Wigley: Awgrym dylid cynnal ail bleidlais wedi'r refferendwm

  • Cyhoeddwyd
UKIP
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ddadl dros gynnal ail bleidlais maes o law, meddai'r Arglwydd Dafydd Wigley.

Mae'r Arglwydd Dafydd Wigley, oedd yn ymgyrchu dros aros yn rhan o'r undeb, yn awgrymu y dylid cynnal ail bleidlais wedi i fanylion y trafodaethau rhwng gwleidyddion i dorri'n rhydd o Ewrop gael eu cyhoeddi.

Yn ôl yr Arglwydd Wigley, doedd pobl ddim yn gwybod am beth roedden nhw'n bleidleisio: "Roedd pobl yn pleidleisio yn erbyn pethau, gwahanol bobl yn pleidleisio am wahanol resymau.

"Ond roedd pobl yn aneglur beth roedden nhw'n bleidleisio drosto - beth oedd y dewis amgen.

"Bellach ry ni'n gweld fod problemau enfawr yn codi a dwi'n credu tasai pobl yn sylweddol yr anhawster masnachol - Moody's yn dibrisio gwerth Prydain fel lle diogel ar gyfer arian - mi fyddai pobl efallai wedi pleidleisio'n wahanol."

'Ydych chi'n fodlon?'

Parhau mae'r dadansoddi ar ganlyniad y refferendwm ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd wedi i'r rhan fwyaf o bleidleiswyr Cymru a Lloegr gefnogi'r ymgyrch i adael.

Ar raglen BBC Radio Cymru, y Post Cyntaf, awgrymodd y dylid cynnal ail bleidlais: "Be dwi'n teimlo ydy, bod angen, - unwaith mae'r trafodaethau wedi mynd ymlaen, ac fe ddylai Llywodraeth Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon fod yn rhan o'r trafod ar ran Prydain - unwaith da ni'n gweld beth yw'r dewis sy'n ein wynebu ni, mae'n bosib y dylsid gofyn eto i'r bobl, 'Ydych chi'n fodlon ar hyn?'"

"Ai drwy etholiad cyffredinol, ac yn sicr mi ddylai fod yna etholiad os oes yna newid Prif Weinidog, neu hyd yn oed drwy bleidlais eto a ydyn nhw'n cadarnhau y newidiadau sydd am ddod allan o hyn."

Disgrifiad,

Beth nesaf i Brydain?

Disgrifiad o’r llun,

Mae David Davies yn dweud y gallai Cymrugael mwy o arian ar ôl gadael yr UE

Mae'r AS Ceidwadol David Davies wedi dweud y gallai'r penderfyniad i adael olygu mwy o arian i Gymru.

Dywedodd AS Mynwy y dylai arian rhanbarthol ac arian sy'n mynd i amaethwyr barhau, gan ddweud y byddai £9bn ychwanegol ar gael bob blwyddyn.

"Rydyn ni'n talu £19bn y flwyddyn i mewn i'r UE, ac rydyn ni'n cael £10bn yn ôl ar hyn o bryd," meddai.

"Yn gyntaf rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod yr arian sy'n mynd i mewn i gronfeydd strwythurol a'r CAP [polisi amaethyddol cyffredinol] yn parhau.

"Yna rydyn ni'n edrych ar yr £8.5-£9bn sydd ar ôl a sicrhau fod popeth sy'n cael ei wario ym Mhrydain yn mynd drwy fformiwla Barnett fel bod Cymru yn cael 5%."

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i wleidyddion gydweithio a chymodi, medd arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, bod angen i wleidyddion yng Nghymru gydweithio a chymodi nawr, wedi'r rhwyg gafodd ei achosi gan y refferendwm.

Dywedodd fod "y genedl, Cymru a'r Deyrnas Unedig" yn teimlo'n rhanedig.

Ychwanegodd ei bod yn bwysig fod Llywodraeth Prydain yn amlinellu "gweledigaeth glir" ar Brexit, a chanmolodd David Cameron am wneud y "penderfyniad anrhydeddus" i ymddiswyddo.

Fe ddylai'r Prif Weinidog nesaf, meddai, fod yn gefnogwr Brexit, gan ychwanegu ei fod yn meddwl y byddai Michael Gove yn ymgeisydd da gan y byddai'n gallai "uno'r Blaid Geidwadol a'r cefnogwyr Brexit sydd ddim yn Geidwadwyr".

Yn y cyfamser mae cefnogwyr yr arweinydd Llafur Jeremy Corbyn wedi dweud nad oes ganddo unrhyw fwriad i ymddiswyddo.

Mae dau aelod seneddol Llafur wedi gwneud cais i gael pleidlais o ddiffyg hyder oherwydd yr hyn maen nhw ei alw yn ei ddiffyg ymdrech yn ystod y refferendwm.

Un o'r rhai sydd wedi cefnogi'r alwad yw AS Aberafan, Stephen Kinnock.

Ond dywedodd AS Gorllewin Casnewydd Paul Flynn: "Does dim pwynt dechrau ymladd ein gilydd, mae'n rhaid i ni ddechrau amddiffyn ein pobl ein cymunedau."

"Mae grwpiau o fewn y blaid wedi bod yn dweud hyn am Jeremy ers iddo gael ei ethol, mae angen iddyn nhw gau eu cegau a dechau amddiffyn y bobl sydd wedi eu hethol."