Etholiad 2019: Rhestr llawn o ymgeiswyr
- Cyhoeddwyd
Mae'r enwebiadau wedi cau ar gyfer ymgeiswyr a phleidiau sydd am sefyll yn yr etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr.
Bydd y Ceidwadwyr a Llafur yn sefyll ymhob un o'r 40 etholaeth yng Nghymru.
Fe fydd Plaid Cymru yn sefyll mewn 36 etholaeth a'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn 32 fel rhan o gytundeb etholiadol Pleidiau Aros.
Fe fydd Plaid Brexit yn sefyll mewn 32 etholaeth ar ôl penderfynu peidio cystadlu yn y seddau a enillwyd gan y Ceidwadwyr yn 2017.
Bydd Y Blaid Werdd yn sefyll mewn 18 o etholaethau.
Ni fydd UKIP - a safodd mewn 32 o etholaethau yn etholiad cyffredinol 2017 - yn rhoi unrhyw ymgeiswyr ymlaen yng Nghymru y tro hwn.
Bydd nifer o ymgeiswyr annibynnol ac ambell blaid arall yn sefyll yn yr etholiad fis nesaf.
Cyfanswm yr ymgeiswyr fydd yn sefyll yng Nghymru yw 216, o'i gymharu â 213 yn 2017.
Dyma'r rhestr gyflawn o ymgeiswyr ymhob etholaeth:
Aberafan
Captain Beany - Annibynnol
Glenda Davies - Plaid Brexit
Giorgia Finney - Y Blaid Werdd
Nigel Hunt - Plaid Cymru
Sheila Kingston-Jones - Dem. Rhydd.
Stephen Kinnock - Llafur
Charlotte Jean Lang - Ceidwadwyr
Aberconwy
Jason Edwards - Dem. Rhydd.
Lisa Goodier - Plaid Cymru
Robin Millar - Ceidwadwyr
Emily Owen - Llafur
Dwyrain Abertawe
Chris Evans - Y Blaid Werdd
Carolyn Harries - Llafur
Dr Geraint Havard - Plaid Cymru
Denise Howard - Ceidwadwyr
Chloe Hutchinson - Dem. Rhydd.
Tony Willicombe - Plaid Brexit
Gorllewin Abertawe
Geraint Davies - Llafur
Peter Hopkins - Plaid Brexit
Mike O'Carroll - Dem. Rhydd.
James Price - Ceidwadwyr
Gwyn Williams - Plaid Cymru
Alun a Glannau Dyfrdwy
Susan Hills - Plaid Cymru
Donna Lalek - Dem.Rhydd.
Sanjoy Sen - Ceidwadwyr
Mark Tami - Llafur
Simon Wall - Plaid Brexit
Arfon
Gonul Daniels - Ceidwadwyr
Gary Gribben - Plaid Brexit
Hywel Williams - Plaid Cymru
Steffie Williams Roberts - Llafur
Blaenau Gwent
Chelsea-Marie Annett - Dem. Rhydd.
Peredur Owen Griffiths - Plaid Cymru
Laura Jones - Ceidwadwyr
Stephen Priestnall - Y Blaid Werdd
Nick Smith - Llafur
Richard Taylor - Plaid Brexit
Bro Morgannwg
Alun Cairns - Ceidwadwyr
Belinda Loveluck-Edwards - Llafur
Anthony Slaughter - Y Blaid Werdd
Laurence Williams - Gwlad Gwlad
Brycheiniog a Sir Faesyfed
Tomos Davies - Llafur
Jane Dodds - Dem. Rhydd.
Jeff Green - Plaid Gristnogol
Fay Jones - Ceidwadwyr
Lady Lily The Pink - Monster Raving Loony Party
Caerffili
Wayne David - Llafur
Nathan Gill - Plaid Brexit
Jane Pratt - Ceidwadwyr
Lindsay Whittle - Plaid Cymru
Canol Caerdydd
Sian Caiach - Gwlad Gwlad
Meirion Jenkins - Ceidwadwyr
Brian Johnson - Plaid Sosialaidd Prydain Fawr
Akil Kata - Annibynnol
Bablin Molik - Dem. Rhydd.
Gareth Pearce - Plaid Brexit
Jo Stevens - Llafur
Gogledd Caerdydd
Mo Ali - Ceidwadwyr
Chris Butler - Plaid Brexit
Michael Cope - Y Blaid Werdd
Richard Leigh Jones - Annibynnol
Anna McMorrin - Llafur
Rhys Taylor - Dem. Rhydd.
Steffan Webb - Plaid Cymru
De Caerdydd a Phenarth
Nasir Adam - Plaid Cymru
Ken Barker - Y Blaid Werdd
Philippa Broom - Ceidwadwyr
Stephen Doughty - Llafur
Tim Price - Plaid Brexit
Dan Schmeising - Dem. Rhydd.
Gorllewin Caerdydd
Kevin Brennan - Llafur
Boyd Clack - Plaid Cymru
David Griffin - Y Blaid Werdd
Callum Littlemore - Dem. Rhydd.
Nick Mullins - Plaid Brexit
Carolyn Webster - Ceidwadwyr
Castell-nedd
Simon Briscoe - Plaid Brexit
Jon Burns - Ceidwadwyr
Adrian Kingston-Jones - Dem. Rhydd.
Megan Lloyd - Y Blaid Werdd
Christina Rees - Llafur
Philip Rogers - Annibynnol
Carl Gerard Williams - Plaid Sosialaidd Ddemocrataidd
Daniel Williams - Plaid Cymru
Dwyrain Casnewydd
Mark Dean Brown - Ceidwadwyr
Mike Hamilton - Dem. Rhydd.
Jessica Morden - Llafur
Julie Price - Plaid Brexit
Peter Varley - Y Blaid Werdd
Cameron Wixcey - Plaid Cymru
Gorllewin Casnewydd
Jonathan Clark - Plaid Cymru
Cameron Edwards - Plaid Brexit
Matthew Evans - Ceidwadwyr
Ruth Jones - Llafur
Ryan Jones - Dem. Rhydd.
Amelia Womack - Y Blaid Werdd
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Maria Carroll - Llafur
Jonathan Edwards - Plaid Cymru
Havard Hughes - Ceidwadwyr
Peter Prosser - Plaid Brexit
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
Alistair Cameron - Dem. Rhydd.
Simon Hart - Ceidwadwyr
Rhys Thomas - Plaid Cymru
Marc Tierney - Llafur
Ceredigion
Gethin James - Plaid Brexit
Amanda Jenner - Ceidwadwyr
Ben Lake - Plaid Cymru
Dinah Mullholland - Llafur
Chris Simpson - Y Blaid Werdd
Mark Williams - Dem. Rhydd.
De Clwyd
Jamie Adams - Plaid Brexit
Christopher Allen - Plaid Cymru
Simon Baynes - Ceidwadwyr
Calum Davies - Dem. Rhydd.
Susan Elan Jones - Llafur
Dyffryn Clwyd
Peter Dain - Plaid Brexit
James Davies - Ceidwadwyr
Chris Ruane - Llafur
Gavin Scott - Dem. Rhydd.
Glenn Swingler - Plaid Cymru
Gorllewin Clwyd
David Jones - Ceidwadwyr
Jo Thomas - Llafur
David Wilkins - Dem. Rhydd.
Elfed Williams - Plaid Cymru
Cwm Cynon
Geraint Benney - Plaid Cymru
Steve Bray - Dem. Rhydd.
Andrew Chainey - Plaid Cwm Cynon
Pauline Church - Ceidwadwyr
Ian Andrew Mclean - Plaid Sosialaidd Ddemocrataidd
Rebecca Rees-Evans - Plaid Brexit
Beth Winter - Llafur
Delyn
David Hanson - Llafur
Andrew Parkhurst - Dem. Rhydd.
Rob Roberts - Ceidwadwyr
Paul Rowlinson - Plaid Cymru
Nigel Williams - Plaid Brexit
Dwyfor Meirionnydd
Tomos Dafydd Davies - Ceidwadwyr
Graham Hogg - Llafur
Louise Hughes - Plaid Brexit
Liz Saville Roberts - Plaid Cymru
Gŵyr
Tonia Antoniazzi - Llafur
Sam Bennett - Dem. Rhydd.
John Davies - Plaid Cymru
Francesca O'Brien - Ceidwadwyr
Rob Ross - Plaid Brexit
Islwyn
Gavin Chambers - Ceidwadwyr
Chris Evans - Llafur
Zoe Hammond - Plaid Cymru
Catherine Linstrum - Y Blaid Werdd
Joanne Watkins - Dem. Rhydd.
James Wells - Plaid Brexit
Llanelli
Mari Arthur - Plaid Cymru
Susan Boucher - Plaid Brexit
Nia Griffith - Llafur
Tamara Reay - Ceidwadwyr
Merthyr Tudful a Rhymni
Brendan D'Cruz - Dem. Rhydd.
Mark Evans - Plaid Cymru
David Hughes - Annibynnol
Colin Jones - Plaid Brexit
Gerald Jones - Llafur
Sarah Louise Jones - Ceidwadwyr
Mynwy
Ian Chandler - Y Blaid Werdd
David Davies - Ceidwadwyr
Martyn Ford - Annibynnol
Hugh Kocan - Plaid Cymru
Yvonne Murphy - Llafur
Alison Willott - Dem. Rhydd.
Maldwyn
Kishan Devani - Dem. Rhydd.
Kait Duerden - Llafur
Gwyn Wigley Evans - Gwlad Gwlad
Craig Williams - Ceidwadwyr
Ogwr
Anita Davies - Dem. Rhydd.
Chris Elmore - Llafur
Luke Fletcher - Plaid Cymru
Tom Muller - Y Blaid Werdd
Christine Roach - Plaid Brexit
Sadie Vidal - Ceidwadwyr
Pen-y-bont ar Ogwr
Alex Harris - Y Blaid Werdd
Leanne Lewis - Plaid Cymru
Madeleine Moon - Llafur
Rob Morgan - Plaid Brexit
Jonathan Pratt - Dem. Rhydd.
Jamie Wallis - Ceidwadwyr
Pontypridd
Steve Bayliss - Plaid Brexit
Jonathan Bishop - Annibynnol
Alex Davies-Jones - Llafur
Fflur Elin - Plaid Cymru
Mike Powell - Annibynnol
Sue Prior - Annibynnol
Sam Trask - Ceidwadwyr
Preseli Penfro
Stephen Crabb - Ceidwadwyr
Thomas Hughes - Dem. Rhydd.
Philippa Thompson - Llafur
Cris Tomos - Plaid Cymru
Rhondda
Rodney Berman - Dem. Rhydd.
Chris Bryant - Llafur
Branwen Cennard - Plaid Cymru
Hannah Elizabeth Jarvis - Ceidwadwyr
Shaun Thomas - Y Blaid Werdd
John Watkins - Plaid Brexit
Torfaen
Morgan Bowler Brown - Plaid Cymru
Andrew Heygate-Browne - Y Blaid Werdd
John Miller - Dem. Rhydd.
Graham Smith - Ceidwadwyr
David Thomas - Plaid Brexit
Nick Thomas-Symonds - Llafur
Wrecsam
Sarah Atherton - Ceidwadwyr
Ian Berkeley-Hurst - Plaid Brexit
Carrie Harper - Plaid Cymru
Duncan Rees - Y Blaid Werdd
Tim Sly - Dem. Rhydd.
Mary Wimbury - Llafur
Ynys Môn
Aled ap Dafydd - Plaid Cymru
Virginia Crosbie - Ceidwadwyr
Helen Jenner - Plaid Brexit
Mary Roberts - Llafur
Beth mae'r pleidiau yn ei addo?
Dewiswch bwnc i weld polisïau
Plaid Cymru
Plaid Cymru
Ceidwadwyr
Ceidwadwyr
Llafur
Llafur
Democratiaid Rhyddfrydol
Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Werdd
Plaid Werdd
Plaid Brexit
Plaid Brexit
Plaid Cymru
Plaid Cymru
Ceidwadwyr
Ceidwadwyr
Llafur
Llafur
Democratiaid Rhyddfrydol
Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Werdd
Plaid Werdd
Plaid Brexit
Plaid Brexit
Plaid Cymru
Plaid Cymru
Ceidwadwyr
Ceidwadwyr
Llafur
Llafur
Democratiaid Rhyddfrydol
Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Werdd
Plaid Werdd
Plaid Brexit
Plaid Brexit
Plaid Cymru
Plaid Cymru
Ceidwadwyr
Ceidwadwyr
Llafur
Llafur
Democratiaid Rhyddfrydol
Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Werdd
Plaid Werdd
Plaid Brexit
Plaid Brexit
Plaid Cymru
Plaid Cymru
Ceidwadwyr
Ceidwadwyr
Llafur
Llafur
Democratiaid Rhyddfrydol
Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Werdd
Plaid Werdd
Plaid Brexit
Plaid Brexit
Plaid Cymru
Plaid Cymru
Ceidwadwyr
Ceidwadwyr
Llafur
Llafur
Democratiaid Rhyddfrydol
Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Werdd
Plaid Werdd
Plaid Brexit
Plaid Brexit
Plaid Cymru
Plaid Cymru
Ceidwadwyr
Ceidwadwyr
Llafur
Llafur
Democratiaid Rhyddfrydol
Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Werdd
Plaid Werdd
Plaid Brexit
Plaid Brexit
Plaid Cymru
Plaid Cymru
Ceidwadwyr
Ceidwadwyr
Llafur
Llafur
Democratiaid Rhyddfrydol
Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Werdd
Plaid Werdd
Plaid Brexit
Plaid Brexit
Plaid Cymru
Plaid Cymru
Ceidwadwyr
Ceidwadwyr
Llafur
Llafur
Democratiaid Rhyddfrydol
Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Werdd
Plaid Werdd
Plaid Brexit
Plaid Brexit
Plaid Cymru
Plaid Cymru
Ceidwadwyr
Ceidwadwyr
Llafur
Llafur
Democratiaid Rhyddfrydol
Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Werdd
Plaid Werdd
Plaid Brexit
Plaid Brexit
Plaid Cymru
Plaid Cymru
Ceidwadwyr
Ceidwadwyr
Llafur
Llafur
Democratiaid Rhyddfrydol
Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Werdd
Plaid Werdd
Plaid Brexit
Plaid Brexit
Plaid Cymru
Plaid Cymru
Ceidwadwyr
Ceidwadwyr
Llafur
Llafur
Democratiaid Rhyddfrydol
Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Werdd
Plaid Werdd
Plaid Brexit
Plaid Brexit
Os na allwch weld y gyfrifiannell, adnewyddwch eich tudalen.
Beth mae'r pleidiau yn ei addo?
Darganfod beth mae pleidiau gwleidyddol y DU yn ei addo gan ddewis cenedl neu blaid isod.
Cymru
Llafur
Arweinwyr
Jeremy Corbyn, Arweinydd Cymru: Mark Drakeford
Blaenoriaethau allweddol
Blaenoriaethau allweddol
- Mwy o arian i Gymru fuddsoddi yn y GIG, addysg, llywodraeth leol a’r heddlu
- “Chwyldro diwydiannol” gwyrdd, drwy fuddsoddi mewn swyddi gwyrdd ledled y wlad sy'n cydnabod undebau
- Cael gwared ar gap talu’r sector cyhoeddus
- Buddsoddi mewn prosiectau seilwaith ar draws Cymru, gan gynnwys adeiladu Morlyn Llanw Bae Abertawe a gorsaf niwclear newydd ar Ynys Mȏn
- Cyflwyno cyflog byw gwirioneddol o o leiaf £10 yr awr i bob oed
Brexit
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Ail-drafod cytundeb Brexit a deddfu i gynnal pleidlais gyhoeddus o fewn chwe mis, gyda'r dewis o "gytundeb synhwyrol i adael " neu Aros
- Bydd Llafur Cymru yn ymgyrchu i Aros yn y refferendwm hwnnw
- Cael gwared ar y bygythiad o adael heb gytundeb
GIG a gofal
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Mae llywodraethau o dan arweiniad Llafur yng Nghymru wedi cyflwyno presgripsiynau am ddim, parcio am ddim mewn ysbytai a chaniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau
- Buddsoddiad parhaus yn staff y GIG, a pheidio byth â'u trosglwyddo i is-gwmnïau i danseilio telerau ac amodau
- Gwrthwynebu preifateiddio’r GIG yng Nghymru, sy’n cael ei redeg gan fyrddau iechyd a benodir yn gyhoeddus
- Bydd gan GIG Cymru rôl allweddol wrth sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru yn niwtral o ran carbon erbyn 2030
- Mwy o integreiddio gyda gofal cymdeithasol, i’w gyllido drwy dreth neu ardoll, ac o bosib ledled y DU
Trosedd
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Dadwneud toriadau i staff carchardai a charchardai, gwella cyflogau ac amodau
- Dadwneud toriadau i gymorth cyfreithiol
- Llywodraeth Lafur Cymru i archwilio Comisiwn Brenhinol arfaethedig y DU ar gamddefnyddio sylweddau
- Recriwtio swyddogion heddlu ychwanegol a blaenoriaethu plismona yn y gymdogaeth
- Datganoli cyfiawnder troseddol a phenodi cyn-Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Thomas i fod yn bennaeth comisiwn annibynnol i ddatblygu’r manylion
Addysg
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Ysgolion i barhau o dan reolaeth awdurdodau lleol ac i fod yn ysgolion uwchradd; dim ysgolion gramadeg, academïau nac ysgolion rhydd
- Yn lle tablau cynghrair, ysgolion i barhau i gael eu categoreiddio fesul lliw i ddangos a oes angen unrhyw gymorth arnyn nhw
- Myfyrwyr o Gymru i barhau i gael grantiau i dalu am gostau byw, gyda benthyciadau i dalu am ffioedd dysgu
- Cafwyd gwared ar TASau dros ddegawd yn ôl o blaid profion eraill
- 30 awr o ofal plant am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed
Gwaith a budd-daliadau
Polisïau allweddol
- Cynyddu nifer y cyflogwyr sy'n talu Cyflog Byw yng Nghymru a chyflwyno "cyflog byw go iawn" o £10 yr awr yn 2020 i bob gweithiwr dros 16 oed
- Diddymu credyd cynhwysol, y dreth "ystafell wely" a'r terfyn dau blentyn ar gyfer budd-daliadau a chynyddu'r Lwfans i Ofalwyr i ofalwyr llawn amser di-dâl
- Diddymu'r cynnydd mewn oed pensiwn gwladol a'i gadw'n 66 oed, a digolledu menywod sydd wedi cael eu heffeithio gan y penderfynid i gyflymu'r amserlen i gynyddu'r oed
- Cynyddu'r taliad mamolaeth statudol o naw mis i 12 mis, dyblu absenoldeb mamolaeth a thadolaeth o bythefnos i bedair wythnos a chynyddu tâl tadolaeth statudol
- Cyflwyno wythnos waith o 32 awr ar gyfartaledd o fewn y degawd nesaf, heb lai o gyflog
Economi
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Pwyslais ar yr economi “sylfaenol” – nwyddau a gwasanaethau hanfodol y mae cymunedau yn dibynnu arnyn nhw, yn bennaf twristiaeth, bwyd, manwerthu a gofal
- Mae banc datblygu wedi’i lansio
- Bydd 'Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd' yn helpu diwydiannau a chymunedau ledled Cymru
- Proses gaffael y sector cyhoeddus i ddefnyddio cwmnïau yng Nghymru lle bo'n bosibl
- Creu 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed rhwng 2016-21
Tai
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPrif bwyntiau'r ymgyrch
- Cael gwared ar "hawl i brynu" i ddiogelu’r stoc o dai cymdeithasol
- Targed o 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yng Nghymru o 2016-21 drwy adeiladu cartrefi newydd ac atgyweirio adeiladau gwag
- Bydd cadw'r Gofrestrfa Tir o fewn y sector cyhoeddus yn gwneud perchnogaeth tir yng Nghymru yn fwy tryloyw
- Cynllun benthyca newydd sy'n isel o ran cost ar gyfer ôl-ffitio chwistrellwyr mewn blociau o fflatiau
- Dod â digartrefedd i ben, yn enwedig ymhlith pobl ifanc
Amgylchedd
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd ym mis Mai, gan addo i anelu at ddim allyriadau o gwbl (sero) erbyn 2050
- Adeiladu ar Ddeddf Amgylchedd Cymru i ehangu cynlluniau i amddiffyn cynefinoedd naturiol
- Mae gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn siarad â Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) fel “pobl hynod ymrwymedig gyda rhai syniadau da iawn”
- Cryfhau hawliau ffermwyr tenant i'w helpu i gynhyrchu bwyd cynaliadwy a gwarchod yr amgylchedd
- Blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus dros ffyrdd newydd e.e. datblygu systemau metro yng ngogledd a de Cymru, a chael gwared ar gynlluniau am draffordd newydd yn ne Cymru
Mewnfudo
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Amddiffyn hawliau'r tair miliwn o ddinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU
- Dim cap penodol ar nifer y mudwyr net - gwahaniaeth rhwng rheiny sy'n cyrraedd y DU a'r nifer sy'n gadael
- System fewnfudo sy'n seiliedig ar anghenion yr economi a chymunedau a system visa gwaith hyblyg
- Iawn i ddioddefwyr sgandal mewnfudo Windrush
- Rhoi diwedd ar ganolfannau cadw, adolygu trefn wahanol i ganolfannau cadw a chau canolfannau Yarl's Wood a Brook House
Trafnidiaeth
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus drwy ddatblygu metros yn Ne Cymru a Gogledd Cymru, yn lle rhaglenni mawr ar y ffyrdd
- Cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Lafur y DU i helpu gwasanaethau bysiau lleol ac ymestyn y cynllun teithio rhatach i bobl ifanc
- Ymrwymo i drydaneiddio'r rheilffyrdd a gwella'r broses o gynllunio llwybrau cerdded a beicio
- Llywodraeth Lafur y DU i gyflymu cynlluniau i sicrhau bod pob tacsi a bws yng Nghymru yn cael ôl troed di-garbon o fewn 10 mlynedd
Democratiaeth
Polisïau allweddol
- Cefnogi rhoi’r bleidlais i bobl ifanc 16-17 oed yn etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau cynghorau lleol
- Cefnogi ail-enwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Senedd etholedig y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau yn lle Tŷ'r Arglwyddi
- Gwrthwynebu’r syniad o newid niferoedd a’r ffordd y mae aelodau’n cael eu hethol – cyfuniad o cyntaf i’r felin a rhestrau rhanbarthol i roi canlyniad mwy cyfrannol
- Cefnogi DU sy’n fwy ffederal i ddiogelu’r undeb a diwygio cyllid i sicrhau nad oes unrhyw genedl neu ranbarth o dan anfantais annheg
Ceidwadwyr
Arweinwyr
Boris Johnson, Arweinydd Cymru: Paul Davies
Blaenoriaethau allweddol
Blaenoriaethau allweddol
- Darparu Brexit gyda'r cytundeb y cytunwyd arno gyda'r UE
- 20,000 yn fwy o swyddogion yr heddlu yn ystod y tair blynedd nesaf yng Nghymru a Lloegr
- Arian ychwanegol i ysgolion ac ysbytai yn Lloegr o bosib yn golygu mwy o arian yng nghyllideb Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ond mater i Lywodraeth Cymru fyddai penderfynu sut caiff ei wario
- Cannoedd o filiynau o bunnoedd i Gymru fuddsoddi mewn trafnidiaeth, band eang a gwella cymunedau
- Bargen Twf y Gororau i wella seilwaith sy'n cefnogi'r economi ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr
Brexit
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Dod a'r Mesur Ymadael yn ôl i'r Senedd cyn y Nadolig i sicrhau bod Brexit yn digwydd erbyn diwedd mis Ionawr
- Trafod Cytundeb Masnach Rydd gyda'r UE i ddod i rym yn 2021
- Peidio ag ehangu’r cyfnod pontio ar ôl ymadawiad y DU y tu hwnt i fis Rhagfyr 2020
- Rhoi’r gorau i’r rhyddid i symud rhwng yr UE a’r DU a system fewnfudo newydd sy’n seiliedig ar bwyntiau
- Trafod Cytundebau Masnach Rydd gyda phartneriaid masnachu eraill ledled y byd
GIG a gofal
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Gosod cap ar gost gofal a phobl i gael sicrwydd o gadw asedau gwerth £100,000 ar ôl i’r bil gofal gael ei dalu
- Hawl statudol i ofalwyr sy'n gweithio gael gwyliau
- Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer GIG Cymru o £1.9bn o 2018-2023
- Adeiladu canolfannau diagnostig cyflym yng Ngogledd, Canolbarth a De Cymru i gyflymu mynediad a lleihau nifer yr ymweliadau ag ysbytai
- Dyblu'r cyllid ymchwil i ddementia a chyflymu treialon ar gyfer triniaethau newydd
Trosedd
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- 20,000 yn fwy o swyddogion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn ystod y tair blynedd nesaf
- 10,000 o lefydd ychwanegol mewn carchardai a £2.5bn i wella carchardai
- Troseddwyr sy’n cael eu carcharu am bedair blynedd neu fwy i dreulio o leiaf dwy ran o dair o’u dedfryd cyn eu rhyddhau
- Dedfrydau llymach i droseddwyr treisgar a throseddwyr rhyw yn ogystal â chreulondeb i anifeiliaid
- Rhoi rhagor o ryddid i'r heddlu i stopio a chwilio'r rheiny sydd â hanes o gario cyllyll, a bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn anghyfreithlon gyda chyllell yn cael ei arestio yn syth, ei gyhuddo o fewn 24 awr ac yn ymddangos mewn llys o fewn wythnos
Addysg
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Bydd £14bn ychwanegol i ysgolion yn Lloegr yn golygu cynnydd sylweddol o ran cyllid i Lywodraeth Cymru
- Tynnu ysgolion o reolaeth awdurdodau lleol, gyda’r cyllid yn dod yn uniongyrchol wrth Lywodraeth Cymru
- Gweithio tuag at gysondeb wrth gydnabod cymwysterau addysg technegol ar draws y DU
- Cyflwyno dysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion cynradd
- Ystyried graddau cywasgedig sy’n cael eu hastudio dros ddwy flynedd academaidd ac annog twf cyrsiau hyblyg, rhan-amser a chyrsiau dysgu o bell
Gwaith a budd-daliadau
Polisïau allweddol
- Dim cynnydd mewn cyfraddau treth incwm neu Yswiriant Gwladol
- Codi'r trothwyr pryd y bydd unigolion yn talu Yswiriant Gwladol i £9,500 yn y Gyllideb gyntaf ac, yna, i £12,500
- Codi’r cyflog byw cenedlaethol i £10.50 yr awr erbyn 2024 ar gyfer pobl dros 21 oed
- Cadw'r clo triphlyg, y taliad tanwydd gaeaf a budd-daliadau eraill i bensiynwyr
- Parhau i gyflwyno'r system Credyd Cynhwysol
Economi
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- “Cronfa ffyniant gyffredin” y DU gyfan yn lle cronfeydd strwythurol yr UE ar ôl Brexit
- Band eang â ffeibr llawn sy'n gallu cario gigabit i bob cartref a busnes yng Nghymru erbyn 2025
- Bargen Twf y Gororau i wella seilwaith gan gefnogi'r economi ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr
- Cymorth i'r diwydiant gweithgynhyrchu ceir yng Nghymru wrth i'r diwydiant newid i adeiladu cerbydau trydan
- Diwygio ardrethi busnes yng Nghymru
Tai
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPrif bwyntiau'r ymgyrch
- Adfer hawl i brynu, sydd wedi’i ddiddymu yng Nghymru
- Adeiladu 12,000 o dai y flwyddyn
- Gweinidog yng nghabinet Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am dai a chynllunio
- Ad-daliadau Treth Trafodiadau Tir ar gartrefi sy’n gwella eu safonau effeithlonrwydd ynni
Amgylchedd
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Ariannu mwy o ymchwil i ynni'r llanw o amgylch arfordir Cymru
- Hyrwyddo diddordeb mewn adeiladu morlynnoedd llanw sy'n fasnachol hyfyw yng Ngogledd, De a Gorllewin Cymru
- Atal cymeradwyo llosgyddion mawr nes bod cynllun cenedlaethol yn cael ei ddatblygu
- Sefydlu cronfa amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru i fuddsoddi mewn gwelliannau
- Gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi, ysgolion ac ysbytai yng Nghymru a chefnogi trafnidiaeth lân
Mewnfudo
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Sefydlu mesurau rheoli mewnfudo a diddymu rhyddid i symud ar ôl Brexit
- Cyflwyno system sy'n seiliedig ar bwyntiau fel Awstralia, sy'n trin pob ymfudwr yn gyfartal waeth o ble maen nhw'n dod
- Dinasyddion yr UE i aros pum mlynedd cyn cael budd-daliadau ac i dalu gordal y GIG - fel ymfudwyr eraill
- Cyflwyno "fisa GIG" a fyddai'n ei gwneud hi'n haws i feddygon a nyrsys o bob cwr o'r byd weithio yn y DU
- Cyflwyno “fisa busnesau newydd” i ddenu entrepreneuriaid
Trafnidiaeth
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Uwchraddio'r A55 fel y brif wythien drafnidiaeth ar gyfer Gogledd Cymru
- Corff hyd braich newydd i ddarparu system drafnidiaeth integredig
- Cynllun teithio cerdyn clyfar newydd, i'w ddefnyddio ar wahanol ddulliau o drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru
- Ymgynghoriad ar gynyddu'r terfyn cyflymder i 80mya ar yr M4 a'r A55
- Ariannu adeiladu gorsaf Parcffordd Gorllewin Cymru y tu allan i Abertawe
Democratiaeth
Polisïau allweddol
- Ei gwneud yn ofynnol i ddangos cerdyn adnabod â llun wrth bleidleisio
- Ei gwneud hi'n haws i ddinasyddion y DU sy'n byw dramor bleidleisio, gan gael gwared ar y terfyn 15 mlynedd ar eu hawliau pleidleisio
- Ffiniau Seneddol sy'n gyfartal ac wedi'u diweddaru fel bod pob pleidlais gyfwerth â'i gilydd
- Cynnal y gwaharddiad ar garcharorion yn pleidleisio yng Nghymru a Lloegr
- Wedi penderfynu peidio â chymryd rhan yn y pwyllgor ar ddiwygio etholiadol, sy'n ystyried cynyddu nifer yr ACau, y system y byddent yn cael eu hethol drwyddi, a'r oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ac etholiadau lleol yng Nghymru
Plaid Cymru
Arweinydd
Adam Price
Blaenoriaethau allweddol
Blaenoriaethau allweddol
- Ail refferendwm ar Brexit
- Neilltuo 1% yn ychwanegol o GDP y flwyddyn i fuddsoddi mewn ynni adnewyddol dros y 10 mlynedd nesaf, gan roi siâr o £15bn i Gymru
- £20bn ar gyfer "chwyldro" swyddi gwyrdd yng Nghymru, drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, seilwaith trafnidiaeth a gwasanaethau digidol
- Tynnu plant allan o dlodi drwy daliadau newydd i blant mewn teuluoedd incwm isel a hwb o £300m “unwaith mewn bywyd” ar gyfer addysg
Brexit
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Gwrthwynebu Brexit ac ymgyrchu i aros yn yr UE
- Eisiau refferendwm ar delerau terfynol Brexit
GIG a gofal
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Hyfforddi a recriwtio 1,000 o ddoctoriaid, 5,000 o nyrsys a 100 o ddeintyddion newydd ar gyfer y GIG yng Nghymru yn ystod y ddegawd nesaf
- Gofal Cymdeithasol am ddim i'r henoed drwy wasanaeth iechyd cenedlaethol a gofal cymdeithasol newydd
Trosedd
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Datganoli cyfiawnder troseddol a phlismona
- Cronfa £50m newydd i atal troseddu er mwyn recriwtio 1,600 o swyddogion newydd yr heddlu
- Cynyddu cyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol
- Cyfreithiau newydd i warchod dioddefwyr troseddau
- Sefydlu comisiwn cenedlaethol i edrych ar newid y gyfraith ar ddibyniaeth cyffuriau
Addysg
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- £300m yn ychwanegol i ysgolion a cholegau Cymru
- Rhwydwaith newydd o golegau addysg galwedigaethol arbenigol ar gyfer y rheini sy’n 14+ mewn addysg ôl-orfodol
Gwaith a budd-daliadau
Polisïau allweddol
- £35 o daliad yr wythnos i bob plentyn mewn teulu incwm isel a chredydau treth o hyd at £25 yr wythnos i denantiaid yn y sector breifat sy'n gwario mwy na 30% o'u hincwm ar rent a biliau
- Datganoli pwerau dros nawdd cymdeithasol i Gymru
- Cael gwared ar y “dreth ystafell wely”
- Gofal plant am ddim i bawb am 40 awr yr wythnos
Economi
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Galw ar y Trysorlys i gynyddu pwerau benthyg Cymru o £1bn i £5bn i dalu am gynlluniau gwyrdd
- Cronfa drawsnewid yr UE i Gymru gwerth £5bn i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol
- Datganoli pwerau ar y dreth gorfforaethol, toll teithwyr awyr a threth ar werth i Gymru
- Band eang cyflym iawn sy'n nwylo'r cyhoedd erbyn 2025 a signal ffôn symudol 5G ar draws Cymru
- Cyllido dwbl i Croeso Cymru a thorri TAW twristiaeth
Tai
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPrif bwyntiau'r ymgyrch
- 20,000 o dai cymdeithasol gwyrdd a rhaglen gwerth £5bn i wella effeithlonrwydd ynni tai Defnyddio eiddo gwag unwaith eto
- Cryfhau hawliau defnyddwyr sy'n prynu tai sydd newydd eu hadeiladu
- Buddsoddiad sylweddol mewn tai fforddiadwy
- Cyflwyno cymorth rhent i bobl sy’n talu mwy na 30% o’u cyflog ar rent
Amgylchedd
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- “Chwyldro” swyddi gwyrdd yng Nghymru gwerth £20bn – buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, seilwaith a gwasanaethau digidol – gan greu degau o filoedd o swyddi
- Adeiladu morlyn llanw ym Mae Abertawe, Caerdydd, Bae Colwyn, yn ogystal a fferm wynt oddi ar arfordir Ynys Mon
- Cymru i fod yn 100% hunan-gynhaliol mewn trydan adnewyddadwy erbyn 2035
- Cymru i fod yn wlad di-garbon a gwahardd y defnydd o blastig untro erbyn 2030
Mewnfudo
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Cyflwyno fisas sy’n benodol i Gymru
- Tynnu myfyrwyr rhyngwladol allan o’r targedau mewnfudo net
Trafnidiaeth
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Trydaneiddio'r prif reilffyrdd erbyn 2030, rheilffyrdd Cymoedd de Cymru, rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru ac ailagor gwasanaethau yn Aman, Tawe, Castell-nedd a chymoedd Dulais
- System drafnidiaeth y metro ar gyfer Bae Abertawe a gorllewin y cymoedd a gogledd ddwyrain Cymru
- Gwneud prisiau tocynnau trên yn fwy fforddiadwy
- Ail-reoleiddio bysiau
- Buddsoddi mewn ffyrdd i ganolbwyntio ar wella cysylltiadau rhwng gogledd a de Cymru yn ogystal â’r prif goridorau trafnidiaeth o’r dwyrain i’r gorllewin
Democratiaeth
Polisïau allweddol
- Cefnogi annibyniaeth i Gymru
- Rhoi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed ym mhob etholiad
Democratiaid Rhyddfrydol
Arweinwyr
Jo Swinson, Arweinydd Cymru: Jane Dodds
Blaenoriaethau allweddol
Blaenoriaethau allweddol
- Stopio Brexit
- Mynd i’r afael â newid hinsawdd drwy gefnogi ynni adnewyddadwy, insiwleiddio cartrefi, cartrefi sy’n effeithlon o ran ynni a thrafnidiaeth werdd
- Bydd cyllid addysg yn Lloegr yn golygu mwy o arian i Gymru
Brexit
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Gwrthwynebu Brexit ac ymgyrchu i aros yn yr UE
- Diddymu Erthygl 50, canslo Brexit, os caiff y blaid ei hethol yn llywodraeth fwyafrifol
- Mewn amgylchiadau eraill, ymgyrchu am refferendwm gyda’r dewis o aros yn yr UE ar y papur pleidleisio
GIG a gofal
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Ceiniog ym mhob punt ar dreth incwm, gan alluogi Cymru i wario mwy ar y GIG a gwasanaethau cymdeithasol
- Blaenoriaeth i gyllido iechyd meddwl *Sefydlu confensiwn iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU ar gyfer adolygiad o'r system, gyda Llywodraeth Cymru yn cael ei gwahodd i gymryd rhan ac i weithio gyda chomisiwn penodol i Gymru
- Cyflwyno llinell gymorth chwythwyr chwiban GIG Cymru
Trosedd
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Creu system gyfreithiol benodol i Gymru
- Datganoli pwerau dros gyfiawnder ieuenctid, gwasanaethau prawf, carchardai a'r heddlu
- Buddsoddi £1bn mewn plismona cymunedol - digon am ddau swyddog heddlu newydd ym mhob ward
- Gwaredu Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, a chyflwyno byrddau lleol yn eu lle
- Cyllido codiad cyflog o 2% i swyddogion yr heddlu
Addysg
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Addo £560m o arian ychwanegol i Gymru yn sgil gwariant yn Lloegr
- Cwricwlwm newydd i ysgolion yng Nghymru o 2022
- Torri maint dosbarthiadau babanod
- System newydd i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol o 2021
- Rheolau newydd ar wisg ysgol er mwyn ei wneud yn fwy fforddiadwy a chynnig opsiynau sy'n niwtral o ran rhyw
Gwaith a budd-daliadau
Polisïau allweddol
- Cynyddu lwfansau gwaith o dan y credyd cynhwysol gan alluogi pobl i weithio am gyfnod hirach cyn i fudd-daliadau gael eu torri a chyflwyno lwfans gwaith i’r ail berson sy’n ennill cyflog
- Lleihau'r aros am y taliad budd-daliadau cyntaf o bum wythnos i bum niwrnod
- Cael gwared ar yr uchafswm o ddau blentyn ar fudd-daliadau teulu, y "dreth ystafell wely" a'r cap budd-daliadau cyffredinol *Cael gwared ar yr Asesiad Gallu i Weithio ac adfer y Gronfa Byw'n Annibynnol *Yr hawl i ofyn am gytundeb oriau penodol ar ôl 12 mis i weithwyr sydd ar drefniant dim oriau a gweithwyr asiantaeth
Economi
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Diwygio’r system ardrethi busnes, gan flaenoriaethu’r economi ddigidol
- Cynllun seilwaith newydd gwerth £50bn yn y DU, gyda Llywodraeth Cymru yn ymwneud â phennu sut mae'n cael ei wario
- Cefnogi’r broses o greu Banc Datblygu Cymru
Tai
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPrif bwyntiau'r ymgyrch
- Cartrefi cymdeithasol newydd i fod yn hygyrch ac isel o ran carbon
- Archwilio’r achos dros ddiwygio’r gyfraith gynllunio i hyrwyddo mwy o adeiladu tai fforddiadwy
- Cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i sicrhau darpariaeth ddigonol o lety argyfwng
- Pob awdurdod lleol i gael o leiaf un prosiect "tai yn gyntaf", gyda'r bwriad o ddod â digartrefedd i ben
Amgylchedd
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Cymeradwyo Morlyn Llanw Abertawe
- Newid trethiant ar danwydd ffosil
- Rhoi cyllid ychwanegol i ddod â mwy o fuddsoddiad preifat i ynni adnewyddadwy
- Sefydlu cynllun dychwelyd ernes ledled Cymru os nad yw’r cynllun DU-gyfan yn ymarferol
- Cefnogi treth plastig untro ledled y DU
Mewnfudo
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Creu fisa dwy flynedd newydd er mwyn i fyfyrwyr weithio ar ôl graddio
- Dileu'r angen am leiafswm incwm ar gyfer fisas gwr/gwraig a fisas partner
- Rhoi’r hawl i geiswyr lloches weithio am dri mis ar ôl iddyn nhw wneud cais
- Atal cadw mewnfudwyr am gyfnod amhenodol drwy gyflwyno terfyn o 28 diwrnod
- Ailsefydlu 10,000 o blant ffoaduriaid sydd ar eu pen eu hunain yn y DU yn ystod y deng mlynedd nesaf ac ehangu hawliau aduniad teuluol
Trafnidiaeth
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Pwyso i drydaneiddio llinellau rheilffyrdd Cymru yn llawn gan gynnwys Llinell Arfordir Gogledd Cymru
- Cyflwyno cerdyn sy’n debyg i’r “Oystercard” i Gymru gyfan
- Cael gwared ar y cyswllt awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn
- Datganoli tollau teithwyr awyr
Democratiaeth
Polisïau allweddol
- Cyflwyno cyfansoddiad ffederal ysgrifenedig a fyddai'n gwneud y Cynulliad Cenedlaethol yn sefydliad parhaol
- Cynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer etholiadau lleol a San Steffan
- Gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer pob etholiad a refferendwm
- Diwygio Tŷ'r Arglwyddi er mwyn iddo gael mandad democrataidd
- Caniatáu i ddinasyddion y DU sy'n byw dramor i bleidleisio am ASau mewn etholaethau tramor ar wahân ac i gymryd rhan mewn refferenda yn y DU
Plaid Brexit
Arweinwyr
Nigel Farage, Prif lefarydd Cymru: Nathan Gill
Blaenoriaethau allweddol
Blaenoriaethau allweddol
- Gadael holl sefydliadau'r UE ac adfer goruchafiaeth cyfraith y DU
- Trafod cytundeb masnach rydd gyda’r UE, yn debyg i’r cytundeb sydd gan y bloc gyda Chanada a Japan – gyda 1 Gorffennaf 2020 fel dyddiad newydd
- Gadael yr UE a symud i reolau masnachu Sefydliad Masnach y Byd os na ellir cytuno ar gytundeb masnach rydd
- Rhaglen wariant £200bn ar ranbarthau, wi-fi a gwasanaethau i bobl ifanc
- Buddsoddi £12bn yng Nghymru dros dymor seneddol pum mlynedd, o'r £200bn i'w fuddsoddi ar draws y DU
Brexit
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Beirniadu cytundeb Boris Johnson “oherwydd nid Brexit yw e”
- Trafod cytundeb masnach rydd gyda’r UE, yn debyg i’r cytundeb sydd gan y bloc gyda Chanada, gyda 1 Gorffennaf 2020 fel dyddiad newydd i’w gymeradwyo
- Gadael yr UE a symud i reolau masnachu Sefydliad Masnach y Byd os na ellir cytuno ar gytundeb masnach rydd
GIG a gofal
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Buddsoddi yn y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru gyda mwy o staff meddygol a llai o wastraff
- Trafod clustnodi cyllideb GIG Cymru
- Sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn parhau i fod yn wasanaeth cynhwysfawr o dan berchnogaeth gyhoeddus sy'n rhad ac am ddim adeg ei ddefnyddio
- Adeiladu meddygfeydd ychwanegol ar gyfer meddygon teulu
Trosedd
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Cynyddu nifer swyddogion yr heddlu
- Cyflwyno amryw o ddedfrydau i droseddwyr ifanc i annog adferiad
- Anelu at gynnydd o 10% yn nifer swyddogion yr heddlu yng Nghymru
Addysg
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Gwrthwynebu gwaharddiad arfaethedig Llywodraeth Cymru ar smacio plant
- Cael gwared ar yr holl log sy’n cael ei dalu ar ffioedd dysgu myfyrwyr
- Gorfodi prifysgolion Cymru i ddigolledu myfyrwyr am streiciau mewn colegau
Gwaith a budd-daliadau
Polisïau allweddol
- *Adolygiad 12 mis o gredyd cynhwysol gan gyflwyno diwygiadau o fewn dwy flynedd
- Adolygu'r penderfyniad i gyflymu'r amserlen i godi oed pensiwn gwladol merched, sy'n effeithio ar fenywod gafodd eu geni yn y 1950au
Economi
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Rhaglen wariant £200bn ar ranbarthau sydd wedi’u gadael ar ôl a phrosiectau ffyrdd a rheilffyrdd, gyda’r arian yn deillio o gael gwared ar HS2, peidio â thalu bil ymadael yr UE a haneru arian cymorth
- Gostwng treth ar werth i ddim ar danwydd domestig i leihau biliau trydan
- Cael gwared ar dreth etifeddiant
- Lwfans o £10,000 i bob cwmni yn y DU cyn talu treth gorfforaethol
- Torri ardrethi busnes yn gyfan gwbl (sero) y tu allan i’r M25 er mwyn helpu’r stryd fawr i ffynnu
Tai
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPrif bwyntiau'r ymgyrch
- Symleiddio'r broses gynllunio i adeiladu ar safleoedd tir llwyd
- Gwneud hi'n haws i gynghorau allu benthyg gan lywodraeth ganolog i adeiladu tai cyngor
Amgylchedd
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Ailgylchu holl wastraff y DU a'i gwneud hi'n anghyfreithlon ei allforio dramor
- Plannu degau o filiynau o goed
- Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygredd aer a darparu mannau cyfleus i wefru ceir
Mewnfudo
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Cap ar fudo o 50,000 y flwyddyn
- Cyflwyno system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau
Trafnidiaeth
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Adeiladu ffordd liniaru’r M4
Democratiaeth
Polisïau allweddol
- Cadw’r oed pleidleisio yn 18 oed
- Gwrthwynebu rhoi pleidlais i garcharorion
- Gwrthwynebu ehangu’r Cynulliad Cenedlaethol i gael mwy o aelodau
- Galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cofrestr o lobïwyr
- Torri nifer cynghorau Cymru o 22 i 12 drwy ofyn i'r mwyafrif uno, a gostwng nifer y cynghorwyr rhwng traean a hanner
Plaid Werdd
Arweinwyr
Jonathan Bartley, Sian Berry
Blaenoriaethau allweddol
Blaenoriaethau allweddol
- Gweithredu brys ar newid hinsawdd a bioamrywiaeth
- Cyllid “tecach” i Gymru, gan ddadwneud toriadau i’r sector cyhoeddus
- Refferendwm ar unrhyw gytundeb Brexit
Brexit
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Gwrthwynebu Brexit ac ymgyrchu i aros yn yr UE
- Ymrwymo i ail refferendwm ac ymgyrchu i aros yn yr UE yn y bleidlais honno
- Os yw’r DU yn aros yn yr UE, ymgyrchu i newid y ffordd mae’r bloc yn gweithio er mwyn taclo newid hinsawdd yn fwy effeithiol, a darparu hawliau a chyfleoedd i bob dinesydd
GIG a gofal
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Gwrthwynebu preifateiddio’r GIG
- Rhoi mwy o bwyslais ar wasanaethau gofal cymunedol a chymdeithasol
- Mwy o gyllid ar gyfer gofal ataliol
- Mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl
Trosedd
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Diddymu’r Swyddfa Gartref, a chael Gweinyddiaeth Noddfa, yn gyfrifol am ymfudo, a Gweinyddiaeth Fewndirol, a fyddai’n goruchwylio diogelwch domestig
- Cyfyngu’r defnydd o stopio a chwilio
- Lleihau’r nifer o ddedfrydau carchar byr, a chael rhaglenni cyfiawnder adferol yn eu lle
- Gwneud casineb at fenywod yn drosedd casineb a chryfhau deddfwriaeth troseddau casineb
- Rhoi’r gorau i wahardd cyffuriau a chreu system o reoleiddio cyfreithiol
Addysg
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Gwasanaethau addysg gynnar a gofal plant cyffredinol am ddim
- Rhoi’r gorau i’r rhaglen o gau ysgolion, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig
- Ariannu dysgu gydol oes i bawb
Gwaith a budd-daliadau
Polisïau allweddol
- £86.2b y flwyddyn ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol, yn lle’r system dreth a budd-daliadau bresennol, wedi ei gyllido gan dreth carbon
- Cynyddu’r cyflog byw i £12 a’i ymestyn i gynnwys gweithwyr rhwng 16 a 21 oed hefyd
- Uno treth incwm, yswiriant cenedlaethol, treth ar enillion cyfalaf, treth etifeddiant a threth difidend i greu un treth incwm cyfansawdd
- Cael treth gwerth tir yn lle’r dreth gyngor ac ardrethi busnes
- Cwota 40% o fenywod ar fyrddau cwmnïau mawr
Economi
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- "Cytundeb gwyrdd newydd”, sy'n trawsnewid y ffordd mae'r economi'n gweithio
- Creu swyddi o ansawdd uchel a dod ag ecsbloetio yn y gweithle i ben
- Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb o ran cyflogau
- Cyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol
- Cyflwyno wythnos waith pedwar diwrnod yn raddol
Tai
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPrif bwyntiau'r ymgyrch
- Darparu tai cynaliadwy fforddiadwy i bawb, gan gynnwys 12,000 o gartrefi newydd y flwyddyn yng Nghymru
- Cyflwyno deddfwriaeth hawl i rentu
- Buddsoddi i sicrhau bod stoc tai Cymru yn effeithlon o ran ynni
Amgylchedd
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Cymru i arwain y ffordd wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd
- Codi uchelgais targedau lleihau allyriadau
- Cefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol
- Cefnogi seilwaith gwyrdd angenrheidiol, fel y cynllun Morlyn Llanw Abertawe arfaethedig
Mewnfudo
Mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli neu wedi'i ddatganoli'n rhannol.
Darganfod beth mae hyn yn ei olygu i chiPolisïau allweddol
- Darparu mynediad i gyngor cyfreithiol, gofal plant a lwfans cynhaliaeth i fudwyr, ac ailgyflwyno cymorth cyfreithiol
- Diddymu taliadau GIG ar gyfer mudwyr
- Diddymu rheolau isafswm incwm ar gyfer fisas
- Rhoi’r gorau i gadw ffoaduriaid a cheiswyr lloches am gyfnodau amhenodol
- Atal hediadau allgludo a chaniatau i ffoaduriaid weithio tra’n aros am benderfyniad
Trafnidiaeth
Prif bwyntiau'r ymgyrch
- Gwrthwynebu ehangu unrhyw feysydd awyr a chynlluniau i adeiladu ffyrdd sy’n niweidiol i’r amgylchedd
- Buddsoddi mewn atebion i drafnidiaeth gynaliadwy
- Creu trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy, effeithlon a fforddiadwy ledled Cymru
Democratiaeth
Polisïau allweddol
- Datganoli mwy o bwerau ar lefel leol
- Cynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer etholiadau ar bob lefel o lywodraeth
- Pleidleisio’n 16 oed ym mhob etholiad
- Cefnogi argymhellion adroddiad McAllister ar ddiwygio Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2019