Raymond Verheijen yn awyddus i reoli Cymru

  • Cyhoeddwyd
Raymond Verheijen a Gary SpeedFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Gweithio Raymon Verheijen (chwith) yn agos gyda Gary Speed

Mae hyfforddwr cynorthwyol tîm pêl-droed Cymru wedi datgan i fod yn dymuno arwain y tîm cenedlaethol yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 wedi marwolaeth sydyn Gary Speed.

Gobaith Raymond Verheijen yw y bydd arweiniad y tîm yn cael ei benderfynu ddydd Llun gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW).

Does 'na ddim rheolwr ar y tîm cenedlaethol ers marwolaeth Speed ar Dachwedd 27.

"Yfory mae'r FAW yn cyfarfod i drafod dyfodol Cymru," meddai'r gŵr o'r Iseldiroedd ar Twitter ddydd Sul.

"Gobeithio y bydd y bwrdd yn parchu dymuniad Gary fel y gall Osian Roberts (cyd-gynorthwydd) a finnau arwain y tîm i Frasil."

Ychwanegodd nad oes angen rheolwr newydd â syniadau newydd.

"Mae ein llwyddiant wedi ei selio ar strwythur clir Gary.

"Mae pawb yn gwybod be i'w wneud ar gyfer ymgyrch Brasil 2014."

Mae Verheijen wedi cynorthwyo i hyfforddi Yr Iseldiroedd, Rwsia a De Corea.

Daeth yn rhan o dîm hyfforddi Cymru pan gafodd Speed ei benodi ym mis Rhagfyr 2010., dolen allanol

Roedd y gŵr 40 oed yn rhan o dîm hyfforddi Speed wnaeth sicrhau buddugoliaethau diweddar Cymru.

Dywedodd cyn marwolaeth Speed fod ei gytundeb yn dod i ben ar ddiwedd 2011 a'i fod yn ystyried ei ddyfodol.

Fe fydd gêm gyntaf Cymru yn y gemau rhagbrofol gartef yn erbyn Gwlad Belg ar Fedi 7, 2012.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol