Dechrau lledu'r Cob ym Mhorthmadog

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf Porthmadog a'r gwaith lleduFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith paratoi ar gyfer lledu'r cob ac ehangu'r orsaf wedi cychwyn

Mae gwaith paratoi wedi cychwyn mewn gorsaf reilffordd sy'n rhan o gynllun i ehangu'r Cob ym Mhorthmadog.

Mae angen gwneud y gwaith ar Orsaf Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Eryri ym Mhorthmadog i wella'r orsaf hanesyddol sy'n dyddio'n ôl i 1863.

Bydd y gwaith yn caniatáu i drenau Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Eryri ddefnyddio'r orsaf ar yr un pryd.

Ar hyn o bryd mae'r platfform unigol yn atal cyfnewid syth rhwng gwasanaethau o Flaenau Ffestiniog a Chaernarfon.

Fe fydd croesfan dros dro dros y rheilffordd a mynediad ar ramp o'r orsaf i gyfeiriad y traeth er mwyn caniatáu mynedfa i storio tua 5,000 tunnell o ddeunyddiau er mwyn lledu 200 metr o'r Cob 200 oed.

Bydd cledrau rheilffordd ychwanegol yn cael eu gosod ym mhen Porthmadog.

Deunyddiau

"Fe fydd y groesfan wedi ei chwblhau erbyn mis Rhagfyr yn barod ar gyfer cau'r orsaf ym mis Ionawr pan fydd y gwaith lledu yn cychwyn," meddai rheolwr y prosiect, Mike Hart.

"Yr her yw cludo'r holl ddeunyddiau i'r ochr arall cyn i'r gwasanaethau trên gychwyn ym mis Mawrth er bydd rhaid atal y gwaith cludo yn ystod wythnos hanner tymor ym mis Chwefror.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae diswgyl i'r holl brosiect fod wedi ei gwblhau erbyn gaeaf 2012/13

"Erbyn hynny rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o waith ar ledu'r Cob wedi ei gwblhau.

"Fe fydd agor y wal ar hyd cefn yr orsaf yn caniatáu i ni gael mynediad i'r safle dros y dyddiau nesaf ac i wneud gwaith cloddio i sicrhau bod y tir yn addas."

Unwaith fydd y gwaith lledu wedi ei gwblhau, fe fydd gwirfoddolwyr yn cychwyn gosod y cledrau dros yr haf.

Fydd y gwaith yma ddim yn effeithio ar wasanaethau i deithwyr.

Bydd y platform newydd yn cael ei osod yn ystod gaeaf 2012/2013, cyn i'r gwaith signal gael ei gwblhau.

Yn gynharach eleni roedd 'na ddathliadau yn y dref i nodi 200 mlwyddiant Y Cob.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol