Cadeirydd yn amddiffyn penderfyniad
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd ymddiriedolwyr elusen sydd wedi ei beirniadu wedi amddiffyn ei hymddygiad.
Mae Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru-Gyfan, Awema, wedi cael ei feirniadu wedi honiadau o anghysonderau ariannol a bwlio staff.
Mae adroddiad annibynnol wedi argymell y dylid gwahardd y prif weithredwr, Naz Malik, o'i waith tan i wrandawiad disgyblu gael ei gynnal. Mae eisoes wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig.
Ond dywedodd y cadeirydd Dr Rita Austin ei bod wedi gwneud penderfyniadau anodd er lles yr elusen.
Dros yr wythnosau diwethaf mae Mr Malik wedi cael ei gyhuddo o anghysonderau ariannaol a bwlio staff.
Mae'r elusen yn delio gyda bron £8.5 miliwn o arian cyhoeddus ac yn ei ddosbarthu i grwpiau lleiafrifoedd ethnig eraill yng Nghymru.
Dywedodd Dr Austin y byddai gwahardd Mr Malik wedi golygu costau mawr.
"Rhaid i mi wneud y penderfyniadau yma ar ran yr elusen yn ôl fy marn i," meddai wrth raglen Dragon's Eye ar BBC Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i'r honiadau, ac fe fydd yn siarad gydag Aelodau Cynulliad ddydd Llun.
Yn y cyfamser dywedodd Mr Malik na fyddai'n briodol iddo wneud sylw.
Mae'r honiadau yn ymwneud â Mr Malik a'i ferch, Tegwen Malik - cyfarwyddwr gweithredoedd Awema.
Datgelodd Dragon's Eye yr wythnos ddiwethaf bod miliynau o bunnau o arian yr elusen wedi cael ei ddal yn ôl gan Lywodraeth Cymru tan i ymchwiliad ddigwydd.
Comisiynwyd ymchwiliad i'r mater gan yr ymddiriedolwyr gan Paul Dunn - cyn-bennaeth elusen lleiafrifoedd ethnig yn Lloegr.
'Risg uchel'
Fe wnaeth argymell y dylid gwahardd Mr Malik tan i wrandawiad disgyblu pellach ddigwydd i'r honiadau. Mae Mr Malik yn dal yn ei swydd ar ôl derbyn rhybudd ysgrifenedig.
Mae nifer o aelodau o staff, cyn-ymddiriedolwyr a Mr Dunn wedi dweud wrth Dragon's Eye nad yw Llywodraeth Cymru wedi cysylltu gyda nhw.
Dywedodd yr AC Ceidwadol Darren Millar ei fod wedi ysgrifennu ar Brif Gwnstabl Heddlu'r De i ofyn am ymchwiliad llawn, gan ychwanegu nad oedd ganddo hyder yn yr ymchwiliad presennol.
Ddydd Mercher, dywedodd ysgrifennydd parhaol Llywodraeth Cymru, Y Fonesig Gillian Morgan, wrth Mr Millar y dylai'r elusen fod wedi cael ei labeli'r "risg uchel."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2012