'Chwarter yn llai o seddau'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Comisiwn Ffiniau wedi cyhoeddi cynigion pellgyrhaeddol i leihau nifer seddau Aelodau Seneddol Cymru o 40 i 30.
Hwn yw'r newid mwyaf i etholaethau Cymru ers i'r comisiwn gael ei sefydlu yn 1944.
Os yw'n cael ei gymeradwyo, fe fydd yn effeithio ar y map etholaethol ymhob rhan o Gymru.
Rhan yw hon o Ddeddf Systemau Pleidleisio ac Etholaethau 2011 sy'n galw am leihau'r nifer o ASau ar draws Prydain o 650 i 600.
Y bwriad hefyd yw sicrhau bod yr etholaethau newydd yn cynnwys yn fras yr un nifer o etholwyr.
Ymysg y cynigion mae sedd newydd o'r enw Arfordir Gogledd Cymru, yn cyfuno rhannau o seddau Aberconwy a Gorllewin Clwyd.
Gweinidog
Gallai llai o seddau yn y gogledd olygu bod etholaethau fel Delyn a Gorllewin Clwyd yn dod i ben.
Gorllewin Clwyd yw sedd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones.
Mae'r comisiwn o blaid sedd newydd yn Ynys Môn a Menai a gallai diflaniad seddau Ynys Môn ac Arfon fod yn her i Blaid Cymru.
Ymysg y cynigion mae'r bwriad i gael un sedd yng Nghaerfyrddin.
Dywedodd Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: "Dyw rhai o'r etholaethau arfaethedig ddim yn ymarferol iawn.
"Mae enghreifftiau ble mae dwy gymuned yn cael eu cyfuno er bod mynydd yn eu gwahanu ac mae rhai cynigion ble mae dau bentre yn yr un gymuned yn cael eu gwahanu.
"Rydyn ni'n gofidio am faint rhai o'r etholaethau arfaethedig. Mae maint rhai yn golygu y bydd hi'n her i gynrychioli etholwyr."
Dywedodd Ben Whitestone, ysgrifennydd y comisiwn: "Mae'r comisiwn wedi llunio cyfres o gynigion cychwynnol sy'n bodloni gofynion Deddf 2011.
"Hefyd rydyn ni wedi ystyried ffactorau perthnasol eraill ac wedi ceisio dod o hyd i'r atebion mwyaf addas ar gyfer anghenion lleol yng Nghymru.
"Hoffwn bwysleisio mai cynigion cychwynnol yw'r rhain ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y cyhoedd yn cymryd rhan yn y broses ymgynghori sy'n dechrau nawr."
Fe fydd cyfnod ymgynghori yn para am dri mis.
Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys enwau'r etholaethau newydd yn ogystal â'r ffiniau newydd.
Fe fydd cyfarfodydd cyhoeddus yn Abertawe, Caerdydd, Wrecsam, Caernarfon a Llandrindod o fewn wythnosau.
Bydd y cynlluniau terfynol yn cael eu cyflwyno yn Hydref 2013 gyda'r bwriad y bydd y newidiadau'n barod cyn yr Etholiad Cyffredinol.
Dywedodd y Blaid Lafur: "Bwriad y cynlluniau wedi'u hyrwyddo gan y Llywodraeth Glymblaid yn Llundain yw lleihau dylanwad a llais Cymru yn San Steffan.
"Mae'r Blaid Lafur wastad wedi gwrthwynebu'r cynlluniau ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny."
Dywedodd fod cyhoeddi'r cynigion yn gyfle i gymunedau ddechrau trafod "dyfodol cynrychiolaeth ddemocrataidd yng Nghymru ..."
Mae'n bosib y bydd y Ceidwadwyr yn poeni oherwydd y gallai etholaethau Preseli Penfro a Gorllewn Caerfyrddin a De Penfro ddod i ben.