Llafur am herio newidiadau

  • Cyhoeddwyd
CynulliadFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Llafur o blaid 60 o Aelodau Cynulliad, 30 o seddau dwy aelod

Mae'r Blaid Lafur yng Ngymru wedi dweud y byddan nhw'n gwrthwynebu unrhyw newid i nifer etholaethau Aelodau Cynulliad.

Fe allai nifer Aelodau Seneddol yng Nghymru gael ei chwtogi o 40 i 30 ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesa.

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud bod Llafur yn gwarchod eu buddiannau eu hunain.

Pe bai nifer etholaethau Aelodau Cynulliad yn cael ei gostwng i 30 er mwyn cyfateb i'r rhai Seneddol newydd, meddai Pwyllgor Gwaith Llafur, fe fydden nhw'n gwrthwynebu'r newidiadau.

Dywedodd y pwyllgor gwaith y byddai unrhyw newid heb fandad yn "dangos amarch mawr".

Ond pe bai'r cynllun newydd yn cael ei orfodi, fe fyddai ymgyrch i ddod â'r system cynrychiolaeth gyfrannol i ben.

'Yn unedig'

Dywedodd Llafur y bydden nhw o blaid 60 o Aelodau Cynulliad, 30 o seddau dwy aelod a defnyddio'r dull cyntaf i'r felin.

"Mae Llafur Cymru'n unedig wrth ddelio â'r mater hwn," meddai datganiad ar y cyd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac Ysgrifennydd Cymreig yr Wrthblaid, Peter Hain.

Dywedodd ffynhonell yn Llywodraeth San Steffan: "Fe fydd cael gwared ar system cynrychilaeth gyfrannol yn gweddu i ddibenion Llafur.

"Hon oedd eu hagwedd pan newidion nhw'r drefn etholiadol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 heb ymgynghori o gwbl."