Cyn-Weinidog: Newidiadau mawr i'r Brifwyl?

  • Cyhoeddwyd
Maes Eisteddfod Geneldaethol Wrecsam 2011Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Aeth 149,692 i'r Eisteddfod yn Wrecsam eleni

Mae cyn-Weinidog Treftadaeth Cymru wedi dweud ei bod hi'n anodd rhagweld sut mae modd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn ariannol.

Daw sylwadau Alun Ffred Jones ar BBC Radio Cymru ddiwrnod wedi newyddion bod y Brifwyl yn Wrecsam eleni wedi gwneud colled.

Dydi'r union ffigwr heb ei gadarnhau gan yr Eisteddfod ond mae Post Prynhawn Radio Cymru wedi cael ar ddeall mai maint tebygol y golled yw dros £80,000.

Daeth y wybodaeth gan yr Eisteddfod ar wefan Twitter ddydd Iau ac fe fydd Cyngor yr Eisteddfod yn trafod y sefyllfa mewn cyfarfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.

Roedd "incwm cyngherddau, stondinau a nawdd mewn cyfnod anodd," meddai'r trydar, wedi creu colled i'r Eisteddfod.

Y llynedd fe wnaeth Eisteddfod Blaenau Gwent golled o £47,000 ond rhwng 2006 a 2009 fe wnaeth yr ŵyl elw.

Ar y Post Cyntaf dywedodd Mr Jones ei fod a phawb arall yn gwerthfawrogi'r hyn yr oedd yr Eisteddfod yn ei gynnig i bobl Cymru.

Ymdrechion pobl leol

"Ond all yr Eisteddfod ddim parhau fel y mae.

"Dwi'n siŵr bod hyn (y golled) yn bryder i awdurdodau'r Eisteddfod a phawb sy'n poeni am les y Brifwyl."

Er hynny, meddai, roedd sawl agwedd ar Eisteddfod Wrecsam yn llwyddiannus.

"Wrth edrych ymlaen at y tymor canolig mae 'na gwestiynau sylfaenol ynglŷn â all yr Eisteddfod barhau yn ei ffurf bresennol.

"Efallai ein bod yn wynebu cyfnod o bedair, pump neu 10 mlynedd hwyrach lle bydd arian cyhoeddus yn brin a lle bydd pobl 'efallai' yn edrych yn ofalus lle maen nhw'n gwario arian ac mae cwmnïau yn edrych yn ofalus ar y nawdd.

"Dydi'r amgylchiadau ddim yn ffafriol."

'Dilema'

Dywedodd nad ei le oedd awgrymu pa newidiadau y dylai'r Eisteddfod eu gwneud ond yn sicr "os ydach chi'n cadw'r Eisteddfod fel y mae, mae 'na gostau sylfaenol ynghlwm wrthi hi".

"Y cwestiwn yw gwario'r arian yn fwy ar gontractwyr a gosod y Maes nag ar yr hyn sy'n sylwedd sef y diwylliant," meddai.

"Ond os ydach chi'n tynnu'r Maes, yna does 'na ddim canolbwynt i'r digwyddiad, dim lle, man cyfarfod i'r Cymry.

"Mae'n ddilema.

"Dwi ddim yn meddwl y bydd yr Eisteddfod yn newid yn y blynyddoedd nesa ond dwi ddim yn gweld nad oes 'na ddewis ond gwneud newidiadau pellgyrhaeddol yn y dyfodol."

£493,000

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr Eisteddfod wedi derbyn cymhorthdal o £493,000 ar gyfer 2011-12 drwy law Bwrdd yr Iaith.

Hefyd fe roddwyd £25,000 ar gyfer cynllun oedd yn caniatáu i'r Eisteddfod gynnig 10,000 o docynnau am bris gostyngedig.

Ychwanegodd Mr Jones nad oedd yn credu bod 'na beryg i'r nawdd yn y tymor byr na'r tymor canolig.

"Yn amlwg, dydi'r nawdd ddim yn ddigon i sicrhau llwyddiant ariannol.

"Os oes 'na bethau eraill yn cael eu colli fel nawdd cwmnïau, yna fe fydd yn wynebu'r un sefyllfa flwyddyn ar ôl blwyddyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol