£10,000 am ymchwil i ordewdra

  • Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

"Mae gordewdra a phroblemau cysylltiedig fel diabetes yn bryderon iechyd difrifol."

Ydi llawdriniaeth gordewdra yn newid sut mae'r corff yn llosgi calorïau a sut mae'n effeithio ar glefydau fel diabetes?

Dyna'r cwestiynau y bydd Sefydliad Llawdriniaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru yn Nhreforys a Prifysgol Abertawe yn ceisio'u hateb wedi iddyn nhw gael grant ymchwil.

Daeth yr arian - £10,000 - gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon i wneud ymchwil allai dorri tir newydd.

Dywedodd Jonathan Barry, llawfeddyg yn y sefydliad: "Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng y sefydliad, Adran Feddygaeth Ysbyty Treforys a Phrifysgol Abertawe.

"Byddwn yn edrych ar effeithiau llawdriniaeth ar bobl sy'n ordew.

"Mae'n swm mawr y mae'n fraint i ni ei dderbyn wedi cystadleuaeth gan unedau llawfeddygol eraill yn y DU."

'Pryderon difrifol'

Bydd cleifion sy'n cael llawdriniaeth o'r fath yng Nghanolfan Treforys yn cael cais i fod yn rhan o ymchwil Mr Barry, Dr Richard Barcken o Brifysgol Abertawe a Dr Jeffrey Stephens o Ysbyty Treforys.

Dywedodd Dr Stephens: "Mae gordewdra a phroblemau cysylltiedig fel clefyd siwgr yn bryderon iechyd difrifol.

"Gall llawdriniaeth gordewdra wella cyflyrau fel clefyd siwgr, pwysedd gwaed uchel a thrafferthion anadlu.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Barry a Dr Jeffrey Stephens fydd yn gwneud peth o'r ymchwil

"Mae'n bosib bod llawdriniaeth colli pwysau yn gallu newid ein gallu i ddefnyddio egni yn fwy effeithiol, ond mae'n aneglur a yw'r newid yn digwydd yn syth wedi'r llawdriniaeth neu ar ôl cyfnod o golli pwysau wedyn.

"Byddwn yn edrych ar ddefnydd y corff o egni - gan gynnwys braster a siwgr - cyn ac yna fis a chwe mis wedi'r llawdriniaeth."

Mae llawdriniaeth gordewdra yn cyfyngu ar faint o galorïau y gall claf eu hamlyncu, gan leihau maint y stumog.

Dim ond cleifion sy'n cwrdd ag amodau llym iawn sy'n cael cynnig y driniaeth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol