Iaith Johnson wedi ymosodiad yn hollti barn ymgeiswyr
- Cyhoeddwyd
Mae un o gynrychiolwyr y Ceidwadwyr Cymreig wedi anghytuno â chyd-ymgeisydd Ceidwadol wnaeth feirniadu iaith y Prif Weinidog, Boris Johnson, yn dilyn yr ymosodiad terfysgol ar London Bridge ddydd Gwener ddiwethaf.
Yn ystod dadl deledu Wales Live BBC Cymru nos Lun, awgrymodd Fay Jones na ddylai Mr Johnson fod wedi trafod yr ymosodiad mewn modd gwleidyddol.
Ond wrth gynrychioli'r blaid ar y Post Cyntaf ddydd Mawrth, dywedodd Havard Hughes bod Mr Jones "wedi gwneud y peth iawn".
Dywedodd hefyd mai "dim ond pleidlais i'r Ceidwadwyr yng Nghymru sy'n gallu sicrhau Brexit, a sicrhau Brexit da".
Mae Mr Johnson yn gwadu cyhuddiadau ei fod wedi ceisio manteisio'n wleidyddol ar yr ymosodiad yn Llundain wedi iddi ddod i'r amlwg bod yr ymosodwr, Usman Khan, wedi cael ei ryddhau o'r carchar yn gynnar dan drefn a ddaeth i rym dan lywodraeth Lafur.
'Taflu'r allwedd'
Dywedodd Ms Jones nos Lun: "Dydw i ddim yn meddwl y dylai'r prif weinidog nag unrhyw un arall ddefnyddio hyn fel ymarferiad gwleidyddol."
Pan ofynnwyd iddi a oedd Mr Johnson ar gam, atebodd: "Oedd, mi roedd e."
Ond dywedodd Mr Hughes ddydd Mawrth ei fod "ddim yn cytuno" gyda'r awgrym, cyn ychwanegu: "Terfysgwyr fel hwn… y carchar yw'r lle cywir iddyn nhw a mae'n rhaid taflu'r allwedd yn fy marn i a mae Johnson… wedi gwneud y peth iawn."
Dywedodd hefyd mai dim ond y Ceidwadwyr allai sicrhau cytundeb Brexit, ac y byddai bywyd bob dydd yn well i bobl Cymru ar ôl gadael yr UE.
"[Fyddan] ni ddim yn talu arian i Frwsel, a ni ddim yn cael rheolau Brwsel yn dweud i ni beth y'n ni'n gallu 'neud gyda'n pysgod, gyda'n hanifeiliaid," meddai.
Mae'n dweud bod y Ceidwadwyr yn barod i wario nawr am fod sefyllfa ariannol y wlad yn iachach o ganlyniad i bolisi llymder y 10 mlynedd diwethaf.
A mynnodd bod hi'n "realistig" i wneud addewid i benodi 20,000 o blismyn ychwanegol a 50,000 yn fwy o nyrsys i'r gwasanaeth iechyd ar draws y DU.
Dywedodd y bydd pobl yn dal i ddod i'r DU i weithio ar ôl Brexit, a bod "llawer o bobl yng Nghymru eisiau gweithio yn y GIG, a beth yw'r broblem cael nhw yn 'neud e?".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2019