Gwaharddiad 7 wythnos i Bradley Davies

  • Cyhoeddwyd
Bradley Davies yn derbyn cerdyn melyn yn y gêm yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ddydd Sul Chwefror 5Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn melyn gafodd Bradley Davies yn ystod y gêm

Mae clo tîm rygbi Cymru, Bradley Davies, wedi cael gwaharddiad sylweddol gan banel disgyblu yn Llundain ddydd Mercher.

Bydd allan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn llwyr.

Cerdyn melyn gafodd am dacl anghyfreithlon yn y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ddydd Sul.

Cafodd ei enwi gan swyddog adolygu'r gêm ac fe benderfynodd y panel na fyddai'n cael chwarae eto tan Fawrth 26.

Doedd y penderfyniad ddim yn gwbl annisgwyl wedi i hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, gyfaddef ar ôl y gêm fod Davies wedi bod yn lwcus i beidio â chael cerdyn coch.

Mae'r gwaharddiad o saith wythnos yn golygu na fydd ar gael ar gyfer gemau Cymru yn erbyn Yr Alban, Yr Eidal, Lloegr a Ffrainc.

Dosbarth gwaethaf

Ym marn y panel disgyblu - dan gadeiryddiaeth Antony Davies o Loegr - roedd tacl Davies yn ddigon drwg i gael ei osod yn y dosbarth gwaethaf o droseddau.

Fe fyddai hynny wedi golygu cosb o 10 wythnos, ac fe ychwanegodd y panel bythefnos ychwanegol fel mesur ataliol fel bod eraill ddim yn cyflawni troseddau tebyg.

Ond fe wrandawodd y panel ar apeliadau ar ran Davies, gan ystyried ei record dda yn flaenorol, y ffaith iddo bledio'n euog i'r drosedd a'i ymddygiad yn y gwrandawiad cyn penderfynu gostwng y gosb o'r mwyafswm posib, sef pum wythnos.

Bydd Bradley Davies yn cael ailddechrau chwarae rygbi ar Fawrth 26, ac mae ganddo'r hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y panel.

Mae dau glo arall Cymru, Alun Wyn-Jones a Luke Charteris, eisoes wedi eu hanafu - mae Wyn-Jones yn annhebygol o chwarae yn erbyn Yr Alban tra bod Charteris allan o'r bencampwriaeth yn llwyr.