Pêl-droed: Cymru i wynebu Mecsico

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm MetLife, New JerseyFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cynhelir y gêm yn Stadiwm MetLife yn New Jersey ger Efrog Newydd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd y tîm cenedlaethol yn teithio i'r Unol Daleithiau i chwarae yn erbyn Mecsico ar Fai 27.

Bydd y gêm gyfeillgar yn cael ei chwarae yn Stadiwm MetLife yn New Jersey ar gyrion Efrog Newydd.

Dyma fydd y trydydd tro i'r ddwy wlad gwrdd - y tro cyntaf oedd yng Nghwpan y Byd 1958 yn Sweden pan orffennodd y gêm yn gyfartal 1-1.

Yn 1962, fe gyfarfu'r ddau eto ym mhrifddinas Mecsico, ac er gwaetha gôl gan John Charles fe gollodd Cymru o 2-1.

I'r ddau dîm, bydd y gêm yn rhan o'r paratoadau ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014, a bydd Mecsico yn chwarae pedair gêm yn yr Unol Daleithiau gyda'r gweddill yn erbyn Venezuela, Colombia a Bosnia-Herzegovina.

'Cyfle gwych'

Dywedodd rheolwr newydd Cymru, Chris Coleman: "Bydd hwn yn gyfle gwych i'r tîm brofi eu hunain yn erbyn un o'r timau gorau yn yr Americas.

"Mae gan Fecsico ddigon o chwaraewyr o'r safon uchaf, ac fe fydd yn ddiddorol gweld sut mae'r tîm yn ymdopi gyda steil gwahanol ein gwrthwynebwyr."

Stadiwm MetLife yw cartref y ddau dîm pêl-droed Americanaidd yn Efrog Newydd - y Giants a'r Jets - ac mae lle ynddo ar gyfer 82,000 o gefnogwyr.

Bydd y Superbowl yn cael ei gynnal yn y stadiwm yn 2014, ac eisoes mae saith o gemau pêl-droed wedi cael eu cynnal yno.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol