Cyn-AS Ceidwadol a gollodd ei sedd i sefyll yn Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Chris DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Chris Davies ei sedd fel Aelod Seneddol Brycheiniog a Maesyfed am hawlio treuliau ffug

Mae cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol wnaeth golli ei sedd ar ôl cael ei ddedfrydu am hawlio treuliau ffug wedi cael ei ddewis fel ymgeisydd y blaid i sefyll yn etholaeth Ynys Môn.

Fe gollodd Chris Davies ei sedd ar ôl i 10,005 o bobl arwyddo deiseb galw nôl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed.

Fe wnaeth sefyll eto cyn colli'r is-etholiad i'r Democrat Rhyddfrydol, Jane Dodds.

Fe blediodd Mr Davies yn euog mewn llys yn Llundain ym mis Mawrth i ddau gyhuddiad o hawlio treuliau ffug.

'Allwch chi ddim ffugio'r peth'

Gan gyfeirio at ddatblgygiadau'r wythnos hon yn ymwneud â'r AC annibynnol, Neil McEvoy, dywedodd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, Angela Burns: "O'n i'n credu heddiw ein bod wedi cyrraedd isafbwynt mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru.

"Wedyn, dwi'n darganfod fod Chris Davies wedi'i enwebu i sefyll yn Ynys Môn. Gallwch chi ddim ffugio'r fath beth!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AC Ceidwadol, Angela Burns wedi mynegi amheuaeth ynghylch dewis Chris Davies fel ymgeisydd Seneddol y Ceidwadwyr yn Ynys Môn

Dywedodd Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, Byron Davies: "Fe wnaeth Chris gamgymeriad ac mae wedi talu'r pris.

"Nawr mae'n rhaid iddo gael symud ymlaen. Mae'r manylion am ei enwebiad yn fater mewnol i'r blaid."

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru, Aled ap Dafydd, bod dewis Mr Davies yn "anghredadwy" ac yn "gwawdio" pobl yr ynys.

Ac yn ôl dirprwy arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, y Farwnes Christine Humphreys, mae'r Ceidwadwyr "wedi amlygu dirmyg llwyr" at bleidleiswyr Ynys Môn.

Mae'r Blaid Lafur wedi dewis Mary Roberts fel ymgeisydd, Aled ap Dafydd fydd yn sefyll ar ran Plaid Cymru, ac mae Plaid Brexit yn bwriadu enwebu Helen Jenner.

Mae'r cyfnod enwebu ymgeiswyr yn dod i ben ar 14 Tachwedd.