Cairns yn cefnogi Davies wedi ffrae rhwng y Ceidwadwyr
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi cefnogi Andrew RT Davies fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig "yn ddi-gwestiwn".
Daw ei sylwadau yn dilyn ffrae fewnol ymysg y Ceidwadwyr ynglŷn â phwy ddylai fod wedi cynrychioli'r blaid mewn dadl ar y BBC.
Fe wnaeth llefarydd ar ran Mr Davies honni fod Mr Cairns "ddim yn fodlon" ymddangos.
Ond fe wnaeth Mr Cairns ailadrodd ei honiad yntau ar BBC Radio Wales mai Mr Davies oedd "wastad" i fod yno.
'Dadl ACau'
Yn y diwedd bu'n rhaid i gyfarwyddwr polisi'r blaid, Darren Millar AC, ymddangos yn rhaglen Dadl Arweinwyr BBC Cymru ochr yn ochr ag arweinwyr y pedair prif blaid arall.
Dywedodd Mr Cairns wrth BBC Radio Wales mai Mr Davies oedd "wastad i fod i wneud" y ddadl, ond nad oedd arweinydd y blaid wedi gallu gwneud hynny am "resymau personol".
Ychwanegodd: "Roedd hi'n well cael Aelod Cynulliad i ymateb, gan mai dadl rhwng ACau oedd hi ar y cyfan."
Dywedodd ei fod yn credu fod Mr Millar wedi gwneud yn "wych", a'i fod yn cefnogi Mr Davies fel arweinydd "yn ddi-gwestiwn".
Yn y cyfamser mae ffynhonnell o'r Ceidwadwyr Cymreig wedi awgrymu ei bod hi'n bosib y bydd ymgyrch yn erbyn Andrew RT Davies ar ôl 8 Mehefin.
Dywedodd y ffynhonnell wrth BBC Cymru: "Mae nifer o'n haelodau yn pryderu am y llanast gyda'r ddadl arweinwyr, a diflastod Andrew yn ei swydd. Bydd hyn yn cael ei sortio ar ôl yr etholiad."
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Mr Davies ei bod hi'n "hawdd" i'r sawl a wnaeth y sylwadau hynny "guddio y tu ôl i gyfrifiadur".
Daw hyn yn dilyn ffrae flaenorol o fewn y Ceidwadwyr dros benderfyniad y grŵp yn y Cynulliad i ganiatáu i Mark Reckless ymuno â nhw o UKIP.
Gwario'n wahanol?
Yn ystod y drafodaeth ar Radio Wales fe wnaeth Alun Cairns hefyd amddiffyn penderfyniad Theresa May i beidio â chymryd rhan yn nadl arweinwyr y BBC nos Fercher.
Roedd Ms May wedi gwrthod ymddangos ar y rhaglen, gan anfon yr Ysgrifennydd Gwladol Amber Rudd i gynrychioli'r Ceidwadwyr yn ei lle - er i'r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn benderfynu mynychu.
Mynnodd Mr Cairns bod ffurf y ddadl, gyda chynrychiolydd o'r saith prif blaid yno, yn golygu ei fod yn "llanast" a'i bod hi'n well i'r prif weinidog beidio â bod yno.
"Dwi ddim yn meddwl bod y fformat yna o reidrwydd yn gweithio," meddai, gan fynnu fod Corbyn wedi cael cyfle rheolaidd i holi Ms May yn San Steffan.
Wrth drafod Deddf Cymru, dywedodd Mr Cairns fod y ddeddfwriaeth wedi cryfhau datganoli a "rhoi pwerau sylweddol i Lywodraeth Cymru".
Ychwanegodd y byddai "pwerau Llywodraeth Cymru yn cael eu hymestyn wrth i bwerau ddychwelyd o Ewrop", ar ôl cael eu cadw yn San Steffan am gyfnod.
Pwysleisiodd addewid y Ceidwadwyr y byddai Llywodraeth y DU yn gwarantu'r un lefel o gyllid i Gymru sy'n dod Ewrop ar hyn o bryd nes 2022.
Ond mynnodd y gallai'r ffordd mae'r cyllid yn cael ei wario newid yn y dyfodol, gan ddweud: "Does dim rhaid ei wario un yr un ardaloedd... mae 'na ardaloedd tlawd y tu allan i orllewin Cymru a'r Cymoedd."
'Brexit da'
Fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru hefyd wynebu cwestiynau ar faterion gan gynnwys Maes Awyr Caerdydd, dyfodol y diwydiant dur, a pholisïau'r Ceidwadwyr ar gyfer pensiynwyr.
Wrth ymateb i gwestiwn ar y bygythiad terfysgol a thoriadau i'r heddlu, dywedodd fod y llywodraeth wedi symud adnoddau tuag at wrthderfysgaeth a throseddu ar y we i adlewyrchu newidiadau mewn patrymau troseddu.
Mynnodd hefyd y dylai'r DU fod yn barod i gerdded i ffwrdd o'r bwrdd trafod gyda'r UE os oedden nhw'n cael cynnig cytundeb gwael yn dilyn Brexit.
"Mae popeth yn dod lawr i gael Brexit da, achos dyna sy'n mynd i yrru ein heconomi ni yn y dyfodol," meddai.
Yn y cyfamser, mae'r pôl piniwn diweddaraf yng Nghymru gan gwmni YouGov yn awgrymu fod Llafur wedi ymestyn eu mantais ar y Ceidwadwyr.
Awgrymodd yr arolwg fod cefnogaeth Llafur wedi cynyddu dau bwynt i 46%, gyda'r Ceidwadwyr un yn uwch ar 35%.
Roedd Plaid Cymru ar 8%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 5%, ac UKIP hefyd ar 5%.
Fe wnaeth yr arolwg ar gyfer ITV a Chanolfan Llywodraethiant Cymru holi sampl o 1,014 o oedolion yng Nghymru, gyda'r gwaith maes yn cael ei wneud rhwng 29 a 31 Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2017
- Cyhoeddwyd31 Mai 2017