Trafodaethau Brexit i 'beryglu' recriwtio GIG Cymru

  • Cyhoeddwyd
NyrsysFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Byddai rhoi'r cyfrifoldeb am drafodaethau Brexit i'r Ceidwadwyr yn "berygl" i'r ymgyrch "hynod lwyddiannus" i ddenu mwy o ddoctoriaid a nyrsys i Gymru.

Dyna oedd gan lefarydd Llafur ar Brexit, Syr Keir Starmer i'w ddweud wrth iddo ymweld â Chymru i ymgyrchu ddydd Llun.

Fe wnaeth Syr Keir gyhuddo'r Ceidwadwyr o fod yn barod i ddefnyddio staff y gwasanaeth iechyd fel "darnau i'w bargeinio".

Ond mynnodd y Ceidwadwyr mai dim ond nhw fyddai'n sicrhau arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus cryf.

'Cyfraniad'

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnig cymhelliannau ariannol ac yn rhoi pwyslais ar safon byw yng Nghymru er mwyn ceisio recriwtio rhagor o staff iechyd.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething lansio ymgyrch ryngwladol fawr i ddenu nyrsys i Gymru, yn dilyn ymgyrch debyg ar gyfer meddygon teulu.

Mae'r ymgyrch yn cynnwys nyrsys yn siarad am eu gwaith a'u bywydau yng Nghymru, ble mae bwrsariaethau hyd at £9,000 dal ar gael, er eu bod wedi eu diddymu yn Lloegr.

Dywedodd Syr Keir y byddai llywodraeth Lafur yn San Steffan yn gwarantu statws cyfreithiol pawb o'r UE sydd yn y DU yn syth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu Syr Keir Starmer yn ymweld â Chymru ddydd Llun

"Dyna'r peth iawn i wneud ar gyfer y GIG, a dyna'r peth iawn i wneud ar gyfer y wlad," meddai.

Dywedodd fod yr ymgyrch 'Hyfforddi, Gweithio, Byw' wedi "trawsnewid y broses o recriwtio meddygon teulu yng Nghymru, ac yn siŵr o wneud yr un peth ar gyfer nyrsio".

"Mae'r cynllun yn denu ymgeiswyr o bob cwr o'r byd, gan gynnwys nifer o'r UE," ychwanegodd.

"Nid yn cyfrannu at ein cymdeithas yn unig mae pobl o'r UE - nhw yw ein cymdeithas."

'Peryglu cleifion'

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr: "Dim ond pleidlais dros Theresa May a'i thîm Ceidwadol fydd yn darparu'r arweinyddiaeth gref a sefydlog sydd ei hangen er mwyn ein harwain drwy Brexit a thu hwnt, gan sicrhau ein heconomi gref a'r cyllid sydd yn sicrhau gwasanaethau cyhoeddus cryf.

"Byddai pleidlais dros unrhyw un arall yn peryglu hynny drwy roi Jeremy Corbyn gam yn nes at Downing Street."

Dywedodd Jonathan Edwards o Blaid Cymru y byddai "llywodraeth Dorïaidd oedd ddim yn cael eu gwrthwynebu oherwydd plaid Lafur wan a ranedig" yn "peryglu diogelwch cleifion" wrth gyfyngu ar y gallu i recriwtio doctoriaid a nyrsys.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol ac UKIP wedi cael cais i wneud sylw.