Modrwy Rufeinig yn dychwelyd i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Modrwy RufeinigFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Amgueddfa Brydeinig wedi rhoi'r fodrwy i Amgueddfa Winding House yn Nhredegar Newydd

Mae modrwy Rufeinig a gafodd ei chanfod ger Caerffili i gael ei harddangos mewn amgueddfa yn yr ardal am byth.

Cafodd y fodrwy arian, sydd tua 2,000 oed, ei chanfod gan ddyn yn defnyddio datgelydd metel ar Gefn Brithdir ym Mro Darran yn gynharach eleni.

Mae'r Amgueddfa Brydeinig wedi rhoi'r fodrwy i Amgueddfa Tŷ Weindio yn Nhredegar Newydd.

Bydd y fodrwy yn cael ei harddangos yno'n barhaol o hyn ymlaen.

Presenoldeb cryf

Dywedodd Emma Wilson, prif swyddog amgueddfeydd a threftadaeth Caerffili ei bod yn "hapus iawn" i dderbyn y fodrwy gan yr Amgueddfa Brydeinig.

"Rydyn ni'n amgueddfa weddol newydd, dim ond wedi bod ar agor ers tair blynedd," meddai.

"Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi rhoi benthyg eitemau Rhufeinig a gafodd eu canfod yng Ngelligaer i ni, ond y fodrwy yw ein darganfyddiad cyntaf ni."

Bu gan y Rhufeiniaid bresenoldeb cryf yn ne Cymru yn y Ganrif Gyntaf Ôl Crist a bu Caerffili a Gelligaer yn rhan o rwydwaith eang o gaerau a ffyrdd i geisio lledu eu rheolaeth o Brydain.

Talodd Mrs Wilson glod i'r dyn wnaeth ganfod y fodrwy.

Roedd o wedo ddweud wrth yr awdurdodau am ei ddarganfyddiad ar fynydd Cefn Brithdir rhwng Tredegar Newydd a Parc Cwm Darran.

"Sylweddolodd y dyn y gallai'r fodrwy fod yn hap drysor a chymerodd y camau cyfreithiol cywir," meddai Mrs Wilson.

Arddangos

Cafodd y fodrwy ei throsglwyddo i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a'i adwaenodd fel modrwy Rufeinig sydd a'r em ar goll ac yn dyddio o'r ganrif gyntaf neu'r ail ganrif Ôl Crist.

Am ei bod yn hap drysor fe gafodd y fodrwy ei throsglwyddo i'r Amgueddfa Brydeinig a benderfynodd ei chynnig i'r amgueddfa yn Nhredegar Newydd.

Dywedodd Mrs Wilson ei bod ar ben ei digon ac mae swyddogion yn casglu'r fodrwy o Lundain ddydd Llun ac y byddai'r eitem yn cael ei arddangos yn yr amgueddfa cyn bo hir.

"Nid yw'r fodrwy'n werth llawer o arian, ond rydyn ni'n hapus iawn i'w derbyn," meddai Mrs Wilson.

"Dydyn ni ddim yn gwybod p'un ai milwr neu anheddwr lleol oedd yn berchen y fodrwy."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol