Cynghorau: £57m ar ddiswyddiadau

  • Cyhoeddwyd
arianFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Gwariwyd yr arian ar ddiswyddo 3,630 o unigolion

Mae awdurdodau lleol Cymru wedi gwario cyfanswm o £57.4 miliwn ar ddiswyddiadau dros y tair blynedd diwethaf, yn ôl BBC Newyddion Ar-lein.

Gwariwyd yr arian ar ddiswyddo 3,630 o unigolion.

Y cynghorau a wariodd fwyaf ar ddiswyddiadau dros y tair blynedd oedd Caerdydd (£15.1m), Casnewydd (£6.5m) ac Abertawe (£3.2 m).

Y taliad uchaf i unigolyn oedd £173,088.24 gan Gyngor Powys.

Mae'n gyfnod "eithriadol o anodd i gynghorau," yn ôl y gymdeithas sy'n eu cynrychioli.

Daeth y wybodaeth wedi cais Newyddion Ar-lein o dan Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

'Polisi cadarn'

Yr unig gyngor sydd heb wario yr un geiniog ar ddiswyddiadau yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae gan y cyngor bolisi cadarn ar waith ar gyfer rheoli swyddi gwag ac adleoli, ac mae'r strategaeth hon wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn.

"Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r polisi hwn fel ymateb effeithiol i'r hinsawdd ariannol anodd sy'n wynebu llywodraeth leol.

"Bydd hyn yn lleihau'r tebygolrwydd o ddiswyddiadau er na allwn warantu na fydd hyn yn gorfod digwydd yn y dyfodol wrth i ffynonellau cyllid grant yn benodol cael eu lleihau."

'Eithriadol o anodd'

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae'n gyfnod eithriadol o anodd i gynghorau.

"Dangosodd Cyllideb Ddrafft Cymru doriadau mewn termau real yng nghyllid refeniw llywodraeth leol ar gyfer 2012-13 ac mae hyn yng nghyd-destun galw cynyddol am wasanaethau o ansawdd uchel.

"Wrth wynebu'r pwysau hyn, mae cynghorau yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu swyddi pobl, trwy geisio dileu swyddi yn wirfoddol a rhewi recriwtio yn rhannol neu'n gyfan gwbl.

"Er y bydd toriadau digynsail i'w cyllidebau yn gorfodi cynghorau i wneud penderfyniadau anodd, mae diogelu gwasanaethau rheng flaen allweddol yn flaenoriaeth i bob cyngor.

"Mae pob cyngor yng Nghymru'n gweithio'n eithriadol o galed drwy gydweithredu ac ailwampio gwasanaethau er mwyn lleihau effaith y gostyngiad yn lefelau cyflogaeth ar wasanaethau hanfodol y mae'r bobl yn eu cymunedau yn dibynnu arnyn nhw."

'Lleihau'r angen am ddiswyddiadau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi bod yn cydweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a TUC Cymru i leihau diswyddiadau mewn awdurdodau lleol, yn enwedig wrth lunio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.

"Un o brif amcanion polisi Llywodraeth Cymru o gynyddu cydweithio rhwng awdurdodau lleol yw creu arbedion o gaffael mwy effeithiol a chyflawni gwasanaethau yn fwy effeithiol.

"Dylai hyn gyfrannu at leihau'r angen am ddiswyddiadau".

Abertawe

1. Y cyfanswm a wariwyd ar daliadau colli swydd yn y 3 blynedd diwethaf yw £3,202,755.70. Yn ôl y cyngor, "mewn achosion o'r fath, bydd y swyddi wedi'u dileu a chostau'r swyddi'n cael eu harbed. Mae'r arbedion blynyddol a pharhaus yn sylweddol uwch na'r costau y cyfeiriwyd atynt uchod".

2. Cyfanswm yr unigolion yr effeithiwyd arnyn nhw dros y tair blynedd ddiwethaf yw 251 aelod o staff.

3. Y swm colli swydd mwyaf a dalwyd i unigolyn dros y tair blynedd ddiwethaf oedd £60,483.

Nid yw'r data a ddelir yn gwahaniaethu rhwng y taliadau colli swydd gwirfoddol a gorfodol. Mae'r ffigurau yn cynnwys staff dysgu.

Blaenau Gwent

Cyfanswm y taliadau diswyddo rhwng 2008-09 a 2010-11 oedd £2,363,677.

Cafodd 157 o unigolion eu diswyddo.

Y taliad mwyaf i unigolyn oedd £55,425.

Bro Morgannwg

Yn 2008-09 roedd pump o ddiswyddiadau ar gost o £87,963.72.

Yn 2009-10 roedd 17 o ddiswyddiadau ar gost o £274,739.64.

Yn 2010-11 cafwyd 15 o ddiswyddiadau hyd yma, ar gost o £100,741.02.

£30,000 yw'r swm mwyaf a delir o dan gynllun y cyngor. Talwyd hynny yn saith o'r achosion hyn.

Caerdydd

Yn 2008-09 roedd 119 o ddiswyddiadau gwirfoddol. Cyfanswm y taliadau oedd £1,212,673 a'r taliad mwyaf oedd £32,327.

Yn 2008-09 roedd pedwar o ddiswyddiadau gorfodol. Cyfanswm y taliadau oedd £34,669 a'r taliad mwyaf oedd £18,080.

Yn 2009-10 roedd 311 o ddiswyddiadau gwirfoddol. Cyfanswm y taliadau oedd £6,793,531 a'r taliad mwyaf oedd £32,868.

Yn 2009-10 roedd chwech o ddiswyddiadau gorfodol. Cyfanswm y taliadau oedd £53,925 a'r taliad mwyaf oedd £27,199.

Yn 2010-11 roedd 294 o ddiswyddiadau gwirfoddol. Cyfanswm y taliadau oedd £6,976,473 a'r taliad mwyaf oedd £60,787.

Yn 2010-11 roedd 6 o ddiswyddiadau gorfodol. Cyfanswm y taliadau oedd £90,138 a'r taliad mwyaf oedd £32,868.

Caerffili

Ni fu unrhyw ddiswyddiadau rhwng 2008-09 a 2010-11.

Sir Gaerfyrddin

2008-09

Cyfanswm taliadau - £256,642.23

Nifer o unigolion - 64

Y taliad uchaf - £37,783.28

2009-10

Cyfanswm taliadau - £139,662.86

Nifer o unigolion - 34

Y taliad uchaf - £17,239.08

2010-11

Cyfanswm taliadau - £821,978.55

Nifer o unigolion - 111

Y taliad uchaf - £38,230.67

Ni fu unrhyw achosion o ddiswyddo gwirfoddol yn ystod y blynyddoedd uchod.

Casnewydd

Yn 2008-09 talwyd £517,801.92 ar 33 o ddiswyddiadau gorfodol, a £193,984.08 ar 18 o ddiswyddiadau gwirfoddol. Cyfanswm y taliadau oedd £711,786.00.

Yn 2009-10 talwyd £354,399.43 ar 27 o ddiswyddiadau gorfodol, a £143,478.26 ar 9 o ddiswyddiadau gwirfoddol. Cyfanswm y taliadau oedd £497,877.69.

Yn 2010-11 talwyd £740,747.87 ar 27 o ddiswyddiadau gorfodol, a £3,855,053.11 ar 149 o ddiswyddiadau gwirfoddol. Cyfanswm y taliadau oedd 4,595,800.98.

Hyd yn hyn ym mlwyddyn ariannol 2011-12 talwyd £117,351.22 ar 23 o ddiswyddiadau gorfodol, a £534,116.91 ar 18 o ddiswyddiadau gwirfoddol. Cyfanswm y taliadau oedd £651,468.13.

Gwerth y taliad unigol mwyaf oedd £109,182.57.

Castell-nedd Port Talbot

Yn 2010-11 talwyd £253,365.51 ar 28 o ddiswyddiadau.

Yn 2009-10 talwyd £760,583.18 ar 44 o ddiswyddiadau.

Yn 2008-09 talwyd £402,988.75 ar 34 o ddiswyddiadau.

Gwerth y taliad unigol mwyaf oedd £56,723.

Yn ôl y cyngor: "Nid yw'n hawdd nodi o'r cofnodion a gafodd y swyddi eu colli'n wirfoddol neu'n orfodol ac, yn ôl amcangyfrif rhesymol yr awdurdod, byddai'n cymryd llawer mwy na 18 awr o amser un neu fwy o swyddogion i ymchwilio, dadansoddi a dod o hyd i'r wybodaeth y gofynnwyd amdani".

Ceredigion

Yn 2008-09, gwariwyd £189,599.39 ar 25 o ddiswyddiadau gorfodol, £319,502.82 ar 20 o ddiswyddiadau gwirfoddol, sef cyfanswm o £509,102.21. Y taliad mwyaf i unigolyn oedd £50,419.13.

Yn 2009-10, gwariwyd £249,135.23 ar 44 o ddiswyddiadau gorfodol, £172,942.26 ar 9 o ddiswyddiadau gwirfoddol, sef cyfanswm o £422,077.49. Y taliad mwyaf i unigolyn oedd £32,073.90.

Yn 2010-11, gwariwyd £141,993.71 ar 55 o ddiswyddiadau gorfodol, £132,305.05 ar 13 o ddiswyddiadau gwirfoddol, sef cyfanswm o £274,298.76. Y taliad mwyaf i unigolyn oedd £37,894.53.

Conwy

Yn 2008-09 talwyd £422,731.85 ar 22 o ddiswyddiadau. Gwerth y taliad unigol mwyaf oedd £75,112.69.

Yn 2009-10 talwyd £116,970.32 ar 30 o ddiswyddiadau. Gwerth y taliad unigol mwyaf oedd £ 30,312.82

Yn 2010-11 talwyd £209,718.08 ar 34 o ddiswyddiadau. Gwerth y taliad unigol mwyaf oedd £24,690.87.

Sir Ddinbych

Yn 2010-11 talwyd £805,510 ar 52 o ddiswyddiadau.

Yn 2009-10 talwyd £1,129,894 ar 63 o ddiswyddiadau.

Yn 2008-09 talwyd £486,655 ar 47 o ddiswyddiadau.

Y taliad diswyddiad uchaf yn y tair blynedd ddiwethaf yw £56,194.

Sir y Fflint

Yn 2010-11 talwyd £764,813.60 ar 55 o ddiswyddiadau. Y taliad mwyaf i unigolyn oedd £43,747.95

Yn 2009-10 talwyd £446,009.82 ar 58 o ddiswyddiadau. Y taliad mwyaf i unigolyn oedd £47,082.00

Yn 2008-09 talwyd £243,042.15 ar 13 o ddiswyddiadau. Y taliad mwyaf i unigolyn oedd £40,533.75

Gwynedd

Cyfanswm y taliadau diswyddo rhwng 01/07/08 - 31/03/11 oedd £1,576,596

Nifer o unigolion a dderbyniodd tâl diswyddo yn ystod yr un cyfnod oedd 101

Yr un taliad mwyaf yn ystod yr un cyfnod oedd £105,499

Dywedodd y cyngor na wahaniaethir rhwng diswyddiadau gwirfoddol/gorfodol, felly mae'r ffigyrau uchod yn cyfeirio at daliadau diswyddo. Yn ogystal, mae'r ffigyrau uchod yn cynnwys diswyddiadau yn ysgolion y sir yn ogystal â gweddill sefydliadau'r Cyngor.

Merthyr Tydfil

Costau Diswyddo/Ymddeol yn Gynnar

Yn 2008-09 cafodd 20 o bobl ymddeoliad cynnar gwirfoddol, ar gost o £54,690.00. Nid oedd unrhyw ddiswyddiad gwirfoddol na gorfodol.

Yn 2009-10 cafodd 27 o bobl ymddeoliad cynnar gwirfoddol, ar gost o £72,640.00.

Yn 2010-11 cafodd naw o bobl ddiswyddiad gorfodol ar gost o £22,160.00. Cafodd 61 o bobl ymddeoliad cynnar gwirfoddol ar gost o £437,990.00.

Hyd yma yn 2011-12, cafwyd un diswyddiad gwirfoddol ar gost o £5,320.00. Mae 44 o bobl wedi cael ymddeoliad cynnar gwirfoddol ar gost o £519,660.00. Y taliad mwyaf i unigolyn yn ystod y cyfnod 2008-2011 oedd £54,700.

Sir Fynwy

Yn 2008-09 gwariwyd £104506.10 ar 12 o ddiswyddiadau, a'r taliad uchaf oedd £21017.90

Yn 2009-10 gwariwyd £235914.95 ar 17 o ddiswyddiadau, a'r taliad uchaf oedd £35730.

Yn 2010-11 gwariwyd £807563.44 ar 59 o ddiswyddiadau, a'r taliad uchaf oedd £75533.

Roedd pob un o'r diswyddiadau yn orfodol.

Sir Benfro

Yn 2009-10 talwyd £563,629 i 33 o bobl. Y taliad uchaf oedd £59,115.

Yn 2010-11 talwyd £710,706 i 40 o bobl. Y taliad uchaf oedd £54,712.

Yn 2011-12 talwyd £187,378 i 17 o bobl. Y taliad uchaf oedd £27,482.

Pen-y-bont

2009-10 - Cyfanswm y taliadau diswyddo: £843,922.61. Nifer yr unigolion y rhoddwyd taliadau diswyddo iddynt: 57. Y taliad uchaf i unigolyn: £67,934.60.

2010-11 - Cyfanswm y taliadau diswyddo: £206,748.48. Nifer yr unigolion y rhoddwyd taliadau diswyddo iddynt: 24. Y taliad uchaf i unigolyn: £38,276.96.

2011-12 hyd yma - Cyfanswm y taliadau diswyddo: £312,822.63. Nifer yr unigolion y rhoddwyd taliadau diswyddo iddynt: 23. Y taliad uchaf i unigolyn: £41,847.34.

Nid yw'r awdurdod yn cadw'r wybodaeth hon mewn modd sy'n ei gwneud yn bosib gwahaniaethu rhwng diswyddiadau gwirfoddol a gorfodol.

Powys

Yn 2008-2009 gwariwyd £576,460.83 ar 29 o ddiswyddiadau gorfodol, a £324,934.61 ar 11 o ddiswyddiadau gwirfoddol, sef cyfanswm o £901,395.44.

Yn 2009-2010 gwariwyd £652,113.97 ar 49 o ddiswyddiadau gorfodol, £344,859.99 ar 20 o ddiswyddiadau gwirfoddol, sef cyfanswm o £996,973.96.

Yn 2010-2011 gwariwyd £552,427.36 ar 51 o ddiswyddiadau gorfodol, £376,912.24 ar 18 o ddiswyddiadau gwirfoddol, sef cyfanswm o £929,339.60.

Dros y tair blynedd, y taliad uchaf i unigolyn ar gyfer diswyddo gorfodol oedd £173,088.24, a'r taliad uchaf i unigolyn ar gyfer diswyddo gwirfoddol oedd £98,106.84.

Rhondda Cynon Taf

Ni fu diswyddiadau gorfodol, dim ond diswyddiadau gwirfoddol.

Yn 2008-09, talwyd £905,723 ar 33 o ddiswyddiadau. Yn 2009-10 talwyd £2,212,599 ar 114 o ddiswyddiadau. Yn 2010/11 talwyd £4,631,608 ar 165 o ddiswyddiadau.

Y taliad uchaf i unigolyn ar gyfer diswyddo gwirfoddol oedd dros y tair blynedd oedd £110,507.

Torfaen

Rhwng 2008-09 a 2010-11 gwariwyd £325,911.82 ar ddiswyddiadau gwirfoddol a £929,969.20 ar ddiswyddiadau gorfodol.

Cafodd 19 o bobl eu diswyddo'n wirfoddol a 98 eu diswyddo'n orfodol.

Y taliad uchaf i unigolyn oedd £84,398.00.

Wrecsam

Cyfanswm a wariwyd rhwng Ebrill 2008 a Mawrth 2011 ar Ddiswyddiadau Gorfodol a Statudol oedd: £1,867,054.

Nifer yr unigolion - 142

Taliad mwyaf - £58,970

Ynys Môn

Taliadau Diswyddo Staff Ysgolion

Medi 2010 - Awst 2011

Cafodd 10 unigolyn eu diswyddo'n wirfoddol. Cyfanswm y Taliadau oedd £252,968.37. Y taliad mwyaf oedd £46,544.72.

Cafodd pump unigolyn eu diswyddo'n orfodol. Cyfanswm y Taliadau oedd £9,955.20. Y taliad mwyaf oedd £7,043.72.

Medi 2009 - Awst 2010

Cafodd 12 unigolyn eu diswyddo'n wirfoddol. Cyfanswm y Taliadau oedd £435,897.04. Y taliad mwyaf oedd £60,278.73.

Cafodd dau unigolyn eu diswyddo'n orfodol. Cyfanswm y Taliadau oedd £11,444.00. Y taliad mwyaf oedd £6,171.80.

Medi 2008 - Awst 2009

Cafodd chwe unigolyn eu diswyddo'n wirfoddol. Cyfanswm y Taliadau oedd £130,364.00. Y taliad mwyaf oedd £32,304.

Cafodd un unigolyn ddiswyddiad gorfodol. Cyfanswm y Taliad oedd £5,731.60.

O ran staff ysgolion, amcangyfrif yw'r data ar gyfer 2010-11 gan nad yw'r broses wedi dod i ben yn gyfan gwbl.

Taliadau Di-Swyddo Staff eraill

Yn 2010 - 2011 cafodd pedwar unigolyn eu diswyddo'n orfodol. Cyfanswm y Taliadau oedd £67,219,88. Y taliad mwyaf oedd £32,241.00.

Yn 2008 - 2009 cafodd 1 unigolyn diswyddiad gorfodol. Cyfanswm y Taliad oedd £2,409.

O ran 2009/10 ar gyfer staff eraill, un unigolyn oedd wedi diswyddo (cydsyniad cilyddol) ac felly mae'r wybodaeth yn eithriedig o dan ran 41 o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Ffynhonnell: Awdurdodau lleol wedi cais BBC Newyddion Ar-lein o dan Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol