Gogledd Ddwyrain yn 'allweddol' i ganlyniad etholiad 2019

  • Cyhoeddwyd
Johnson yn IcelandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ceidwadwyr dan arweiniad Boris Johnson yn gobeithio troi seddi yn y gogledd ddwyrain o goch i las

Ar ddechrau'r ymgyrch yr wythnos diwethaf fe wnaeth y Prif Weinidog Boris Johnson ymweld â Chymru, a'r lleoliad ddim yn gyd ddigwyddiad.

Falla mai cwta filltir o'r ffin y mae pencadlys Iceland yng Nglannau Dyfrdwy ond mae'r gornel fach hon o Gymru yn mynd i fod yn allweddol yn etholiad 2019.

Yma mae 'na glwstwr o etholaethau sydd yn mynd i fod o ddiddordeb i wleidyddion ar 12 o Ragfyr.

Yn ôl Gareth Hughes sydd wedi bod yn newyddiadurwr efo papur newydd Daily Post am dros ddeg mlynedd ar hugain fe allai rhai seddi newid dwylo.

"Bydd hi'n ddiddorol dros ben dwi'n meddwl...O'r chwe etholaeth yn y gogledd ddwyrain, dim ond un yn yr etholiad dwytha oedd gan fwyafrif o dros 5,000. Dydy hynny ddim yn llawer. Mae'n reit bosib i bethau newid mewn un neu ddau o etholaethau."

Dwy sedd sydd gan y Ceidwadwyr yma, Aberconwy a Gorllewin Clwyd. Mae'r gweddill yn rhai Llafur.

Brwydr dwy blaid

Dydyn nhw ddim yn etholaethau tu hwnt o ymylol.

Yn Alun a Glannau a Dyfrdwy er enghraifft mae gan Lafur fwyafrif o dros 5,000.

Ychydig filltiroedd lawr y lôn yn Wrecsam wedyn mae hi'n dynnach, mwyafrif o 1800. Roedd hon yn ardal ddaru bleidleisio yn gryf o blaid Brexit. 59% oedd y ganran yn y refferendwm yn 2016.

Dros 2,000 o bleidleisiau sy'n gwahanu'r Ceidwadwyr a Llafur yn Nyffryn Clwyd.

Felly brwydr ydi hon rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr, yn dilyn y patrwm mewn ardaloedd o Ogledd Lloegr. Ac fel yn yr ardaloedd hynny mae 'na bocedi o dlodi.

Grey line
De Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r Ceidwadwyr ddim wedi cipio sedd De Clwyd ers dyddiau Margaret Thatcher

Grey line

Dadansoddiad Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick o etholaeth De Clwyd

Mae De Clwyd yn un o glwstwr o seddi yn y gogledd ddwyrain y mae'r Ceidwadwyr yn eu chwennych yn gyson ac yn methu eu cipio. Does 'na ddim Ceidwadwr wedi ethol yn neheudir Clwyd ers dyddiau Margaret Thatcher. Doedd hyd yn oed Boris Johnson ddim yn gallu swyno etholwyr De Clwyd wrth iddo fwrw ei swildod gwleidyddol yn etholiad 1997.

Etholaeth gymysg yw hon sy'n ymestyn o faestrefi deheuol Wrecsam trwy bentrefi ôl-ddiwydiannol fel Rhos cyn troi i fyny Dyffryn Dyfrdwy i Langollen a Chorwen. Ond er ei bod yn cynnwys un o lysoedd Glyndŵr, dyw De Clwyd erioed wedi profi'n dir ffrwythlon i Blaid Cymru na'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ras dau geffyl yw hon yn draddodiadol ac er bod Llafur wedi llwyddo i gadw ei thrwyn ar y blaen dros y chwarter canrif diwethaf mae'r mwyafrif wedi bod yn fain ar adegau. Dyw e ddim yn amhosib dychmygu'r Torïaid yn cipio'r sedd pe bai pethau'n troi'n chwalfa i Lafur.

Posib ond annhebyg. Fel mae pethau ar hyn o bryd mae'n fwy tebyg y bydd etholwyr de Clwyd yn dewis gwrthod Boris Johnson am yr eildro.

Grey line
Kate WilliamsFfynhonnell y llun, Chris Davies
Disgrifiad o’r llun,

Kate Williams yw dirprwy bennaeth yr ysgol

Yn Ysgol y Grango yn Rhosllanerchrugog mae ymgyrch wedi cychwyn - Dysgu nid Llwgu- ar y cyd gydag elusen leol sy'n galw am gynyddu'r arian i ddisgyblion sy'n cael bwyd am ddim fel eu bod yn medru talu am ginio a brecwast.

Mae Kate Williams, dirprwy brifathrawes yr ysgol, yn gweld y tlodi yn ddyddiol ac yn credu bod y sefyllfa yn ddiweddar wedi gwaethygu.

"...'Da ni yn prynu brecwast i'r plant. 'Da ni yn rhoi snacks. 'Da ni yn rhoi arian o'n pocedi ni i sicrhau bod neb yn mynd heb fwyd yn ystod y dydd. So mae 'na dlodi go fawr yn yr ardal."

Prydau ysgolFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r elusen Trefnu Cymunedol Cymru, sydd yn ymwneud gyda ymgyrch Dysgu nid llwgu, yn dweud bod rhai plant yn gorfod dewis rhwng prynu brecwast neu ginio

Yn ôl Menna Davies sydd yn rhan o'r elusen mae pobl yr ardal hon yn teimlo'n "ddi-rym".

"Dwi'n meddwl bod y pethau sy'n bwysig i bobl ddim yn bwysig i'r gwleidyddion rhywsut," meddai.

"Maen nhw efo eu hagenda eu hunain. Pan maen nhw yn mynd o ddrws i ddrws dyna'r math o broblemau mae pobl yn mynd i holi amdanyn nhw, dim problemau'r gwleidyddion."

Y cwestiwn mawr ydy at ba blaid, os o gwbl, fydd pobl yn yr etholaethau ymylol yma yn troi.

Brexit ydy un o'r pynciau trafod yma fel mewn sawl rhan arall o Gymru ac mae pobl wedi eu dadrithio ar y ddwy ochr.

Menna DaviesFfynhonnell y llun, Chris Davies
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Menna Davies sydd yn rhan o'r elusen mae pobl yr ardal yn teimlo'n "ddi-rym"

Ond mae Kate Williams yn gobeithio y bydd pobl yn edrych tu hwnt i hynny.

"Dwi'n gobeithio fydd pobl yn meddwl am bethau fwy na Brexit, pethau sy'n effeithio ein plant ni, a'n plant ni ydy ein dyfodol ni."

Does 'na ddim cytundeb etholiadol yn fan yma gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn brwydro am bleidlais y rheiny sydd am aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

'Neb yn saff'

Ond mewn ardal oedd yn gryf o Blaid Brexit dydy hi'i fawr o syndod fod Plaid Brexit yn llygadu'r seddi Llafur yma.

Ac mae hynny yn ei gwneud hi'n anodd iawn darogan y canlyniad medd Gareth Hughes.

"Does neb yn saff dyddiau yma. Dyna'r neges dwi'n meddwl.

"Dwi ddim yn synnu bod y pleidiau yma yn targedu gogledd ddwyrain Cymru. Mae'n reit ddiddorol. A dwi'n meddwl bydd y sefyllfa yma yn adlewyrchu'r sefyllfa ym Mhrydain."