Yr Urdd yn edrych ymlaen at y degawd nesaf

  • Cyhoeddwyd
Logo'r UrddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mudiad yn edrych ymlaen at y 10 mlynedd nesaf

Mae Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru yn dweud bod angen i'r mudiad ddatblygu mwy o weithgareddau sy'n caniatau i blant a phobl ifanc "gael budd cymdeithasol drwy'r Gymraeg".

Mae hynny, a phenodi swyddog ieuenctid ym mhob rhanbarth, dyblu nifer y swyddogion a chlybiau chwaraeon a denu 10,000 yn rhagor o blant i gystadlu ar lefel leol yn Eisteddfod yr Urdd ymhlith y cynlluniau gan y mudiad.

Fe wnaeth Efa Gruffudd Jones gyhoeddi dogfen, "Ymlaen i'r 100, dolen allanol" sy'n amlinellu gweledigaeth yr Urdd ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.

Daw'r ddogfen yn ystod yr wythnos y mae mudiad ieuenctid mwya' Cymru yn dathlu ei phenblwydd yn 90 oed.

Yn ôl y mudiad, mae'n bwysog datblygu mwy o weithgareddau sy'n ateb anghenion pobl ifanc er mwyn iddyn nhw "fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg a chael budd o'u profiadau cymdeithasol trwy gyfrwng yr iaith".

Mwy o wirfoddolwyr

Fe fyddai Swyddog Ieuenctid penodol i hybu'r Gymraeg ym mhob un o 17 rhanbarth yr Urdd, yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a phobl ifanc er mwyn creu'r cyfleoedd hyn, yn ôl y mudiad.

Disgrifiad,

Garry Owen yn holi Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru

O ran chwaraeon, dywed y ddogfen eu bod yn gobeithio, drwy gael mwy o swyddogion chwaraeon, sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael cyfle i wneud gweithgareddau chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg.

Maen nhw am ddyblu nifer y clybiau chwareon o 70 i 140 a chynyddu nifer y gwirfoddolwyr o 600 i 1,000.

Mae'r mudiad hefyd yn dymuno cynyddu'r nifer sy'n mynychu'r gwersylloedd fel y gellir gwneud buddsoddiadau pellach i'r safleoedd, a sefydlu rhaglen ymestyn i'r gymuned, fydd yn galluogi plant a phobl ifanc o bob cefndir i fwynhau gweithgareddau awyr agored.

Mae Eisteddfod yr Urdd yn gobeithio cynyddu'r nifer sydd yn cystadlu ar lefel lleol o 10,000 a chynyddu'r nifer sydd yn mynychu'r Eisteddfod Genedlaethol o 20,000.

"Mae'n 90 mlynedd ers y gwahoddiad i blant Cymru ymuno gyda mudiad ieuenctid cyffrous a newydd," meddai'r Prif Weithredwr.

'Uchelgeisiol'

"Ein nod heddiw yw cynnig cyfle i blant a phobl ifanc Cymru fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Efa Gruffudd Jones, er yn gynllun uchelgeisiol, mae modd ei gyflawni

"Mae'r nod yn un gynyddol heriol mewn amgylchfyd ieithyddol a chymdeithasol sy'n newid yn gyson."

Dywedodd fod yr hyn sydd wedi ei gyhoeddi yn y ddogfen yn "gynllun uchelgeisiol a chyffrous" ar gyfer y 10 mlynedd nesaf, ond yn "gynllun y gellir ei gyflawni".

"Mae'r meysydd datblygu yn seiliedig ar ein gwaith ymchwil a'n hadnabyddiaeth o blant a phobl ifanc.

"Mae gan yr Urdd 50,000 o aelodau a 950 o ganghennau ym mhob cwr o Gymru, sy'n cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol