Ymgeisydd: 'Annibyniaeth yn ganolog'

  • Cyhoeddwyd
Elin JonesFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Elin Jones y byddai buddugoliaethau i Blaid Cymru yn etholiadau 2016 a 2020 yn ddigon o fandad i gynnal refferendwm ar annibyniaeth

Mae un o'r ymgeiswyr am arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi dweud y bydd yn gosod annibyniaeth i Gymru yng nghalon platfform etholiad y blaid.

Dywedodd Elin Jones y byddai buddugoliaethau i Blaid Cymru yn etholiadau 2016 a 2020 yn ddigon o fandad i gynnal refferendwm ar annibyniaeth.

Dyma'r tro cyntaf i ffigwr amlwg yn y blaid awgrymu y gellir cynnal refferendwm o fewn y 10 mlynedd nesaf.

Honnodd Ms Jones y byddai dwy fuddugoliaeth, fel y mae'r SNP wedi hawlio yn Yr Alban, yn rhoi'r hawl i Blaid Cymru ofyn y cwestiwn am annibyniaeth i bobl Cymru.

Daw ei galwad wrth i'r SNP gyhoeddi ymgynghoriad ar sut y bydd refferendwm ar annibyniaeth yn Yr Alban yn gweithio'n ymarferol.

Mae disgwyl y bydd Elin Jones, Simon Thomas, Leanne Wood a'r Arglwydd Elis-Thomas yn sefyll yn y ras i fod yn arweinydd newydd i Blaid Cymru pan fydd y rhestr enwebiadau yn cau ddydd Iau, Ionawr 26.

'Dwy fuddugoliaeth'

"Mae yna drafodaeth yn digwydd nawr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban am ddyfodol cyfansoddiad y DU," meddai Ms Jones.

"Rwyf am weld Plaid Cymru yn cymryd rhan lawn yn y drafodaeth er mwyn ein harwain i fod yn genedl annibynnol lwyddiannus.

"Rwyf o'r farn yn bendant y byddai dwy fuddugoliaeth yn olynol i Blaid Cymru, fel sydd wedi digwydd gyda'r SNP yn Yr Alban, yn gallu arwain at refferendwm ar annibyniaeth i Gymru."

Ychwanegodd bod angen i Blaid Cymru gael ffocws cliriach ar ei hamcanion cyfansoddiadol.

"Mae yna ddyhead o fewn Plaid Cymru i amlinellu'n glir i ni'n hunain, ynghyd ag i bobl Cymru, ein llwybr tuag at annibyniaeth, beth yr ydym yn ei olygu wrth annibyniaeth a'r dewisiadau sy'n wynebu pobl Cymru ar y llwybr yna.

"Rhaid i ni hefyd fod yn gliriach am ein huchelgais i Gymru, ac am ein hamcan cyfansoddiadol i Gymru.

"Ond yn y pen draw, pobl Cymru fydd bob tro'n penderfynu ar ddyfodol y wlad hon - dyna'r prif egwyddor i Blaid Cymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol