Carwyn Jones yn galw am 'ailystyried'
- Cyhoeddwyd
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod angen newidiadau radical er mwyn atal Aelodau Seneddol Lloegr rhag dominyddu'r senedd pe bai'r Alban yn gwahanu oddi wrth y DU.
Pe baid sefyllfa o'r fath yn codi dywedodd Mr Jones y byddai angen cydbwyso Tŷ'r Cyffredin gyda siambr arall gyda chynrychiolaeth gyfartal o Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Ychwanegodd y gallai'r sustem fod yn seiliedig ar senedd yr Unol Daleithiau.
Wrth siarad yng Nghyngor Prydain ac Iwerddon yn Nulyn, dywedodd y byddai'n gresynu'n fawr pe bai'r Alban yn gadael y DU.
'Ailystyried sylfaenol'
Roedd yn ateb cwestiwn am beth fyddai'n digwydd pe bai'r Alban yn gadael y DU pan ddywedodd wrth newyddiadurwyr:
"Yn sicr fyddai pethau ddim yn gallu parhau fel ag y maen nhw nawr.
"Fedrwch chi ddim cymryd yr Alban allan a disgwyl i'r DU barhau fel o'r blaen.
"Er enghraifft fe fyddai gennych senedd yn Llundain gyda thua 550 o ASau - 510 o'r rheini o Loegr. Dyw hynny'n dda i ddim i ni o gwbl.
"Fe fyddai angen ailystyried sylfaenol o natur y berthynas rhwng y tair gwlad sy'n parhau o fewn y DU er mwyn sicrhau y byddai corff sefydlog lle mae pobl yn teimlo fod ganddynt gynrychiolaeth lawn."
'Strwythur ffederal'
Wrth siarad gyda phapur newydd y Guardian yn ddiweddarach, dywedodd y dylai'r DU ystyried dilyn esiampl America pe bai'r Alban yn gadael.
"Pam ddim cael tŷ uchaf gyda chynrychiolaeth gyfartal o Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon - fel y senedd yn America," meddai.
"Byddai'n fwy o strwythur ffederal.
"Mater i bobl yr Alban yw beth y maen nhw'n ei wneud, ond does dim dwywaith na fydd pethau gallu cario 'mlaen fel arfer."
Yn ddiweddarach, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth BBC Cymru:
"Fe ddywedodd y prif weinidog yn glir y byddai'n rhaid i newid mawr ym mherthynas yr Alban gyda gweddill Prydain - neu ei gwahanu oddi wrth weddill y DU - arwain at ailystyried radical o berthynas cyfansoddiadol Cymru.."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2011