'Ymgyrch y Ceidwadwyr yn rhy Brydeinig i Gymru'

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod ymgyrch etholiadol y blaid yn Brydeinig wedi cael effaith ar eu "brand llwyddiannus".

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru roedd yr ymgyrch yn "ddryslyd" a negeseuon Llundain oedd yn cael y prif sylw.

Yng Nghymru collodd y Ceidwadwyr dair sedd i'r blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol.

Daw sylwadau Andrew RT Davies ddiwrnod wedi iddo ddweud bod y Torïaid yng Nghymru angen arweinydd penodedig.

Mae Mr Davies yn cael ei gydnabod fel arweinydd y Torïaid yng Nghymru ond dyw ei awdurdod ddim yn ymestyn y tu hwnt i'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad.

'Negeseuon Llundain yn drysu'

"Roedd hi'n bosib i'r Blaid Lafur ymladd ymgyrch leol gan beidio rhoi sylw i Jeremy Corbyn yn ei dogfennau ar ddechrau'r ymgyrch," meddai Mr Davies.

"Yn drist, roedd y penderfyniad i adael negeseuon y Blaid Geidwadol Brydeinig i gael y prif le yng Nghymru yn golygu nad oedd modd i ni elwa ar y symudiadau gwleidyddol yng ngwleidyddiaeth Cymru.

"Mae iechyd ac addysg yn feysydd sydd wedi cael eu datganoli am flynyddoedd ac felly roedd negeseuon Llundain ond yn drysu pethau."

Ychwanegodd bod canlyniadau'r Ceidwadwyr Cymreig yn yr etholiadau lleol - pan enillodd y blaid 80 sedd - yn brawf bod "ymgyrch sydd wedi cael ei gyrru'n lleol yn llwyddo".

Cyfnod anodd

Yn y cyfamser, yn hwyrach ddydd Llun mae disgwyl i Theresa May wynebu cwestiynau anodd gan aelodau seneddol wedi i'r Ceidwadwyr fethu â sicrhau mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau.

Mae disgwyl y bydd aelodau seneddol yn codi pryderon am arddull ei harweinyddiaeth a byddant yn gofyn am fwy o fanylion ar y trafodaethau gyda phlaid y DUP.

Ddydd Llun hefyd bydd Ms May yn cwrdd â'i chabinet newydd am y tro cyntaf gan gynnwys Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns, gafodd wybod ddydd Sul ei fod yn cael cadw ei swydd.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae rhywbeth mawr wedi mynd o'i le," medd Tomos Dafydd Davies

Fore Llun ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru dywedodd Tomos Dafydd Davies, fu'n sefyll ar ran y Ceidwadwyr ar Ynys Môn: "Mae gen i rywfaint o gydymdeimlad [gyda Theresa May], rywfaint o empathi o bosib.

"Ond dyw hi ddim wedi bod yn arbennig o dda yn gwrando ar y blaid Geidwadol - mae hi wedi'i chyhuddo o fod yn arweinydd sydd wedi canoli grym o fewn rhif deg."

Cyfeiriodd hefyd at absenoldeb yr ymgyrch Geidwadol Gymreig: "Fe gafodd y blaid Geidwadol wrth gwrs lwyddiant aruthrol yn 2015 yn sgil rhedeg ymgyrch Gymreig wedi'i chreiddio yn y tir canol - y tro hwn mi oedd y personoliaeth neu'r dimensiwn Cymreig yn gwbl absennol ac yn allweddol yr arweinyddiaeth Gymreig yn gwbl absennol o'r ymgyrch."

Ychwanegodd: "Dyma'r ail etholiad o'r bron lle fu darogan y byddai'r blaid Geidwadol yn gwneud y cynnydd sylweddol yng Nghymru. Mae rhywbeth mawr wedi mynd o'i le."