Brigwrn Capel Garmon yn drysor i'r genedl
- Cyhoeddwyd
Mae brigwrn cain o'r Oes Haearn ar ffurf bwystfil chwedlonol deugribog, sydd bron yn 2,000 o flynyddoedd oed, wedi cael cartref parhaol newydd.
Bydd y cerflun, sy'n hanner buwch a hanner ceffyl, yn rhan o gasgliadau archeolegol cenedlaethol Cymru.
I gydnabod safle'r brigwrn fel un o'r gwrthrychau haearn cynhanesyddol gorau i oroesi yn Ewrop, mae Gweinidogion Cymru wedi ei dderbyn yn lle treth etifeddiant gan y perchnogion blaenorol.
Canfuwyd y brigwrn ym mis Mai 1852 gan weithiwr fferm a oedd yn torri ffos drwy fawnog ger Llanrwst, Conwy.
Fe'i claddwyd yn ofalus iawn ar ei ochr, gyda charreg fawr wedi'i gosod yn ofalus ar bob pen, bosib ar derfyn oes ei berchennog.
Yn wreiddiol yn un o bâr, mi fyddai'r brigwn wedi sefyll wrth y lle tân ynghanol tŷ crwn pennaeth yn ystod yr Oes Haearn.
Yng ngolau'r fflamau yn ystod gwleddoedd, cyfarfodydd gwleidyddol a sesiynau adrodd straeon, byddai'n symbol adleisiol o awdurdod.
Fel rhan o'r gwaith cadwraeth, tynnwyd lluniau pelydr-x o'r gwreiddiol a cheisiwyd creu atgynhyrchiad o'r darn.
Anrhydedd
At ei gilydd maen nhw'n dangos dawn a chrefft eithriadol y gof gwreiddiol a fyddai wedi gweithio am dair blynedd i orffen y gwaith.
Mae'n cynnwys 85 elfen a siapiwyd yn unigol ac yn wreiddiol roedd yn pwyso tua 38 cilogram.
Y brigwrn yw un o wrthrychau mwyaf poblogaidd Oriel Gwreiddiau: Canfod y Gymru Gynnar yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd lle'r roedd ar fenthyg cyn y trefniant diweddar.
Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar amgueddfa, bod hi'n anrhydedd i Amgueddfa Cymru gael gofalu am Frigwrn Capel Garmon ar ran pobl Cymru.
"Mae'r cynllun Derbyn yn Gyfnewid, a gymeradwywyd gan ein Gweinidog, yn ffordd bwysig o sicrhau y caiff sefydliad fel yr Amgueddfa gaffael gwrthrychau pwysig a gofalu amdanyn nhw."
Mae'r Cynllun Derbyn yn Gyfnewid yn galluogi trethdalwyr i drosglwyddo gwaith celf ac eitemau sydd o bwys i'n treftadaeth, fel Brigwrn Capel Garmon, i berchnogaeth gyhoeddus, yn lle talu treth etifeddiaeth neu gyfran o'r dreth honno.
Yng Nghymru, rhaid i'r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth gymeradwyo'r eitemau hyn, ar sail cyngor gan Banel Derbyn yn Gyfnewid y DU.
Yn y dyfodol, bydd Brigwrn Capel Garmon yn cael ei arddangos yn yr orielau newydd sy'n cael eu cynllunio ar hyn o bryd ar gyfer Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru fel rhan o broject Creu Hanes.