Cofio'r Tywysog Philip: Pennaeth y Teulu
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod ei choroni, tynnodd Dug Caeredin lw o deyrngarwch i Frenhines Elizabeth II.
Roedd ei wraig yn sofran arno, ac yn gyhoeddus, byddai'r Tywysog yn ymostwng iddi ym mhopeth.
Yn breifat, roedd pethau'n hollol wahanol.
Os mai'r Teulu Brenhinol oedd y Cwmni - fel yr oedd Philip yn ei alw - ni wnaeth y Frenhines, fel rheolwr-gyfarwyddwr, yr un penderfyniad heb ymgynghori â'i chadeirydd.
Roedd rhai'n ei weld fel ffigwr digyfaddawd, awdurdodol, ond roedd wrth ei fodd â bywyd teuluol, yn enwedig plant.
"Maen nhw'n ei hoffi e, ac mae e'n eu hoffi nhw," meddai'r Iarlles Mountbatten o Burma wrth yr awdur Gyles Brandreth.
"Yn ddi-gwestiwn, roedd Philip yn dad da iawn i'w blant pan roedden nhw'n ifanc."
Er ei gysylltiadau â nifer o deuluoedd brenhinol Ewrop, roedd magwraeth gynnar Philip yn gymharol ddi-nod, gan ddechrau yn Corfu.
Cafodd ei dad ei alltudio o wlad Groeg pan oedd yn flwydd oed, felly gadawodd y tywysog ifanc ei famwlad ar long Brydeinig, mewn crud a wnaed o focs orennau.
Wedi i'w rieni wahanu, treuliodd y tywysog ei blentyndod mewn ysgolion bonedd Seisnig a rhai o dai brenhinol Ewrop.
Fel yr unig fachgen yn y teulu, roedd yn agos iawn at ei bedair chwaer. Bu farw un ohonynt, Cecilie, mewn damwain awyren yn 1937, a bu'r golled yn ergyd drom iddo.
Heb gartref go iawn i ddychwelyd iddo ar gyfer gwyliau, setlodd Philip yn hytrach yn amgylchfyd llym Gordonstoun - ysgol yn Yr Alban a roddodd bwyslais cyfartal ar ymdrech gorfforol ac academaidd.
Yno, datblygodd y gwytnwch a'r bragmatiaeth fyddai'n nes ymlaen yn creu tensiynau rhyngddo a'i fab hynaf.
Tra bod amgylchiadau heriol Gordonstoun wedi bod yn angor i Philip, roedd Charles yn fwy sensitif a theimlai allan o le yno.
'Argraff annheg'
Ceisiodd y Tywysog Philip barhau â'r broses o galedu ei fab ar yr aelwyd adref.
Yng nghofiant awdurdodedig Charles, portreadodd Jonathan Dimbleby y Tywysog Philip fel ffigwr digyfaddawd wnaeth bwyso ar ei fab i briodi, ac a geisiodd feithrin agwedd bragmataidd ynddo.
Dioddefodd y ddau ddyn oherwydd eu hagweddau gwahanol, gan arwain at gŵyn gan Philip: "Oherwydd nad ydw i'n gweld y byd fel y byddai rhamantydd yn ei weld, rwy'n [cael fy ystyried] yn ddideimlad."
Ond fel nifer o'i broblemau, fe benderfynodd: "Mae'r argraff sydd gan y cyhoedd yn un annheg, ond mae'n rhaid i mi fyw gyda hynny."
Roedd ei berthynas gyda'i blant eraill yn llai cymhleth.
Pan adawodd ei blentyn ieuengaf, Y Tywysog Edward, y Marines, doedd yna ddim cymaint o rwyg yn y teulu ag yr oedd adroddiadau yn eu hawgrymu ar y pryd.
Mewn gwirionedd, roedd penderfyniad Edward i roi mwy o'i amser i Gynllun Gwobr Dug Caeredin yn fodd o ddod â'r ddau yn nes at ei gilydd.
Yn ei ferch Anne, roedd ganddo rywun tebyg o ran anian.
Gallai'r Dywysoges siarad yr un mor ddi-flewyn ar dafod â'i thad, ac roedd y ddau yn deall ei gilydd yn dda.
Ar ôl rhoi cefnogaeth gyhoeddus a chydweithrediad i'w wraig gydol ei briodas, byddai wedi bod yn ddealladwy pe bai'r Dug wedi cael ei siomi gan fethiant priodasau ei blant.
Ond bu'n gefn i'w ferch-yng-nghyfraith, y Dywysoges Diana, fel y daeth yn amlwg pan gyhoeddwyd llythyrau rhyngddynt yn ystod y cwest i'w marwolaeth.
Roedd y llythyrau, a ysgrifennwyd yn 1992, pan oedd yna drafferthion yn ei phriodas â Thywysog Cymru, yn dangos cryn gydymdeimlad ar ran y Dug, ac yn tanlinellu ei barodrwydd i gynorthwyo i geisio sicrhau y byddai'r briodas yn goroesi.
Mewn un llythyr dywedodd: "Fe fydda i bob amser yn gwneud fy ngorau glas i'ch helpu chi a Charles hyd eithaf fy ngallu.
"Ond rydw i'n barod iawn i gyfaddef nad oes gen i unrhyw ddoniau fel cynghorydd priodas."
Gwelwyd yr un sensitifrwydd adeg angladd Diana pan roedd ei meibion yn betrusgar ynghylch cerdded y tu ôl i'w harch.
Dywedodd y Tywysog Philip, oedd ddim wedi bwriadu cerdded, wrth William: "Os nad wyt ti'n cerdded, rydw i'n credu y gwnei di ddifaru hynny maes o law. Os ydw i'n cerdded, wnei di gerdded gyda fi?"
Cafodd sefydlogrwydd yn ei briodas ag Elizabeth nad oedd wedi ei brofi cyn hynny.
Roedd yr annibyniaeth a phragmatiaeth a ddatblygodd yn ystod ei blentyndod wedi arwain rhai pobl i gael yr argraff ei fod yn oeraidd, ond camargraff oedd hynny yn ôl y rheiny oedd yn agos ato.
Ar gyfer ei lyfr, fe wnaeth yr awdur Gyles Brandreth holi'r Dug am ei berthynas gyda'i blant.
"Rydym yn deulu," meddai'r Dug. "Beth ydych chi'n ei ddisgwyl?"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021