Nia Griffith: 'Dylai Corbyn ymddiheuro am wrth-semitiaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae aelod blaenllaw o dîm Jeremy Corbyn wedi dweud y dylai ymddiheuro i'r gymuned Iddewig yn dilyn beirniadaeth gan brif rabi y DU am sut y mae'r Blaid Lafur wedi delio â honiadau o wrth-semitiaeth.
Dywedodd Nia Griffith, oedd yn llefarydd Llafur ar amddiffyn, bod y ffordd mae'r blaid wedi delio â'r mater yn "gywilydd arnom".
Yn siarad ar ddadl etholiad Wales Live, dywedodd Ms Griffith nad yw'r blaid "wedi bod mor effeithiol ac y dylen ni fod" wrth fynd i'r afael â honiadau o wrth-semitiaeth.
Yn gynharach ddydd Mawrth fe wnaeth Mr Corbyn wrthod ymddiheuro i'r gymuned Iddewig.
Fe wnaeth y Prif Rabi Ephraim Mirvis honni yn gynharach yr wythnos hon bod "gwenwyn newydd" o fewn y Blaid Lafur - sylw sydd wedi cael ei gefnogi gan grwpiau Iddewig yng Nghymru.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC ddydd Mawrth cafodd Mr Corbyn ei holi bedair gwaith a fyddai'n ymddiheuro i'r gymuned.
Dywedodd arweinydd Llafur y byddai llywodraeth Lafur yn amddiffyn "pob cymuned rhag y sarhad maen nhw'n ei wynebu".
'Angen ei gywiro'
Dywedodd Ms Griffith yn y ddadl nos Fawrth: "Mae Jeremy Corbyn wedi trefnu i gwrdd â'r prif rabi ac rwy'n credu'n bendant bod angen i ni ymddiheuro i'r rheiny o fewn y blaid sydd wedi eu heffeithio gan hyn, yn ogystal â'r holl gymuned Iddewig.
"Dydyn ni ddim wedi bod mor effeithiol ac y dylen ni fod wrth ddelio gyda'r broblem.
"Mae'n gywilydd arnom, ac mae'n rhywbeth mae gen i gywilydd mawr ohono a dylwn ni yn bendant ei gywiro."