Mwy am hyfforddi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Dau gan niwrnod cyn i'r Gemau Olympaidd ddechrau yn Llundain mae pedair gwlad arall wedi llofnodi Memoranda Cyd-ddealltwriaeth i gytuno i baratoi ar gyfer y Gemau yng Nghymru.
Y pedwar pwyllgor ychwanegol sydd wedi ymrwymo i gynnal eu gwersylloedd hyfforddi yng Nghymru yw: Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol Botswana; Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol Lesotho; Pwyllgor Paralympaidd Cenedlaethol Liberia a Phwyllgor Paralympaidd Mecsico.
Yn ddiweddar, penderfynodd Athletau Seland Newydd hyfforddi yng Nghymru, a hynny gyda chefnogaeth Pwyllgor Olympaidd Seland Newydd.
Fe fydd Pwyllgor Paralympaidd Mecsico a 40 o bobl yn hyfforddi ym Mhrifysgol Abertawe mewn athletau, nofio, jiwdo a chodi pwysau.
Bydd Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol Botswana yn gweithio yng Nghaerdydd a bydd tua 20 o gystadleuwyr yn hyfforddi mewn athletau, paffio a dwy gamp arall o bosib.
'Gwaith caled'
"Nawr bod 2012 ar ein gwarthaf a dim ond 200 diwrnod ar ôl nes i ddigwyddiad chwaraeon mwyaf y byd gyrraedd carreg ein drws, dw i wrth fy modd ein bod ni'n gallu gwneud y cyhoeddiad yma," meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
"Mae'r penderfyniadau'n adlewyrchu gwaith caled Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
"Maen nhw'n dangos bod yng Nghymru'r math o gyfleusterau a seilwaith chwaraeon y mae eu hangen ar dimau Olympaidd a Pharalympaidd.
"Bydd gwersylloedd hyfforddi cyn y Gemau hefyd yn rhoi cyfle i ddatblygu cysylltiadau chwaraeon, addysgol a diwylliannol â gwledydd sy'n dod i Gymru, a chyfle i blant a chymunedau lleol gymryd rhan ynddyn nhw, gan sicrhau enw da i Gymru."
Dywedodd Yr Arglwydd Sebastian Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain 2012, bod clywed fod Pwyllgorau Trefnu Cenedlaethol a Phwyllgorau Paralympaidd Cenedlaethol o Affrica ac America yn parhau i ddatblygu cysylltiadau cryf gyda Chymru i helpu eu hyfforddiant cyn Llundain 2012.
"Mae'n gyfle da i wledydd ddatblygu cysylltiadau chwaraeon, addysgol a diwylliannol a fydd yn parhau tu hwnt i'r Gemau.
"Rwy'n dymuno'r gorau i'r timoedd a'u cyd-weithwyr o Gymru yn eu paratoadau ar gyfer Llundain 2012."
Athletwyr Paralympaidd
Mae disgwyl i dimau o o leiaf 19 gwlad hyfforddi yng Nghymru cyn y Gemau, a fydd yn golygu bron i 1,000 o athletwyr a staff cymorth a buddsoddiad uniongyrchol o filoedd o bunnoedd yn yr economi.
Mae timau Paralympaidd o Awstralia, Seland Newydd a De Affrica hefyd wedi penderfynu cynnal eu hyfforddiant cyn y Gemau yng Nghymru, dolen allanol.
Bydd athletwyr paralympaidd o ranbarth cyfan Oceania yn hyfforddi ochr yn ochr â Chystadleuwyr Paralympaidd Awstralia yng Nghaerdydd.
Mae Pwyllgor Olympaidd Trinidad a Thobago hefyd wedi ymrwymo i ddod â'u tîm i Gaerdydd, ynghyd â gwersyll hyfforddi 'Road to London' y Gymdeithas Paffio Amatur Ryngwladol.
Yn ogystal â thîm Seiclo Paralympaidd UDA, bydd timau Seiclo Olympaidd a Pharalympaidd hynod lwyddiannus Prydain yn hyfforddi yn felodrom Casnewydd a fydd dan ei sang tan y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Bydd tîm Triathlon Iwerddon yn hyfforddi ym Mhrifysgol Abertawe ac o gwmpas Penrhyn Gŵyr.
Fe fydd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yng Nghaerdydd ddydd Llun i nodi'r 200 niwrnod ac yn gweld sut y mae busnesau a chymunedau Cymru yn elwa o'r Gemau.
Bydd hefyd yn cyfarfod â phobl ifanc sy'n gobeithio bod yn rhan o'r cystadlu yn ogystal â rhai fydd yn darparu cyfleusterau ar gyfer y timau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2011