Dai Greene: Dim lle i bêl-droed yn y Gemau Olympaidd

  • Cyhoeddwyd
Dai GreeneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arwr Dai Greene yw'r pêl-droediwr Ryan Giggs

Yn ôl yr athletwr Dai Greene does 'na ddim lle i bêl-droed yn y Gemau Olympaidd.

Er nad yw'r pencampwr byd yn erbyn chwaraewyr o Gymru yn cynrychioli tîm Prydain, mae'n gobeithio na fydd y tîm yn tynnu sylw oddi ar yr holl athletwyr sydd wedi bod yn hyfforddi'n galed am bedair blynedd er mwyn gwireddu breuddwyd a chyrraedd y Gemau.

Mae Greene yn bencampwr y byd yn ras 400 metr dros y clwydi ac yn un o brif obeithion Cymru a Phrydain am fedal yn Llundain y flwyddyn nesaf.

Fe ddewisodd athletau dros bêl-droed ar ôl gwrthod cytundeb gyda thîm ieuenctid Abertawe.

Dywed mai'r Gemau Olympaidd yw'r uchafbwynt i'r athletwyr ac mai Cwpan Pêl-Droed y Byd a Chynghrair y Pencampwyr yw'r uchafbwynt i bêl-droedwyr.

Mae'n poeni y byddai sylw'r wasg a'r cyfryngau ar y pêl-droediwr yn hytrach nag ar yr athletwyr.

Annibynniaeth

Mae Cymdeithas Olympaidd Prydain am gael tîm pêl-droed i gystadlu yn 2012.

Mae cymdeithasau pêl-droed Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn erbyn gan bryderu y bydd yn bygwth eu hannibyniaeth.

"I ddechrau dwi ddim yn credu y dylai tîm pêl-droed fod yno," meddai mewn cyfweliad gyda BBC Cymru.

Disgrifiad,

Bethan Clement yn holi Wyn Leyshon

"Dwi'n gobeithio na fydd yr enwau mawr yn cymryd y sylw oddi wrth y rhai sydd wedi bod yn hyfforddi am flynyddoedd ar gyfer yr un cyfle yma.

"Mae'r pêl-droedwyr yn cael pedair neu bum wythnos o wyliau dros yr haf ac mae cael bod yn Olympian i mi allan o'i le.

"Ennill yr Uwch-gynghrair, Cynghrair y Pencampwyr a Chwpan y Byd yw eu huchelgais.

"Dydyn nhw ddim yn tyfu fyny eisiau bod yn bencampwr Olympaidd, y gorau ym myd pêl-droed yw eu huchafbwynt."

Dywedodd nad bod yn bencampwr Olympaidd yw'r ffon fesur i fod y pencampwr pêl-droed gorau.

"Dwi ddim yn credu y dylai fod yn cael ei gynnwys yn y Gemau - o leiaf ddim ar lefel broffesiynol," ychwanegodd.

Petai Greene yn ennill y Fedal Aur fe fyddai yn un o bedwar Prydeiniwr i ennill bob un o brif fedalau athletau gan olynu Linford Christie, Daley Thompson a Sally Gunnell.

Mae hefyd yn gobeithio bod y pencampwr Olympaidd cyntaf i Gymru ar y trac ers Lynn Davies yn Tokyo ym 1964.

Mae Greene yn 25 oed ac yn gefnogwr pêl-droed, er hynny dywed bod y "mwyafrif o athletwyr" yn cytuno na ddylai pêl-droed gael ei gynnwys yn y Gemau.

Straeon

"Does 'na ddim lle iddo," meddai.

"Pan mae rhywun yn ennill medal aur mewn nofio neu chwarae badminton, maen nhw eisiau i'r byd glywed eu stori a pha mor galed maen nhw wedi gweithio at y foment yma.

"Yn anffodus, fe allai rhai papurau fod yn trafod yr hyn mae David Beckham wedi ei gael i frecwast er enghraifft - dydi hynny ddim yn stori dda i ni."

Mae dau o bêl-droedwyr Cymru, Gareth Bale ac Aaron Ramsey, eisoes wedi cyhoeddi eu bwriad i chwarae yn nhîm Prydain yn y Gemau er gwaetha pryderon Cymdeithas Bêl-Droed Cymru.

"Er fy mod o blaid rhoi cyfle i'r chwaraewyr gynrychioli tîm Prydain, dwi'n dymuno na fyddai 'na dîm yn y lle cyntaf," ychwanegodd Greene.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol