David Cameron yn rhoi cyfarchion i'r Urdd yn 90 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog, David Cameron, wedi anfon cyfarchion pen-blwydd at yr Urdd sy'n 90 oed yr wythnos hon.
Dydd Llun bu aelodau'r mudiad yn cwrdd ag Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn Nhŷ Gwydr, Whitehall a chael tynnu eu llun tu allan i Rif 10 Stryd Downing.
Y pum aelod aeth i Lundain gyda Phrif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones, oedd aelodau o Fforwm Ieuenctid yr Urdd Ceredigion a Myrddin, Rhiannon Hincks, Ysgol Penweddig; Sian Elin Williams, Ysgol Llambed; Sioned Evans, Ysgol Bro Myrddin ac Efa Dafydd a Martha Grug Rhys, Ysgol Maes yr Yrfa.
"Mae'r Urdd wedi dihuno dychymyg cenedlaethau o bobl ifanc Cymru ers ei sefydlu," meddai Mr Cameron.
"Mae rhwydweithiau'r Urdd wedi rhoi cyfle i blant o bob cefndir ymuno gyda'i gilydd i ddathlu hanes a threftadaeth Cymru drwy gyfuniad o gerddoriaeth, dawns a drama, yn ogystal â gwyddoniaeth a thechnoleg.
Gwaith caled
"Ers y dyddiau cynnar mae'r mudiad wedi bod wrth galon meithrin balchder yn niwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg.
"Mae'r tri gwersyll yng Nglan-llyn, Llangrannog a Chaerdydd yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc wneud ffrindiau am oes a throchi'u hunain yn yr iaith."
Dywedodd yr hoffai ddiolch i bawb oedd yn ymwneud â'r Urdd am eu holl waith caled - a dymuno'r gorau i'r Urdd ar gyfer y dyfodol.
Ychwanegodd Cheryl Gillan ei bod yn edrych ymlaen at gyfarfod ag aelodau a staff a blasu gwaith yr Urdd yn ddiweddarach eleni.
"Yn ystod yr haf byddaf yn mynd i weld sioe Theatr Ieuenctid yr Urdd, Sneb yn Becso Dam, fydd yn cynnwys criw o berfformwyr talentog, fel rhan o Olympiad Diwylliannol 2012.
'Ystod eang'
"O ganlyniad i'r Urdd mae cenedlaethau o bobl ifanc wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau artistig a chreadigol trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae Bryn Terfel, Matthew Rhys, Cerys Matthews, Aaron Ramsey a Shane Williams yn gyn-aelodau ac wedi talu teyrnged i'r mudiad gyfrannodd at eu gyrfa lwyddiannus.
Cyn cychwyn ar y daith dywedodd Rhiannon Hincks ei bod yn edrych ymlaen at gyfarfod Ysgrifennydd Cymru a gweld drws du enwog rhif 10 Stryd Downing.
"Rydyn ni'n cael cyfle yn y prynhawn hefyd i gyfarfod â'r Arglwydd Wigley a Jonathan Edwards, AS Gorllewin Caerfyrddin a Dinefwr.
"Rydym wedi cael profiadau gwych gyda'r Urdd, gan gynnwys prosiect sydd newydd ddod i ben o'r enw Trafodiaith.
"Yn ystod y tri mis yn gwneud y prosiect buon ni'n trafod y problemau sy'n wynebu siaradwyr Cymraeg heddi a cheisio dod o hyd i atebion iddyn nhw drwy gyfrwng theatr fforwm.
"Roedd hwn yn gyfle gwych arall."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2011