Mwy o fanylion am arbedion y Brifwyl wedi colledion

  • Cyhoeddwyd
Maes Eisteddfod Geneldaethol Wrecsam 2011Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Aeth 149,692 i'r Eisteddfod yn Wrecsam eleni

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mwy o fanylion am y modd y bydd y brifwyl yn mynd ati i arbed £200,000.

Yn ôl y Prif Weithredwr, Elfed Roberts, bydd y Brifwyl wedi gwneud hyn heb gael effaith ar weithgareddau diwylliannol.

Yn ddiweddar cyhoeddwyd bod Eisteddfod Wrecsam wedi gwneud colled o £90,000 ond bod y tîm rheoli yn chwilio am arbedion.

"Rydan ni wedi cyrraedd sefyllfa lle mae'n rhaid i ni wneud rhagor o doriadau ac mae'n debygol iawn y bydd Eisteddfodau'r dyfodol yn edrych yn wahanol," meddai Mr Roberts mewn datganiad ar wefan yr Eisteddfod, dolen allanol ddydd Mercher.

Ymhlith y manylion am arbedion yn y datganiad dywed:

  • Bydd maint y Pafiliwn yn cael ei leihau a bydd newid yn y cynllun seddi fel arbrawf yn 2012

  • Fydd 'na ddim adeilad ar y maes carafannau ar gyfer Maes C ac mae'n bosib y bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal o amgylch y Maes, fel Y Lle Celf, y Theatr a'r Babell Lên

  • Un fynedfa i'r Maes fydd ym Mro Morgannwg yn 2012

  • Cael gwared â phafiliwn y noddwyr

  • Brwydr y Bandiau Maes B yn cael ei chynnal ar y Maes ei hun yn 2012

Mae'r Eisteddfod yn costio tua £3.4 miliwn bob blwyddyn.

Er yn crybwyll y ddadl o gael un safle parhaol, neu nifer cyfunedig o safleoedd mae Mr Roberts yn dweud ei fod yn parhau i ffafrio gŵyl sy'n ymweld â gwahanol ardaloedd.

Stondinau

"Rwy'n credu mai gŵyl deithiol yw'r Eisteddfod yn ei hanfod, ac mae hyn yn rhan bwysig o'i hapêl," meddai.

"Ein gwaith yw hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymru, ac felly mae'n bwysig ein bod ni'n teithio i wahanol ardaloedd er mwyn i bobl gael mwynhau'r profiadau a chymryd rhan ar stepen eu drws."

Dywedodd fod 'na ostyngiad wedi bod yn nifer y stondinau yn 2011 ac oherwydd hynny roedd yr incwm £25,000 yn is na'r targed a osodwyd ar gyfer Wrecsam.

Doedd y cyngherddau gyda'r nos ddim wedi llwyddo i gyrraedd eu targed incwm chwaith.

Ond wfftiodd awgrymiadau yn y wasg fod yr Eisteddfod wedi talu ffioedd mawr i berfformwyr.

Cafodd cyfanswm o £120,000 ei wario ar gyngherddau yn Wrecsam eleni.

"Saith cyngerdd oedd 'na ac roedd y cyfanswm yma nid yn unig yn cynnwys costau perfformwyr, cerddorion ac arweinyddion, ond hefyd y gost o roi'r cyngherddau at ei gilydd, eu llwyfannu - yr holl gostau sy'n ymwneud gyda rhoi sioe broffesiynol o ansawdd uchel," meddai Mr Roberts.

Cefnogaeth

"...mae'r cyfanswm yma'n dangos pa mor amhosibl y byddai hi i ni fod yn talu rhai o'r costau sydd wedi'u crybwyll yn y wasg i berfformwyr.

"Ond, mae llwyfannu cyngherddau o'r fath yn ddrud, ac fe fyddwn ni'n gwneud newidiadau yn y dyfodol, er mwyn ceisio sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targed ariannol."

Bydd yr Eisteddfod yn ymweld â Bro Morgannwg yn 2012, Sir Ddinbych yn 2013 a Sir Gaerfyrddin yn 2014.

"Rydym yn gofyn i chi barhau i'n cefnogi dros y blynyddoedd nesaf, pan fydd rhai elfennau o'r Eisteddfod yn edrych ychydig yn wahanol efallai," meddai Mr Roberts.

"Fe fyddwn yn arbrofi gyda syniadau newydd, a phan fyddwn yn gwneud ein gorau i hybu a hyrwyddo'r iaith a diwylliant ein gwlad."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol