Cyhuddo Chris Bryant o wneud sylw 'sarhaus' am y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi cyhuddo aelod blaenllaw o'r Blaid Lafur o wneud sylw "sarhaus" am y Gymraeg.
Mewn fideo ar Facebook, mae Chris Bryant yn dweud fod gan ymgeisydd etholiad cyffredinol Plaid Cymru yn y Rhondda, Branwen Cennard, "obsesiwn gyda'r iaith".
Dywedodd Mr Bryant - ymgeisydd Llafur yn y Rhondda - ei fod wedi dileu'r fideo am nad oedd yn hoffi'r "tôn".
Mae'r Blaid Lafur wedi cael cais am sylw.
Yn y fideo, dywed Mr Bryant: "Yma yn y Rhondda wrth gwrs mae'r [etholiad] yn eithaf penodol am bwy rydym ni eisiau fel AS y Rhondda.
"Pwy fydd ganddo ni'r hyder ynddyn nhw i sefyll fyny yn y siambr yn Nhŷ'r Cyffredin a gwneud y ddadl dros y Rhondda.
"Yw e'n mynd i fod yn ymgeisydd Plaid sydd ag obsesiwn gyda'r iaith ac annibyniaeth dros Gymru?"
Mewn ymateb, dywedodd Aelod Cynulliad y Rhondda, Leanne Wood ar Twitter: "O'n i'n meddwl ein bod ni wedi rhoi'r sylwadau sarhaus yma am yr iaith Gymraeg yn yr 1980au."
Ychwanegodd: "Mae'n ymddangos bod y fideo wedi'i ddileu. Yw hyn yn golygu ei fod yn derbyn fod ei sylwadau yn annerbyniol.
"A wnaiff arweinydd Llafur Cymru [Mark Drakeford] nawr ofyn iddo i ymddiheuro?"
'Pam cychwyn nawr?'
Dywedodd Mr Bryant wrth BBC Cymru: "Meddyliais i fy hun neithiwr [ar ôl rhoi'r fideo ar Facebook], dwi ddim yn hoffi'r tôn o ymosod ar ymgeiswyr eraill.
"Dwi heb ei wneud e o'r blaen felly pam fydden i'n cychwyn nawr? Felly fe gymrais e i lawr."
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn difaru gwneud y sylwadau am yr iaith, dywedodd Mr Bryant nad oedd ganddo unrhyw beth i'w ychwanegu.
Yr ymgeiswyr eraill sy'n sefyll yn y Rhondda ydy Rodney Berman i'r Democratiaid Rhyddfrydol, Hannah Jarvis i'r Ceidwadwyr, Shaun Thomas i'r Gwyrddion a John Watkins i Blaid Brexit.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2019