Carwyn Jones yn cyhoeddi rhaglen 'heriol'

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi rhaglen lywodraethu am y pum mlynedd nesaf, sy'n amlinellu sut y bydd y llywodraeth Lafur yn gweithredu ar eu maniffesto.

Yn ôl Carwyn Jones, mae'r rhaglen yn "heriol" ac yn un fydd yn gwneud y llywodraeth "yn fwy tryloyw".

Mae'r gwrthbleidiau wedi cyhuddo'r llywodraeth o gymryd eu hamser cyn gwneud eu safbwyntiau'n glir.

Mae'r rhaglen yn amlinellu pa gamau y bydd gweinidogion yn eu cymryd a sut y bydd modd mesur cynnydd.

Fe fydd y rhaglen yn cael ei diweddaru bob blwyddyn ac adroddiad yn cael ei gyhoeddi am yr hyn sydd wedi'i gyflawni.

Ymhlith y blaenoriaethau sy'n cael eu rhestru, mae rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc gael prentisiaeth a chyflwyno profion iechyd i bobl dros 50 oed.

Ymhlith ymrwymiadau allweddol y llywodraeth mae:

  • Sefydlu cronfa swyddi newydd;

  • Gwella'r mynediad at wasanaethau meddyg teulu;

  • Cynyddu gwariant rheng flaen mewn ysgolion;

  • Dyblu nifer y plant sy'n elwa ar raglen 'Dechrau'n Deg';

  • Dechrau rhyddhau mwy o dir cyhoeddus ar gyfer tai fforddiadwy;

  • Cynyddu nifer y rhoddwyr organau yng Nghymru;

  • Pwyso am adolygiad annibynnol o S4C;

  • Cyhoeddi Strategaeth Iaith Gymraeg bum mlynedd.

Yn y Senedd dywedodd Mr Jones: "Mae'r rhaglen hon yn un uchelgeisiol i Gymru.

"Mae'n troi'r maniffesto yn gynllun gweithredol ac mae fy llywodraeth yn benderfynol o gyflawni hyn yn llawn.

"Rydyn ni angen egni ac ymrwymiad pawb yn y wlad - yn y sector gyhoeddus, y trydydd sector a'r gymuned fusnes.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd yr Aelodau beth oedd cynnwys y rhaglen

Os gwnawn ni i gyd dynnu gyda'n gilydd fe wnawn ni gyrraedd y nod yn gynt."

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew R T Davies, fod 'na agweddau ar y rhaglen yn achosi pryder.

Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, doedd rhaglen y llywodraeth "ddim yn cydnabod yr argyfwng yn yr economi".

"Mae swyddi a busnesau'n cael eu colli bob wythnos yng Nghymru, ond mae'r llywodraeth i'w gweld yn gwbl ddiymadferth, heb unrhyw syniad am sut i helpu ..."

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams: "Yr hyn yr ydyn wedi'i gael yw rhaglen amwys a di-uchelgais heb dargedau penodol o ran cyflawni polisïau ym maes yr economi, iechyd ac ysgolion."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol