Cefnogaeth i Verheijen a Roberts
- Cyhoeddwyd
Mae cyn sêr Cymru, Mickey Thomas a Nathan Blake, wedi cefnogi galwad Gareth Bale i gadw Raymond Verheijen ac Osian Roberts gyda thîm hyfforddi pêl-droed Cymru yn dilyn marwolaeth Gary Speed.
Verheijen oedd dirprwy Speed, ac mae'n awyddus i barhau i weithio gyda Roberts ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.
Mae enw Ryan Giggs wedi cael ei gysylltu gyda'r swydd, ond dywedodd cyn ymosodwr Caerdydd a Chymru, Nathan Blake, fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn sefyllfa anodd.
Dywedodd y gallai penodi Giggs uwchben aelodau o dîm hyfforddi Speed greu tensiynau, ac "fe fyddai cystal iddyn nhw roi cynnig ar Verheijen a Roberts."
Dywedodd Mickey Thomas: "Rwy'n credu y bydd y ddau yn aros mewn rhyw fath o rôl."
'Dim angen newid'
Tanlinellwyd barn y ddau gan amddiffynnwr Cymru ac Abertawe, Ashley Williams, a ddywedodd wrth BBC Cymru:
"Dydyn ni ddim angen rhywun i newid yr hyn yr ydym wedi ei wneud, a dyna'r cyfan y byddwn i'n gofyn amdano a dweud y gwir."
Ychwanegodd Blake: "Maen nhw wedi gwneud job go lew hyd yma ac rydym mewn sefyllfa lle y gallwn adael pethau fel ag y maen nhw.
"Mae'r ddau eisiau'r swydd. Yn bersonol, rwy'n teimlo nad oes ganddynt ddigon o brofiad, ond fe allwn i fod yn anghywir.
"Does dim byd i'w golli. Dydyn ni heb gyrraedd pencampwriaeth ers cyhyd, felly pam lai?"
Mae Verheijen wedi cynorthwyo i hyfforddi'r Iseldiroedd, Rwsia a De Corea mewn Cwpanau Byd, ac mae'n awyddus i barhau yn ei swydd gyda Chymru.
Achlysur emosiynol
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gobeithio gallu cyhoeddi pwy fydd olynydd Gary Speed cyn eu gêm nesaf.
Y gêm honno fydd gêm goffa yn erbyn Costa Rica yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Chwefror 29.
Fe fydd yr achlysur yn un emosiynol iawn, gyda'r Gymdeithas yn paratoi teyrnged arbennig i Gary Speed cyn yr ornest gyntaf ers ei farwolaeth.
Mae Verheijen eisoes wedi datgan ei ddymuniad i barhau yn y swydd gydag Osian Roberts.
Ar wefan Twitter ym mis Rhagfyr, dywedodd: "Gobeithio bydd y bwrdd y parchu dymuniad Gary fel y gall Osian a finnau arwain y tîm i Frasil.
"Does dim angen rheolwr newydd gyda syniadau newydd. Roedd ein llwyddiant diweddar yn seiliedig ar strwythur clir Gary. Mae pawb yn gwybod beth sydd angen ei wneud ar gyfer Brasil 2014."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2011