Glowyr: Agor a gohirio cwest
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaethau pedwar o lowyr, oedd yn gaeth ym mhwll glo'r Gleision yng Nghwm Tawe, wedi ei agor a'i ohirio.
Bu farw Charles Breslin, Phillip Hill, Garry Jenkins a David Powell yn y pwll ar Fedi 15.
Roedd y cwest yn Abertawe.
Cadarnhaodd Swyddog y Crwner, Sarah McAvoy, ganfyddiadau cychwynnol archwiliadau post mortem, bod y dynion wedi marw o ganlyniad i ddŵr yn llifo i mewn i'r pwll yng Nghilybebyll ger Pontardawe ac wedi iddyn nhw ddod i gysylltiad â gwastraff dŵr.
Fe gyhoeddodd y crwner, Phillip Rogers, dystysgrifau marwolaethau dros dro.
"Dwi'n siwr ein bod ni i gyd yn ymwybodol o'r amgylchiadau trist a'r effeithiau ar y teuluoedd a'r gymuned ehangach," meddai.
Yn y cyfamser mae manylion angladdau tri o'r glowyr wedi cael eu cyhoeddi.
Fe fydd yr angladdau ddydd Mercher, ddydd Gwener a dydd Sadwrn ar gyfer Mr Breslin, Mr Hill a Mr Jenkins.
Does 'na ddim manylion eto am angladd Mr Powell.
Gwastraff dŵr
Fe gafodd archwiliad post mortem ei gynnal ar y pedwar yr wythnos ddiwethaf.
Llwyddodd tri o ddynion eraill i ddianc o'r pwll.
Am 9.15am ddydd Iau, Medi 15,fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r pwll.
Roedd 'na ymgyrch achub enfawr cyn i gyrff y pedwar gael eu canfod y diwrnod canlynol.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn parhau i gydweithio gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wrth ymchwilio i'r digwyddiad.
Ychwanegodd y gallai'r ymholiadau barhau am hyd at dri mis.
Mae cronfa wedi ei lansio i gefnogi teuluoedd y pedwar glöwr a fu farw ac mae eisoes wedi cyrraedd dros £200,000.
Roedd staff Y Post Brenhinol mewn 124 o swyddfeydd yng Nghymru yn cynnal munud o dawelwch am 8am ddydd Mawrth.
Fe fydd 'na gasgliad ym mhob cangen tuag at y gronfa apêl.