Plaid Brexit ddim am herio seddi'r Blaid Geidwadol
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Brexit wedi cadarnhau y byddan nhw'n sefyll mewn 32 allan o 40 etholaeth yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol.
Mae'r blaid wedi dweud na fyddan nhw'n rhoi ymgeiswyr ymlaen yn yr wyth sedd gafodd eu hennill gan y Ceidwadwyr yng Nghymru yn etholiad 2017.
Golygai hyn na fyddan nhw'n sefyll ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, gafodd ei hennill gan y Ceidwadwyr ddwy flynedd yn ôl, ond gafodd ei hennill mewn isetholiad eleni gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywedodd arweinydd y blaid, Nigel Farage y byddai "sefyll ble mae seddi Ceidwadol eisoes yn bodoli yn cynyddu'r siawns am refferendwm arall ar Ewrop".
Golygai hyn na fydd Plaid Brexit yn sefyll yn:
Aberconwy
Brycheiniog a Sir Faesyfed
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
Gorllewin Clwyd
Mynwy
Sir Drefaldwyn
Preseli Penfro
Bro Morgannwg
Roedd Mr Farage wedi datgan yn gynharach ei fod yn bwriadu sefyll mewn mwy na 600 etholaeth ar hyd y DU.
Dywedodd wrth BBC Cymru ddydd Gwener y byddai ymgeisydd Plaid Brexit yn sefyll ymhob etholaeth yng Nghymru.
Dywedodd aelod blaenllaw o Blaid Brexit, yr Aelod o Senedd Ewrop, Nathan Gill: "Rydym wedi bod yn hael iawn.
"Roedd yn benderfyniad anodd, ond rydym wedi camu fewn i gynghrair. Rydym yn hyderus iawn wrth gamu fewn i'r etholiad yma yng Nghymru," meddai.
Mae Mr Farage wedi dweud ei fod yn dymuno canolbwyntio ar gymryd seddi oddi ar y Blaid Lafur.
"Ar un ystyr mae gennym gynghrair Gadael bellach, ond mae'n un unochrog," meddai.
"Rydyn ni wedi penderfynu bod yn rhaid i ni roi gwlad o flaen plaid a mynd â'r frwydr i Lafur."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd2 Awst 2019