i hynny ddigwydd yn y Senedd yma, ac yn wir unrhyw Senedd yn y byd".