Ymchwiliad E. coli: Llysiau ar fai
- Cyhoeddwyd
Mae'r asiantaeth safonau bwyd yn atgoffa pobl i olchi llysiau a ffrwythau'n drwyadl ar ôl ymchwiliad i achosion o salwch stumog sy'n cael ei achosi gan straen o E.coli.
Mae'r achosion bellach drosodd, ond fe ddangosodd ymchwiliad fod 'na gysylltiad rhwng y salwch a llysiau amrwd mewn rhai achosion.
Mae'r asiantaeth yn pwysleisio fod y llysiau'n ddiogel i'w bwyta, ond bod y bacteria o bosib mewn pridd oedd arnyn nhw.
Dywedodd Dr Bob Adak, arbenigwr clefyd gastroberfeddol sy'n gweithio i'r Asiantaeth Diogelu Iechyd fod yna gysylltiad arwyddocaol rhwng y straen â thatws a chennin amrwd mewn sachau.
250 o achosion
"Er hynny mae'n bosib nad y llysiau hyn yn unig wnaeth achosi'r salwch," ychwanegodd.
"Mae'n bwysig fod pobl yn sylweddoli ei bod hi'n ddiogel i fwyta'r llysiau hyn dim ond eu bod nhw wedi eu golchi'n drylwyr cyn eu coginio a'u bod nhw wedi cael eu cadw'n mewn modd priodol.
"Mae'r achosion bellach drosodd ond gallai'r bacteria wedi bod mewn pridd oedd ar y llysiau.
"Gallai pobl wedi cael eu heffeithio gan y straen o E.coli yn sgil llygriad pan oedd y llysiau mewn storfa, neu oherwydd diffyg golchi'r llysiau'n drwyadl, neu fod pobl heb olchi eu dwylo, llestri neu offer arall yn y gegin wedi iddynt drafod y llysiau."
Rhwng mis Rhagfyr 2010 a mis Gorffennaf 2011 derbyniodd Asiantaeth Diogelu Iechyd, Diogelu Iechyd Yr Alban ac Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiadau am 250 o achosion o'r straen o E.coli 0157 - roedd 14 ohonyn nhw yng Nghymru.
Doedd y rhan fwyaf o'r achosion hyn ddim yn ddifrifol ond fe gafodd 74 o bobl eu hasesu yn yr ysbyty ac fe fu farw un claf oedd eisoes yn dioddef o broblemau iechyd.
Dywedodd Dr Andrew Wadge, prif wyddonydd Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: "Mae'n anghywir i feddwl nad yw pridd yn gwneud dim drwg ichi.
"Mae bacteria niweidiol mewn pridd ar adegau ac er bod gan gynhyrchwyr bwyd systemau iechyd da mewn lle mae'n amhosib dileu'r perygl yn gyfan gwbl."