Addewidion "uchelgeisiol" i Gymru yn maniffesto y Ceidwadwyr

  • Cyhoeddwyd
Boris Johnson maniffestoFfynhonnell y llun, DANIEL LEAL-OLIVAS
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyhoeddodd Boris Johnson maniffesto'r blaid Geidwadol yn Telford brynhawn ddydd Sul

Bydd Cymru'n elwa oddi wrth "fuddsoddiadau sylweddol" mewn is-adeiledd a diwydiant, meddai'r Ceidwadwyr, wrth i'r blaid lansio ei maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Mae'r Torïaid yn dweud y bydd Cymru'n cael "cytundeb teg" a'i fod yn "uchelgeisiol" ar gyfer economi Cymru

Mae'r maniffesto hefyd yn addo y byddai llywodraeth Geidwadol ym Mae Caerdydd yn adeiladu ffordd osgoi'r M4.

Byddai'r blaid hefyd yn sicrhau bod Brexit yn digwydd, meddai.

Mae'r blaid hefyd wedi ailadrodd ei haddewid i adeiladu gorsaf drenau yn Felindre, i'r gogledd o Abertawe.

Ffynhonnell y llun, DANIEL LEAL-OLIVAS

"Ry'n ni'n uchelgeisiol ar gyfer economi Cymru a'r undeb," meddai'r maniffesto. "Byddwn yn sicrhau bod Cymru'n cael cytundeb teg, gyda buddsoddiadau sylweddol mewn isadeiledd a diwydiant fydd yn sicrhau cyfleoedd go iawn ar draws y wlad."

Fe benderfynodd y Prif Weinidog Mark Drakeford beidio bwrw ymlaen gyda chynllun ffordd osgoi'r M4 ym mis Mehefin oherwydd ei gost a'i effaith ar yr amgylchedd.

Mae penderfyniadau ar ffyrdd yng Nghymru yn cael eu gwneud gan lywodraeth Lafur ym mae Caerdydd.

Ond yn ôl y ddogfen byddai llywodraeth Geidwadol ym Mae Caerdydd yn gwrthdroi'r penderfyniad hwnnw, gan adeiladu'r draffordd 14 milltir o hyd o gwmpas Casnewydd.

Byddai'r blaid hefyd yn "ystyried yn fanwl" argymhellion adroddiad i adrannau llywodraeth y DU, sy'n cael ei gadeirio gan gyn weinidog yn Swyddfa'r Alban, yr Arglwydd Dunlop.

Yn eu maniffesto mae'r balid hefyd yn dweud: "Mae'r Ceidwadwyr yn falch o'r iaith Gymraeg a diwylliant.

"Fe fyddwn ni'n cefnogi sefydliadau megis S4C, y Llyfrgell a'r Amgueddfa Genedlaethol, yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Fe fyddwn ni'n cefnogi'r uchelgais i gael miliwn o bobl yng Nghymru yn siarad Cymraeg erbyn 2050."

Mae'r targed hwnnw, o filiwn o siaradwyr Cymraeg, wedi cael ei osod gan Lywodraeth Cymru.

Diwedd y gân yw'r geiniog

Yn ôl 'dogfen gostau' y Ceidwadwyr, a oedd wedi ei chyhoeddi ochr yn ochr â'r maniffesto, fe fyddai eu cynlluniau'n golygu £551m yn ychwanegol i Gymru dros y pedair blynedd nesaf i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus.

Eleni fe wnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn cyllideb o £14.4bn gan y Trysorlys.

Fe fyddai cynlluniau'r Ceidwadwyr hefyd yn golygu bod cyllideb cyfalaf yn cynyddu £1.25bn erbyn 2023/24.

Ffynhonnell y llun, DANIEL LEAL-OLIVAS
Disgrifiad o’r llun,

Mae addewidion am wella ffyrdd yn maniffesto'r blaid Geidwadol ar gyfer yr etholiad

Mae'r maniffesto yn ailadrodd addewid y gwnaeth Boris Johnson yn ystod ei ymgyrch i arwain y Blaid Geidwadol y byddai llywodraeth Prydain yn rhoi arian i Gymru sy'n cyfateb a'r hyn maen nhw'n ei dderbyn o gyllidebau yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth siarad mewn hystings ym mis Gorffennaf dywedodd Mr Johnson na fyddai Cymru ar ei cholled oherwydd Brexit am fod y Ceidwadwyr yn bwriadu sefydlu cronfa i rannu arian adeileddol a fyddai wedi dod o'r Undeb.

Erbyn 2020 fe fyddai Cymru wedi derbyn cyfanswm o dros £5bn o arian adeileddol gan yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth ymateb i faniffesto'r blaid Geidwadol dywedodd Plaid Cymru: "Heb amheuaeth mae Cymru'n ôl-ystyriaeth yn y maniffesto hwn, gyda dim ond llond llaw o gyfeiriadau ati yn y ddogfen."

"Nid yw Boris Johnson yn hidio'r dim am beth sydd ei angen ar ein gwlad ni.

"Mae e am geisio gorfodi Brexit er y byddai hynny'n drychinebus i Gymru, gan roi miloedd o swyddi yn ein diwydiannau amaethyddol a manwerthu yn y fantol, a drwy roi ffin galed ym Môr Iwerddon."