Deiseb galw nôl yr AS Ceidwadol Chris Davies wedi cau
- Cyhoeddwyd
Mae deiseb galw nôl i benderfynu a fydd AS Ceidwadol yn cadw ei sedd wedi iddo gyfaddef hawlio treuliau ffug bellach wedi cau.
Fe wnaeth Chris Davies, 51, bledio'n euog ym mis Mawrth i gyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.
Pe bai 10% o'r etholaeth - 5,303 o bleidleiswyr - yn arwyddo'r ddeiseb, yna byddai'n rhaid i Mr Davies wynebu isetholiad.
Bydd y ddeiseb yn cael ei chyfri' am 10:00 ddydd Gwener ac mae disgwyl y canlyniad erbyn amser cinio.
Bydd swyddog deisebau yn rhoi gwybod i Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, John Bercow, cyn bod y canlyniad yn cael ei rannau â'r cyhoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2019
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2019