Cynllun i helpu'r ifanc i gael gwaith

  • Cyhoeddwyd
Prentisiaid (cyffredinol)Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Nod y cynllun yw helpu pobl ifanc i gael gwaith sefydlog neu brentisiaeth

Bydd cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru, gwerth £75 miliwn, yn creu 4,000 o swyddi'r flwyddyn am y tair blynedd nesa', yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones.

O fis Ebrill nesa' ymlaen, bydd cynllun Twf Swyddi Cymru yn creu cyfleoedd ar draws y wlad ar gyfer pobl rhwng 16-24 oed, am gyfnod o chwe mis.

"Mae Twf Swyddi Cymru yn bolisi sy'n dangos ein hymrwymiad i hybu twf economaidd a swyddi yng Nghymru," meddai Mr Jones.

"Nid yn unig y bydd y cynllun hwn yn creu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc, sydd wedi diodde' yn fwy na neb yn ystod y dirwasgiad, ond fe fydd y rhain yn swyddi newydd, fydd yn helpu busnesau Cymreig i ehangu."

Gyda'r llywodraeth yn cyfrannu £25 miliwn y flwyddyn dros y tair blynedd, bydd unigolion yn cael cyflog sydd uwchlaw'r isafswm cenedlaethol am isafswm o 25 awr yr wythnos.

Mae'r cynllun wedi'i anelu at bobl sy'n barod i wneud gwaith ond yn methu dod o hyd i swyddi.

Sector preifat

Dydd Mawrth fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews fanylion am y cynllun, a chyhoeddodd y bydd cyfnod peilot yn cael ei gynnal cyn i'r cynllun ddechrau'n swyddogol y flwyddyn nesa'.

"Oherwydd yr hinsawdd economaidd sydd ohoni mae 'na bobl rhwng 16-24 oed sydd ddim mewn gwaith nag addysg," eglurodd Mr Andrews.

"Bydd Twf Swyddi Cymru yn galluogi unigolion i gael profiad gwaith o ansawdd ac i fynd 'mlaen i gael gwaith sefydlog, neu brentisiaeth os mai dyna sy'n addas."

"Mae'n debyg y bydd mwyafrif y swyddi i'w cael yn y sector preifat, er y bydd rhai cyfleoedd o fewn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.

"Bydd rhaid i fusnesau sy'n rhan o'r cynllun brofi fod y swyddi rydyn ni'n eu cefnogi yn rhai newydd."

Bydd cynllun peilot yn cael ei gynnal dros yr hydref, cyn i'r cynllun ehangach ddechrau fis Ebrill nesa'.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol