AC Llafur yn beirniadu ymgyrch etholiadol ei blaid
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidydd Llafur Cymraeg blaenllaw wedi beirniadu ymgyrch etholiadol ei blaid ac wedi dweud bod perfformiad aelod o gabinet Llafur mewn dadl deledu yn "gwbl ddiwerth".
Mewn neges drydar, dywedodd Alun Davies, a arferai fod yn Weinidog yn Llywodraeth Cymru, bod angen i'r Blaid Lafur ar lefel Gymreig a Phrydeinig ddysgu sut mae cynnal "ymgyrch wleidyddol".
Dywedodd AC Blaenau Gwent hefyd bod perfformiad llefarydd cyfiawnder Llafur, Richard Burgon, yn ystod dadl etholiadol ITV nos Sul yn "destun cywilydd".
Mae Llafur Cymru a Llafur y DU wedi cael cais i ymateb.
Roedd dadl ITV yn cynnwys cynrychiolwyr o saith plaid sy'n sefyll yn yr etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr: Ceidwadwyr, Llafur, Democratiaid Rhyddfrydol, SNP, Plaid Cymru, y Blaid Werdd a Phlaid Brexit.
Roedd Mr Burgon yn siarad ar ran Llafur ac fe wnaeth Mr Davies ysgrifennu yn Saesneg ar ei gyfrif twitter bod "Burgon yn gwbl ddiwerth. Allan o'i ddyfnder. Mae'r bobl yma yn caniatáu ac yn galluogi ailethol Llywodraeth Geidwadol".
'Drakeford ddim yn cyflwyno ei hun'
Wrth ymateb i neges drydar arall a oedd yn gofyn pam nad oedd enw'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn cael ei roi ger bron gan Lafur ar gyfer y ddadl ysgrifennodd Mr Davies: "Yr hyn sy'n fwy o sioc yw nad yw e (Mr Drakeford) yn cyflwyno ei hun fel arweinydd Cymreig mewn trafodaethau Cymreig. Does gen i ddim syniad beth sy'n digwydd yn yr ymgyrch yma."
Mae BBC Cymru wedi cysylltu â Mr Davies ond doedd e ddim am wneud sylwadau pellach ar ei negeseuon trydar.
Dywedodd ffynhonnell o Llafur Cymru y byddai Mr Drakeford yn rhan o ddadl rhwng arweinwyr pleidiau Cymru i'r BBC ac i Sky, ac yn gwneud cyfweliadau.
Ond ychwanegodd fod darlledwyr, mewn achosion eraill, wedi gofyn am ymgeiswyr yn yr etholiad cyffredinol.
Yn y cyfamser mae aelod blaenllaw arall o'r Blaid Lafur wedi tynnu'n ôl galwad a wnaeth yn ystod dadl deledu y BBC yng Nghaerdydd.
Nos Wener dywedodd Rebecca Long-Bailey, sydd fel arfer yn siarad ar ran y Blaid Lafur ar faterion busnes, "bod angen ymchwiliad llawn" i'r hyn yr oedd hi'n galw yn broblemau "ofnadwy" ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Ond mewn datganiad nos Sul nododd Llafur Cymru bod Ms Long-Bailey wedi dweud bod adolygiad bellach ar y gweill a bod Llafur Cymru wedi addo atebion.
Cafodd gwasnaethau Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg eu rhoi o dan fesurau arbennig wedi adolygiad annibynnol.
Yn nadl y BBC nos Wener cafodd Ms Long-Bailey ei herio am record iechyd Llywodraeth Lafur Cymru a dywedodd: "Dwi i ddim yn gwybod dim am yr achos y cyfeiriwch ato, ond mae fy mhrofiad cyfreithiol yn dweud y dylid cael ymchwiliad llawn i'r digwyddiad sy'n swnio'n ofnadwy."
'Diogelwch cleifion yn hanfodol'
Ond dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, bod Ms Long-Bailey eisoes wedi ymyrryd ac nad oedd "sail dros gael proses arall".
Dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd eu bod yn ymwybodol bod y cyhoedd a staff y GIG angen mwy o sicrwydd ac y byddent yn "cadw llygad agos ar yr hyn sy'n digwydd er mwyn sicrhau cyflymder a chywirdeb."
Mewn datganiad nos Sul dywedodd Ms Long-Bailey: "Fel a nodais wrth ateb y cwestiwn, doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r amgylchiadau na'r hyn roedd y Gweinidog Iechyd wedi'i wneud i sefydlu adolygiad annibynnol llawn a chyflawn.
"Mae diogelwch cleifion yn hanfodol yn ogystal ag ymchwiliad cyfreithiol a thryloyw. Mae'r rhai a effeithiwyd a'u teuluoedd yn haeddu atebion.
"Rwy'n deall bod adolygiad ar y gweill ac mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cadarnhau y bydd menywod a'u teuluoedd yn cael yr atebion y maent eu hangen a bydd eu profiadau yn sicrhau newid ar draws y gwasanaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019