Murphy'n annog datganoli i Loegr
- Cyhoeddwyd
Dywedodd cyn ysgrifennydd Cymru a Gogledd Iwerddon, Paul Murphy, y gallai datganoli rhanbarthau Lloegr warchod buddiannau pobl ar draws y DU.
Daeth sylwadau Mr Murphy yng nghanol dadl am fap gwleidyddol Prydain os fydd yr Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth.
Dywedodd: "Mae pobl yn gweld Cynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru yn gweithio'n dda i amddiffyn buddiannau Cymru.
"Rwy'n credu y byddai pobl am weld hynny'n digwydd yn eu rhanbarthau nhw yn Lloegr hefyd."
Roedd Mr Murphy, Aelod Seneddol Torfaen, yn trafod y goblygiadau i ddyfodol y Deyrnas Unedig o ganlyniad i refferendwm am annibyniaeth i'r Alban yn 2013 neu 2014.
Dywedodd wrth BBC Radio Wales nad oedd yn credu y byddai pobl yr Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth, ond fod datganoli eisoes wedi codi cwestiynau am y berthynas rhwng y pedair gwlad yn y DU.
'Cyfnod gwahanol'
Beth bynnag fydd penderfyniad yr Alban, meddai, roedd rhaid mynd i'r afael â rheolaeth Lloegr yn San Steffan yn enwedig o ystyried cynllun i leihau nifer yr ASau o Gymru o 25%.
"I bob pwrpas mae'n senedd i Loegr yn yr ystyr fod gan Loegr llawer mwy o ASau na Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda'i gilydd," meddai.
"Dyna pam yr ydym yn dadlau'n gryf am y nifer o aelodau o Gymru er mwyn cadw'n llais.
"Er gwaetha' hynny mae angen ystyried sut y byddai rhanbarthau Lloegr yn ymateb i ddatblygiad pellach.
"Er na wnaeth hyn weithio o'r blaen pan fu refferendwm yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, dydw i ddim mor siŵr na fyddai datganoli i Loegr yn cael ei ddiystyru erbyn hyn.
"Mae'n gyfnod gwahanol, ac fe ddylai pobl ystyried cael llywodraeth ranbarthol yn Lloegr yn fodd o gymryd cam ymlaen yn gyfansoddiadol."
Siambr arall
"Mae'n ymddangos i mi fod pobl yn gweld y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn gweithio'n dda i warchod buddiannau Cymru, ac rwy'n credu y byddai pobl am weld hynny'n digwydd yn eu rhanbarthau eu hunain yn Lloegr hefyd."
Ddydd Gwener, awgrymodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y dylid sefydlu siambr arall tebyg i senedd yr Unol Daleithiau gyda chynrychiolaeth gyfartal o Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon pe bai'r Alban yn mynd yn annibynnol.
Ond dywedodd hefyd y byddai'n gresynu'n fawr gweld yr Alban yn gadael y DU.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2011