Amserlen Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2014
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru gartref yn erbyn Gwlad Belg ar gyfer eu gêm gyntaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.
Roedd cynrychiolwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym Mrwsel ddydd Mercher i benderfynu amserlen y gemau gyda'r gwledydd eraill fydd yn eu grŵp.
Yn ogystal â Gwlad Belg, bydd Cymru yn chwarae yn erbyn yr Alban, Serbia, Croatia a Macedonia er mwyn penderfynu pwy fydd yn mynd i'r rowndiau terfynol yn Brasil.
Bydd Cymru hefyd yn wynebu Gwlad Belg oddi cartref yn eu gêm olaf yn y grwp ar Hydref 15, 2013.
Y Gemau
Cymru v Gwlad Belg 7/9/2012
Serbia v Cymru 11/09/2012
Cymru v Yr Alban 12/10/2012
Croatia v Cymru 16/10/2012
Yr Alban v Cymru 22/03/2013
Cymru v Croatia 26/02/2013
FYR Macedonia v Cymru 06/09/2013
Cymru v Serbia 10/09/2013
Cymru v FYR Macedonia 11/10/2013
Gwlad Belg v Cymru 15/10/2013
Dywedodd rheolwr Cymru Gary Speed ei fod o'n falch nad oedd rhaid chwarae eu gemau ym mis Mehefin.
"Mae'r gemau yn rhai gefn wrth gefn, felly mae'n bwysig ein bod yn parhau gyda'n safon diweddar, a'n bod yn cael dechrau da i'r gemau rhagbrofol yn hydref 2012."
Yn y cyfamser mae Cymru'n bum safle'n is ar restr detholion pêl-droed y byd er iddyn nhw ennill pedair o'u pum gêm ddiwethaf.
Erbyn hyn, mae tîm Gary Speed yn rhif 50 ar restr FIFA.
Cododd Lloegr i'r pumed safle wedi buddugoliaethau yn erbyn Sbaen a Sweden, ond Sbaen sy'n dal ar frig y rhestr.
Mae'r Alban wedi codi dau safle i rif 49, ond mae Gogledd Iwerddon wedi disgyn ymhellach i rif 89.
Fe fydd llawer yn synnu bod Cymru'n disgyn er iddyn nhw guro'r Swistir, Bwlgaria, Montenegro a Norwy yn ddiweddar.
Cymhleth
Ond mae'r system bwyntiau sy'n cael ei defnyddio ar gyfer y rhestr yn gymhleth ac yn ystyried canlyniadau dros gyfnod o bedair blynedd.
Mae canlyniadau diweddar yn fwy gwerthfawr o ran pwyntiau, gyda chanlyniadau'r blynyddoedd diweddar yn cyfri llai wrth i'r blynyddoedd fynd heibio.
Er bod canlyniadau diweddar Cymru wedi bod yn dda, maen nhw wedi colli'r pwyntiau o ddau ganlyniad da yn 2007, sef gemau cyfartal yn erbyn yr Almaen a Gweriniaeth Iwerddon.
Rhestr detholion FIFA - Tachwedd 2011
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2011