Prosiectau adfywio: Rhannu £4m
- Cyhoeddwyd
Mae prosiectau i adfywio hen bafiliwn pier o Oes Fictoria a datblygu safle claddu gwyrdd ymhlith y rheini sy'n rhannu ymron i £4 miliwn trwy'r rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol.
Bydd y prosiectau sy'n rhannu yn y £3,825,885 yn defnyddio'r arian i adfywio ac ail-fywiocau'r asedau i wella eu bywoliaeth a'u cymdogaethau.
Dyfarnwyd grant o £700,000 i Brosiect Pafiliwn Pier Penarth, er mwyn iddynt ddarparu atyniad i dwristiaid ac adeilad cymunedol ym Mhafiliwn Pier Penarth ym Mro Morgannwg.
Yn ogystal dyfarnwyd grantiau o bron £800,000 i brosiectau yn Llanffestiniog, Llanbedr-Pont-Steffan, Glyn Ebwy, ac yn Ynyshir yn y Rhondda.
Safle claddu gwyrdd
Bydd y pafiliwn ym Mhenarth yn cynnig ystod o weithgareddau gan gynnwys rhaglenni addysgol, cyfleusterau cyfarfod a chynadledda, dangos ffilmiau, gwyliau, arddangosfeydd, darpariaeth gofal plant ynghyd â bwyty a chaffi.
Yng Ngwynedd, dyfarnwyd grant o £789,165 i Seren Ffestiniog Cyf ar gyfer ei brosiect Gwesty Seren a Gerddi 'Stiniog.
Bydd y prosiect yn prynu cartref gofal Bryn Llewelyn yn Llanffestiniog i ddarparu gwesty gofal seibiant i bobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Bydd y gwesty'n darparu deg ystafell wely ag ystafelloedd ymolchi ar gyfer buddiolwyr a'u gofalwyr, a bydd yn cynnig ystod o weithgareddau yng Ngerddi 'Stiniog gerllaw.
Yn ne-orllewin Cymru, mae Coedwig Gymunedol Longwood ger Llanbedr Pont Steffan, yn derbyn £787,714 i gaffael tir o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru gyda'r nod o gyflwyno nifer o weithgareddau a gwasanaethau ar gyfer y gymuned leol.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys safle claddu gwyrdd naturiol, cynnal rhaglenni addysg drwy'r ysgol goedwig, llogi'r theatr awyr agored a safle gwersylla sy'n llesol i'r amgylchedd.
Stiwdio ddawns
Yn Rhondda Cynon Taf, dyfarnwyd £768,781 ar gyfer prosiect Valleys Furniture Recycling Limited.
Bydd yr arian yn galluogi iddo ehangu ar ei wasanaeth ailgylchu o'i uned ddiwydiannol gyfredol yn Ynyshir.
Mae £780,225 wedi'i ddyfarnu i brosiect ProMo Cymru Ltd a fydd yn defnyddio'r arian i adnewyddu'r adeilad rhestredig Gradd II yn Sefydliad Glyn Ebwy a'i weddnewid yn ganolbwynt ar gyfer ystod eang o weithgareddau gan gynnwys addysg, stiwdio ddawns, cynhyrchu cerddoriaeth, clwb ieuenctid a chaffi.
Mae'r rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol gwerth £13 miliwn yn bartneriaeth rhwng y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru sy'n bwriadu darparu ariannu cyfalaf a refeniw i gefnogi trosglwyddo asedau, megis tir ac adeiladau, o fudiadau sector cyhoeddus i berchnogaeth gymunedol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd26 Medi 2011